David Rees: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? Y cyntaf gan fy nghyd-Aelod ar y dde i mi, yn eistedd wrth fy ymyl, o ran yr amgueddfa gelf gyfoes y mae sôn wedi bod amdani a'r cynnydd sydd ar hynny. Yn amlwg, cyn y Nadolig, roeddem wedi dathlu blwyddyn ers i'r Banksy ymddangos yn Nhaibach ac erbyn hyn mae wedi symud i ganolfan siopa yn Station Road ym Mhort Talbot, gyferbyn...
David Rees: Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn gwybod bod y cytundeb ymadael y mae'r Bil yno i'w weithredu wedi cael ei negodi ym mis Hydref gan y Prif Weinidog gyda'r UE mewn gwirionedd. Does dim byd wedi newid ers y trafodaethau hynny. Roedd gennym ni Fil a gyflwynwyd gan Brif Weinidog y DU ym mis Hydref a fethodd, a phenderfynodd wedyn na fyddai'n bwrw ymlaen â'r Bil penodol hwnnw. Daeth yn ôl gyda...
David Rees: Nid wyf am greu geiriau, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, wrth i ni fwrw ymlaen â'r agenda hon, ein bod yn atgoffa ein hunain am y bobl go iawn rydym yn gofalu amdanynt, sef y cleifion. Ac os gallwn wneud popeth yn ein gallu i wneud gofal y claf yn well, dylem allu gwneud hynny. Ac os yw'r Bil lefelau staff nyrsio, y Ddeddf—mae'n rhaid i mi gofio ei gael yn iawn—am gyflawni hynny mewn...
David Rees: Tynnodd Helen sylw at y strategaeth cadw a recriwtio hefyd, sy'n un o'r themâu cyffredin mawr, ac fe leisiodd y pryderon yn ei chylch. Yn arbennig, rwy'n credu, soniodd am un peth. Rydym yn siarad yn aml iawn am gadw staff a straen, ond rydym hefyd yn anghofio weithiau fod llawer o'n staff yn cael eu llethu oherwydd eu bod, fel y dywedodd Angela, wedi gweithio oriau ychwanegol i'r hyn y...
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Cyn imi fynd ymlaen i edrych ar y drafodaeth a chyfraniadau'r Aelodau, a gaf fi hefyd ymuno i ddiolch i'r aelod Cabinet, y Gweinidog Addysg, oherwydd hi a lywiodd y Bil hwn drwy'r Cynulliad diwethaf, a'i yrru ymlaen, a byddwch yn cofio'r trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor ar sawl achlysur? Rwy'n...
David Rees: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae rheoli coedwigaeth yn amlwg yn faes eang, ond mae hefyd yn cynnwys ystyried cynaeafu ac ailblannu rhannau o'r goedwigaeth. Pan fyddwn yn sôn am gynaeafu, mae angen i ni geisio sicrhau hefyd nad ydym yn gadael sbwriel ar lawr, a'n bod yn defnyddio'r pren yn effeithiol ac yn effeithlon, gan fod llawer o fusnesau'n dibynnu ar rywfaint o'r pren hwnnw. Yn fy...
David Rees: Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar eu cais prosiect llwyddiannus i'r Loteri Genedlaethol i adfer mawndiroedd yng nghwm Afan uchaf a draw i ardal Rhondda Cynon Taf ger Glyncorrwg? Fel y gwyddoch, gall fod yn rhan o alpau Morgannwg, fel y dywedodd David Melding. A wnewch chi edrych...
David Rees: 8. Pa gynnydd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i wneud o ran rheoli coedwigaeth? OAQ54843
David Rees: Gweinidog, a gaf i groesawu'r datganiad a wnaethoch chi heddiw, ac a gaf i groesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun gweithredu gwirioneddol, oherwydd mae hynny'n hanfodol? Rwy'n sylwi bod sawl cyfeiriad at Bort Talbot. Fel y gallwch ddeall yn llwyr, mae'r goblygiadau i Bort Talbot yn aruthrol. Mae gennym draffordd yn mynd drwy'r ardal. Mae gennym y gwaith dur a diwydiannau...
David Rees: Prif Weinidog, mae'n amlwg mai un ecosystem yw'r twyni, ond amrywiaeth arall o'r ecosystem yw coedwigaeth, ac yn arbennig yng nghwm Afan, lle'r ydym ni wedi gweld llawer o goed yn cael eu cwympo gan Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd gwahanol amgylchiadau. Ond a ydych chi'n cytuno â mi, pan fydd cynaeafwyr yn dod i mewn, ac yn cael eu contractio i gwympo'r coed hynny, y dylen nhw gael gwared ar...
David Rees: Fodd bynnag, y cwestiwn yw hwn: sut y gellir diogelu Cymru rhag gorfod dioddef canlyniadau cytundebau masnach o'r fath? Mae'n gwestiwn sy'n rhaid ei ateb, ond nid wyf yn credu y caiff ei ateb drwy sefydlu feto, er fy mod yn siŵr y byddai Plaid Cymru wrth eu bodd yn gallu defnyddio'r fath wrthodiad fel rheswm arall dros annibyniaeth. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith ffurfiol i sicrhau...
David Rees: Roeddwn wedi meddwl y byddai'r ddadl hon yn ymwneud â Brexit a masnach, ond clywais lefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma mewn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud ei fod yn ymwneud â phreifateiddio'r GIG, ac nid wyf wedi clywed am ddim heblaw preifateiddio'r GIG y prynhawn yma. Fe geisiaf gadw rhag hynny cymaint ag y gallaf a chanolbwyntio ar faterion masnach. I mi gael tynnu sylw at...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: A yw'n dweud hefyd nad yw patentau a newid rheolau patentau ar y bwrdd?
David Rees: A yw hefyd yn dweud na fydd newidiadau i'r rheolau ar batentau ar y bwrdd? Oherwydd mae hwnnw'n ffactor pwysig wrth benderfynu ar y cyllid a phrisiau'r meddyginiaethau a ddaw o'r tu allan.
David Rees: Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Dair wythnos yn ôl yn unig, clywsom y newyddion gan Tata y bydd 3,000 o’u swyddi'n cael eu colli ledled Ewrop, ac roeddwn yn gwerthfawrogi eich datganiad ysgrifenedig ar 18 Tachwedd a'ch datganiad llafar ar 19 Tachwedd yn fawr. Dair wythnos yn ddiweddarach, ac rydym bellach yn cael datganiad arall sydd yr un mor amwys, ar un ystyr, â'r datganiad cyntaf. Yn...
David Rees: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel ynghylch colli 1,000 o swyddi yn y DU? 372
David Rees: A gaf i ymuno ag eraill i longyfarch ein pobl ifanc a'u staff a'u gwaith? Rwy'n siŵr y bydd pawb ar draws y Siambr hon yn ymuno â mi i'w llongyfarch. Gweinidog, rydych chi wedi ateb llawer iawn o'r cwestiynau ar bwyntiau yr oeddwn i eisiau eu codi, oherwydd mae'n amlwg eich bod yn angerddol ynghylch hyn a gallwch chi weld yr angerdd hwnnw yn dod trwodd. Rwy'n cytuno â chi, mae'r...
David Rees: Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw ac a gaf fi gefnogi cwestiwn Dai Lloyd? Oherwydd mae gennyf etholwr a ffoniodd am ambiwlans neithiwr mewn gwirionedd oherwydd bod eu merch angen cymorth meddygol. Cymerodd awr a hanner i ymatebwr cyntaf gyrraedd, a rhoddwyd drip morffin iddi, bu'n rhaid aros wyth awr am ambiwlans, a phan gyraeddasant Ysbyty Treforys rhaid oedd aros yn yr ambiwlans y tu allan....
David Rees: Mae honno'n sefyllfa siomedig iawn, Weinidog, oherwydd, yn amlwg, rydym yn deall yn iawn fod Llywodraeth y DU fel pe bai'n credu bod negodiadau masnach yn fater a gedwir yn ôl, ac na fydd y cenhedloedd datganoledig yn cymryd rhan yn y negodiadau hynny. Nid yw'n ymwneud â'r negodiadau o reidrwydd, ond bydd gosod yr agenda ar gyfer y negodiadau hynny'n hollbwysig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig...