David Rees: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae athrawon sy'n pryderu'n fawr ynglŷn â beth fydd yn digwydd yn arholiadau haf 2021 wedi bod mewn cysylltiad â mi. Mae angen iddynt fod yn ymwybodol o ba asesiadau y bydd disgyblion yn eu cael fel y gallant baratoi disgyblion a pharatoi eu gwaith. Ac os bydd yn ddull a gymedrolir yn fewnol, mae angen iddynt hefyd ddeall y gwaith ychwanegol y bydd ei...
David Rees: 4. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd yr adolygiad o ddyfarnu canlyniadau arholiadau yn ystod haf 2020 yn cael ei gyhoeddi? OQ55757
David Rees: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch y meini prawf a ddefnyddir i gael mynediad at y gronfa ffyniant gyffredin?
David Rees: Cwnsler Cyffredinol, cytunaf yn llwyr ag Alun Davies pan fynegodd ei bryderon am Fil y farchnad fewnol, fel y gwnaethoch chithau yn eich dehongliad yn eich atebion hefyd. Ond onid yw'n wir hefyd y bydd y Bil hwn yn chwalu materion megis y fframweithiau cyffredin, sydd wedi'u negodi a'u trafod, yr adolygiad o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd, ac o bosibl hyd yn...
David Rees: Prif Weinidog, rydych chi newydd ddewis maes yr oeddwn i'n mynd i'ch holi chi yn ei gylch—cyllid Ewropeaidd Cymru. Nawr, mae ein prifysgolion wedi elwa ar gyllid Ewropeaidd—nid Horizon 2020 yn unig, ond ffrydiau eraill o gyllid Ewropeaidd. Pa sicrwydd ydych chi wedi ei gael gan Lywodraeth y DU y bydd unrhyw ffrwd ariannu y byddai prifysgolion wedi elwa arni ar gyfer gwaith ymchwil—er...
David Rees: Weinidog, rydych wedi ateb y cwestiynau pwysig yn y bôn, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau y gallant wynebu'r dyddiau anodd hyn, gan y byddant yn wynebu colled fawr o ran incwm yn ogystal â chostau heriol. Wrth i ni weld epidemig COVID-19 yn parhau i mewn i'r gaeaf, rydym bellach yn gweld sefyllfa lle roedd...
David Rees: Sut mae Llywodraeth Cymru yn rheoli datblygiad ffermydd gwynt ar y tir?
David Rees: Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad? Rwy'n llwyr gefnogi'r hyn y mae wedi bod yn ei ddweud ynglŷn â'r angen i weithredu. Dim ond y penwythnos diwethaf deuthum ar draws fan wedi'i pharcio ar ddarn cas o'r ffordd i fyny Cwm Afan, ac fe'm gorfodwyd i fynd i'r ffordd, ac ni ddylai'r sefyllfa honno fyth godi. Rwy'n derbyn popeth y mae wedi'i ddweud...
David Rees: Fe symudwn ni nawr at eitem 4, sef datganiad can y Dirprwy Weinidog a'r Brif Chwip ar Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020. Rwy'n galw ar Jane Hutt.
David Rees: Weinidog, yn amlwg, bu’r Gymdeithas Cludo Nwyddau gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yr wythnos diwethaf, ac roedd un o’u pryderon yn ymwneud, nid â’u hunain—dywedasant y byddent yn cael trefn ar bethau yn ystod deufis cyntaf y flwyddyn nesaf—ond pryderon cleientiaid, a'r gwaith papur yn sgil materion tollau mewn perthynas â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi...
David Rees: Weinidog, diolch i chi am yr ateb i Helen Mary Jones, oherwydd mae llawer o fusnesau yng nghwm Afan sydd wedi bod yn dibynnu ar y fasnach ymwelwyr ar gyfer beicio mynydd a'r llwybrau rhagorol i fyny yno. Felly, bydd yr ateb hwnnw'n eu helpu'n fawr oherwydd byddant yn gweld eu niferoedd yn gostwng, oherwydd maent yn fusnes o'r tu allan i'r fwrdeistref sirol, nid o reidrwydd o'r tu mewn,...
David Rees: Unwaith eto, mae ein Cadeirydd wedi rhoi cyflwyniad trylwyr a chryf iawn i’r adroddiad yn ei gyfraniad y prynhawn yma, a hoffwn ategu ei deyrnged i holl staff y GIG a’r gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru am yr hyn a wnaethant pan oedd y pandemig ar ei anterth ac ers hynny, a'r hyn y maent yn parhau i’w wneud yn awr ac y byddant yn ei wneud drwy'r gaeaf rwy'n siŵr. Buom yn curo...
David Rees: Weinidog, fe wyddoch fy mod wedi ysgrifennu atoch ym mis Awst i ofyn am adolygu'r system, yn dilyn cyhoeddi'r canlyniadau, ac rwy'n falch iawn fod yr adolygiad yn mynd rhagddo. Ond rwy'n poeni am arholiadau, neu arholiadau posibl, yr haf nesaf. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd yr haf nesaf. Ond gwn hefyd fod llawer o athrawon a disgyblion yn poeni beth fydd yn digwydd...
David Rees: Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma ac am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo ein busnesau drwy gydol y pandemig hwn. Ategaf bryderon Helen Mary Jones ynglŷn â'r sector dur. Gwrandewais ar eich atebion, ond rwyf wedi colli hyder yn Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, yn enwedig gan ei bod yn ymddangos bod Prosiect Birch wedi dod i ben. Felly, gofynnaf i chi...
David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod ni wedi archwilio'n fawr iawn gyda chydweithwyr y sefyllfa y mae'r Bil hwn, yn gyfansoddiadol, yn ei rhoi ni ynddi, ac ni wnaf archwilio hynny cymaint â hynny ymhellach. Ond rwy'n credu bod arnom ni angen—. Rydym ni wedi clywed y rhethreg yn amlwg iawn gan gefnogwyr Brexit dros y blynyddoedd diwethaf y bydd gennym ni bwerau drwy i'r UE eu rhoi...
David Rees: Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad, a hoffwn ddiolch ar goedd i'r holl weithwyr cymdeithasol iechyd a gofal hynny sydd wedi gweithio y tu hwnt i bob disgwyl yn y chwe mis diwethaf, ac a fydd yn gweithio y tu hwnt i bob disgwyl yn y chwe mis nesaf hefyd. Cytunaf â'm cyd-Aelod Alun Davies o Flaenau Gwent o ran profi, ond rydych wedi ateb hynny, felly ni fyddaf yn gwthio'r agenda honno ar...
David Rees: Trefnydd, mae twristiaeth wedi bod yn un o'r sectorau y mae'r pandemig wir wedi cael effaith wael arno, ond eto gall twristiaeth hefyd fod yn un o'r sectorau a all sbarduno ein hadfywiad o'r economi wrth i ni symud ymlaen. Nawr, gyda hynny mewn golwg, yn amlwg, rydym ni eisiau ceisio hyrwyddo twristiaeth a hyrwyddo prosiectau sy'n datblygu twristiaeth cymaint â phosibl. I'r perwyl hwnnw, mae...
David Rees: Gweinidog, ar sawl achlysur gerbron y pwyllgor, rydych chi wedi nodi'r heriau yr ydych chi wedi'u hwynebu wrth geisio cael Llywodraeth y DU i gyflwyno syniadau a phenderfyniadau ac i gydweithio mewn gwirionedd â Llywodraeth Cymru. A ydych chi felly, fel finnau, yn gresynu wrth agwedd Llywodraeth y DU at hyn o ran y negodi rhwng yr UE a'r DU, ac y dylid cael mwy o ymgysylltu â Llywodraeth...
David Rees: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r maniffesto gan ei fod yn hollbwysig. Mae gweithgynhyrchu yng Nghymru wedi bod yn sylfaen i lawer o'n heconomi dros y blynyddoedd, a dros y canrifoedd a dweud y gwir, ac mae'n bwysig. Mae angen i ni barhau â hynny. Rydym ni wedi gweld colledion yn Airbus, GE. Mae gweithgynhyrchu wedi cael ei daro gan COVID yn ddifrifol iawn....
David Rees: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru? OQ55476