David Rees: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac rwy'n croesawu'r hyn y mae wedi ei ddweud. Mae'n amlwg yn bwysig ein bod yn awr yn mynd i'r afael â rhai o faterion deddfwriaethol Brexit, oherwydd mae pobl yn dal i gredu bod Brexit wedi ei wneud, ond rydym ni gyd yn gwybod nad yw Brexit wedi ei wneud eto. Mae llawer o bethau o'n blaenau, ac rydym ni'n wynebu cyfnod heriol....
David Rees: A gaf fi ofyn am ddau ddatganiad, Gweinidog? Ddoe, cawsom ni'r newyddion gwych bod 100 o swyddi yn cael eu neilltuo yn William Hare yn Rhisga mewn gwaith dur ffabrigedig. Ond, mewn cyfweliad â'r darlledwyr newyddion, nododd y rheolwr gyfarwyddwr fod gweithfeydd Port Talbot yn rhan hanfodol o ddyfodol y diwydiant dur, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU. Nawr, rwy'n deall bod Gweinidog yr...
David Rees: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb yng nghyswllt y pwynt hwnnw? Yr wythnos diwethaf, cawsom ddadl yma yn y Siambr ar ansawdd aer a Deddf aer glân, o bosibl. Canolbwyntiodd yn fawr ar allyriadau PM10, PM2.5 a cherbydau, ond wrth gwrs ychwanegir llygredd diwydiannol at hynny hefyd, yn enwedig llwch niwsans, y gallai pobl ei ystyried yn niwed i iechyd ond sydd hefyd yn gwaethygu...
David Rees: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau llygredd diwydiannol? OAQ55106
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddoe, 4 Chwefror, oedd Diwrnod Canser y Byd—y diwrnod penodol pan ofynnir i ni feddwl am yr effaith y mae canser yn ei chael ar y rheini sydd wedi cael diagnosis o unrhyw fath o ganser a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt hwy a'u hanwyliaid. Mae hefyd yn ddiwrnod pan fyddwn yn cydnabod gwaith gwych y timau meddygol, nyrsys arbenigol, timau cymunedol a'r ymchwilwyr...
David Rees: Diolch i'r Gweinidog am ei hateb, ac rwyf wedi darllen y datganiad ysgrifenedig, ac rydych yn nodi eich bod wedi cyfarfod â chabinet y Comisiynydd Hogan—ei dîm, rwy'n tybio, yn hytrach nag ef ei hun, efallai y gallwch egluro hynny. Ond fel y dywedwyd wrthym droeon gan bobl Brexit, efallai ein bod yn gadael yr UE, ond nid ydym yn gadael Ewrop. Nawr, y sefydliad masnachu cyfundrefnol mwyaf...
David Rees: 8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chynrychiolwyr o'r UE ynghylch strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ55048
David Rees: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch sefyllfa ariannol y byrddau iechyd?
David Rees: Diolch i'r Aelod. A yw hefyd yn dderbyniol, yn eich barn chi, mai'r rheswm y mae'r UDA am lunio cytundeb cyflym gyda'r DU yw er mwyn gwanhau cytundeb ac felly gryfhau eu dadl yn erbyn yr UE drwy ein cael mewn sefyllfa wannach fel y gallant ddadlau â'r UE fod y DU eisoes wedi derbyn y safonau is a bod yr UE felly am ofyn i wneud yr un peth? Felly, er eu budd hwy y mae, nid ein budd ni.
David Rees: Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Yn amlwg, un o'r problemau a welsom yn 2016 i 2019 oedd yr anhrefn llwyr a gafodd ei roi ar yr holl broses gan y Llywodraeth Geidwadol. Gwelsom fethiant ar ôl methiant ar ôl methiant i'w gyflawni mewn gwirionedd a chael cytundeb a fyddai'n fuddiol i Gymru. Onid ydych yn cytuno, yn y sefyllfa honno, na allwch gefnogi rhywbeth nad yw'n cyflawni dros bobl Cymru?
David Rees: Fe fydd yn fyr. Rwy'n derbyn yr hyn rydych newydd ei ddweud. Felly, pam y credwch fod Llywodraeth y DU wedi tynnu'r rhannau hynny allan o Fil yr UE (Cytundeb Ymadael) ar ôl iddynt gael eu mewnosod gan yr Arglwyddi? Fe wnaethant eu gwrthod yn llwyr. Nid oedd angen eu gwrthod.
David Rees: Diolch i chi am ddangos eich bod chi'n symud eich cefnogaeth i'r cyfeiriad rydym ni yn ei feddwl. Ni ddywedais feto erioed ac rwyf bob amser wedi dadlau yn erbyn feto. Hyd yn oed yn y ddadl ddiwethaf, dadleuais yn erbyn feto. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i'r trafodaethau gael eu gosod gan fandad y cytunwyd arno gyda'r holl wledydd datganoledig oherwydd mae'n hanfodol oherwydd bod...
David Rees: Fe gymeraf eich ymyriad, Darren.
David Rees: Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyfraniad yn llai gwleidyddol, mewn un ystyr, na'r hyn rydym newydd ei glywed. Rwy'n croesawu'r cyfle i ystyried effaith cyrraedd y terfyn amser sef 11 yr hwyr amser cymedrig Greenwich ddydd Gwener 31 Ionawr. Bydd fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, sy'n eistedd wrth fy ymyl, yn teimlo'n anesmwyth ar y dyddiad hwnnw gan ei fod yn bwynt allweddol ar gyfer penderfynu a...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw?
David Rees: Weinidog, y ffigurau a ddyfynnwyd gennych yn gynharach—129,000 o bobl yn cael cymorth, 50,000 o gartrefi—yn newyddion da ledled Cymru. Ond wrth gwrs, roedd y rhaglenni hynny'n seiliedig yn aml iawn ar warant a gynigiwyd gan yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Nawr, pan fo rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’r datblygwyr hynny—naill ai rydym wedi cael datblygwr amheus, neu...
David Rees: Gweinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei fod yn mynd i rewi'r recriwtio i swyddi gwag o ganlyniad i'r sefyllfa ariannol y mae'n ei hwynebu, fel ffordd o leihau'r sefyllfa ariannol a'r diffyg. Bydd hyn yn effeithio ar fy etholwyr, fel y bydd yn effeithio ar eich etholwyr chi, a llawer o rai eraill sy'n cynrychioli etholaethau yn ardaloedd Abertawe a...
David Rees: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Mae'n llygad ei le: dinasyddion y DU yw'r unigolion a fydd yn wynebu fwyaf o gyfyngiadau arnynt mae'n debyg, ac mae'n siomedig mai dyna fydd y sefyllfa. A gadewch i ni beidio ag anghofio pobl ifanc y DU sydd am fynd i weld y byd. Rydym yn cyfyngu ar eu cyfleoedd hwythau mewn bywyd hefyd. Tynnodd y Gweinidog Brexit sylw at weithgarwch Llywodraeth Cymru, ac...
David Rees: Rwy'n hapus iawn i wneud hynny.
David Rees: Na, nid wyf yn meddwl ei fod yn dod o'n meinciau ni. Rwy'n credu bod ein meinciau ni'n ceisio adlewyrchu, yn anffodus, yr hyn sy'n digwydd yn y gymdeithas oherwydd sylwadau eraill a wneir, yn bennaf gan bleidiau asgell dde, a chredaf ei fod yn rhywbeth y dylem fod yn ei herio ar bob achlysur am ein bod yn sôn am bobl sydd am fyw yma, sydd am weithio yma, sydd am gyfrannu yma, ac mae'r...