Julie James: Wrth ailadrodd fy atebion i Russell George felly, mae gennym ymgyrch band eang lleol gwerth £1.15 miliwn a phrosiect busnes band eang cyflym iawn gwerth £12.5 miliwn, sy'n marchnata’r cynllun i fusnesau ac er mwyn annog defnydd. Rydym ni’n cydweithio'n agos â Busnes Cymru hefyd er mwyn sicrhau bod busnesau bach yn arbennig yn ymwybodol o'r hyn y gall band eang cyflym iawn ei gyflawni...
Julie James: Diolch i chi am y cwestiynau yna. Ni soniodd Russell George am y ffaith iddo fynnu cael gwybod yn y pwyllgor fore dydd Iau diwethaf, pa bryd y byddai fy natganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi, ac addewais iddo y byddai'n cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig. Felly, roeddwn i’n rhyw obeithio y byddech chi’n rhoi clod i mi am ei gyhoeddi’n eithaf cyflym, dim ond dau ddiwrnod yn ddiweddarach. O...
Julie James: Diolch, Lywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddoe rwyf eisiau ailddatgan y cynlluniau hynny ar gyfer buddsoddiad pellach mewn band eang cyflym iawn yn dilyn gorffen rhaglen Cyflymu Cymru y flwyddyn nesaf. Rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’n huchelgeisiau o ran y rhaglen 'Symud Cymru Ymlaen’ i gyflwyno band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru. Ni ddylid...
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw? Diolch hefyd i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl. Rwy’n diolch iddynt am ei bod yn glir iawn fod seilwaith digidol yn hanfodol o bwysig i bobl, cymunedau ac economi Cymru. Fel y dangosodd y cyfraniadau heddiw yn glir iawn, nid oes angen ailadrodd pwysigrwydd cynyddol...
Julie James: Mae’n 30 Mbps yma hefyd.
Julie James: Yn ffurfiol.
Julie James: Wel, nid wyf mewn sefyllfa i roi manylion llawn ynglŷn â strategaeth BA ar y safle i chi; rwy’n credu mai mater iddynt hwy yw gwneud hynny fel endid corfforaethol. A dyna a ddywedais, pan ddywedais y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn hysbysu’r Cynulliad am unrhyw newyddion—gan ei bod yn iawn ac yn briodol i’r Cynulliad gael gwybod beth yw’r cynllun,...
Julie James: Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, sydd i gyd yn bwysig iawn yn wir, a byddaf yn gwneud fy ngorau i’w hateb yn llawn. O ran pa bryd, mae’r Llywodraeth, drwy ei swyddogion ac ar lefel wleidyddol, wedi bod mewn cysylltiad â BA trwy gydol y flwyddyn hon. Cynhaliwyd cyfarfodydd ar lefel uwch yn gynharach eleni yn Llundain. Mae amrywiaeth o swyddogion yn ymwneud â BA ar bob adeg...
Julie James: Mae newyddion heddiw am ddiswyddiadau yng nghyfleuster cynnal a chadw British Airways yn anffodus. Mae BA yn chwilio am ddiswyddiadau gwirfoddol lle bo hynny’n bosibl. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda BA. Gofynnir i’r Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru i gefnogi’r holl staff yr effeithir arnynt, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn rhoi’r...
Julie James: Diolch. Ar y pwynt olaf, fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, mae angen i BT gyrraedd cynifer o safleoedd ag sy'n bosibl mor gyflym â phosibl i gyflawni ei ofynion cytundebol, ac rwy’n gwybod ei fod wedi cynnal adolygiad o'r cypyrddau yr oedd yn eu cynnig yn flaenorol i weld a ellir cynyddu’r capasiti ar hynny. Ac os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf eto am gwpwrdd 16, sef yr un yr...
Julie James: Iawn, Lywydd, mi wnaf ymatal rhag egluro eto, ond rwyf wedi ei esbonio sawl gwaith yn barod. Felly, nid wyf yn derbyn yr hyn y mae’n ei ddweud. Y peth olaf a ddywedodd, fodd bynnag, yr wyf yn ei dderbyn yn llawn: mae wedi mynd o fod yn rhywbeth moethus i fod yn hanfodol, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn addo ei gael i bawb. Yr hyn a ddywedais am fand eang ffibr oedd na fyddai pawb yn...
Julie James: A gaf i ddweud wrth Darren Millar cymaint yr wyf wedi colli ei ddicter cyfiawn; mae wedi bod yn absennol o'r Siambr am beth amser erbyn hyn, felly mae'n braf ei weld yn ôl yn ei anterth. Yn anffodus, mae ychydig yn or-eiddgar yn yr achos hwn, oherwydd credaf ei fod wedi methu, mewn gwirionedd, â gwrando'n ofalus iawn ar fy atebion blaenorol i'r Aelodau. Felly, rwyf am eu hailadrodd. Nid...
Julie James: Yn wir, ac mae'r Aelod yn wir yn ohebydd toreithiog ar y pwnc, fel y mae llawer o Aelodau yn y Siambr. Ond, ydi, rwy’n credu ei bod yn bwysig cydnabod y newid diwylliannol sydd wedi digwydd yn ystod y rhaglen hon. Yn 2013, pan ddechreuasom ni'r rhaglen hon, ymhlith y sylwadau mwyaf cyffredin gan bobl oedd, 'O, ni fyddwch fyth yn ei gael atom ni, ac nid ydym ei eisiau beth bynnag. Mae pobl...
Julie James: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig yna. Cawsom gyfarfod hir yn ddiweddar iawn i drafod rhai o'r materion hyn. Credaf ei bod yn bwysig peidio â chyfuno dau fater gwahanol. Un yw'r 'addewid', os mynnwch chi, oedd yn arfer bod gan BT ar eu gwefan y gallech fod o fewn cwmpas yn y tri mis nesaf. Roedd pobl yn iawn i fod yn anfodlon ar ôl i’r tri mis fynd heibio a hwythau heb eu cysylltu a...
Julie James: Felly, ar eich pwynt cyntaf, wrth gwrs nid gwledig yn unig yw hyn, dim ond bod y rhan fwyaf o ardaloedd lle nad oes cyflwyno masnachol yn wledig. Ond rydych yn gywir i nodi lle yn eich etholaeth eich hun lle na fu cyflwyniad masnachol, er, yn rhyfedd, mae triongl yng nghanol Abertawe nad oedd ganddo hynny ychwaith. Ond mae’n rhyw fath o gyffredinolrwydd ei fod, ar y cyfan, lle nad oes...
Julie James: Iawn, wel, diolch ichi am hynna, a diolch yn fawr iawn i chi am eich sylwadau caredig. Rydym yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi sicrhau bod Cymru yn un o'r arweinwyr mewn cysylltedd digidol ar draws Ewrop, ac mae'n fater o gryn bryder i ni ein bod yn cael pobl i fanteisio ar y buddion gan ein bod erbyn hyn wedi gwario'r arian i’w gyflwyno. Yn nhermau busnes yn manteisio, un o'r rhesymau...
Julie James: Diolch ichi am y gyfres o gwestiynau a sylwadau, Russell George. Nid yw diwrnod yn gyflawn yn fy swyddfa weinidogol i heb lythyr oddi wrthych chi ar Cyflymu Cymru; felly, rwy’n gwerthfawrogi yn fawr iawn eich diddordeb ar ran eich etholwyr yn y mater hwn. Byddaf yn ceisio rhoi sylw i bob un ohonynt. Y pwynt rhwymedigaethau cytundebol: nid ydym yn dibynnu ar adfachu o ganlyniad i fethiant BT...
Julie James: Diolch yn fawr iawn i chi am y pwyntiau yna. O ran y cyflwyno a’r mater natur wledig, y pwynt am y rhaglen hon yw ei bod yn seiliedig bron yn gyfan gwbl mewn ardaloedd gwledig, neu ardaloedd anfetropolitan, oherwydd mai ymyrraeth y farchnad ydyw. Felly, y pwynt amdano yw, ni chawn ond mynd i le nad yw'r farchnad yn mynd i fynd iddo. Felly, mae'n wireb, rwy'n ofni, nad yw’r farchnad ond...
Julie James: Diolch, Lywydd. Heddiw, rwyf eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar gynnydd Cyflymu Cymru, ynghyd â'n gwaith sy'n dod i'r amlwg i fynd i'r afael â'r ganran fechan olaf o safleoedd nad ydynt yn rhan o'r prosiect na chyflwyno masnachol ac ymagwedd newydd tuag at gyfathrebu a marchnata. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi bwysleisio i’r Aelodau bwysigrwydd cynyddol cysylltedd i gartrefi a...
Julie James: Superfast Cymru has provided access to superfast fibre broadband to 143,316 premises across north east Wales.