David Rees: 7. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran cynhyrchu concordat rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch trafodaethau masnach yn y dyfodol? OAQ54722
David Rees: Ac yn olaf, ymunaf â chi, Gweinidog—. Rwy'n gwerthfawrogi, Dirprwy Lywydd, ond i'm hetholwyr mae hyn yn hollbwysig. Mae'n hanfodol i ddyfodol fy nhref i, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n cael yr agweddau hyn yn glir. Ymunaf â chi o ran y cwestiwn am Lywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn poeni'n arw am lawer iawn o flynyddoedd am eu hymrwymiad i'r diwydiant dur. Mae hwn yn ddiwydiant...
David Rees: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ddoe, ac, unwaith eto, am y datganiad hwn heddiw a'r cyfle i ofyn cwestiynau ac i egluro ychydig o bwyntiau o ran y newyddion gan Tata am y posibilrwydd o golli 3,000 o swyddi ac agweddau eraill a amlygwyd gan y pedwar pwynt? Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod y 3.000 o swyddi a gollir yn digwydd ledled Ewrop, ond os ystyriwn fod traean o'r...
David Rees: Gweinidog, rwy'n awyddus i ddychwelyd at fater yr ydym ni wedi ei godi droeon yn y Siambr hon, a llun Banksy yw hwnnw. Cyn bo hir bydd blwyddyn gron wedi mynd heibio ers i Banksy gynhyrchu ei waith celf diweddaraf, Cyfarchion y Tymor, ym Mhort Talbot. Diolch i Lywodraeth Cymru, cafodd hwnnw ei warchod dros gyfnod y Nadolig, ac fe ariannodd Llywodraeth Cymru y gwaith o'i symud i leoliad llawer...
David Rees: A gaf i ymuno i fynegi'r un farn â chi, bod angen Llywodraeth arnom ni a fydd yn ymateb yn wirioneddol i'r menywod hyn, sydd wedi cael eu trin yn wirioneddol anghyfiawn? Ac rwyf i am ddatgan diddordeb nawr, gan fod fy ngwraig i fy hunan yn un o'r menywod hynny. Rwy'n siŵr fod yna lawer o rai eraill, ac rydym ni i gyd yn deall hynny. Mae colli incwm fel hyn yn golled enfawr. Roeddech chi yn...
David Rees: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna? Nawr, rwy'n deall pwysau'r gaeaf ar ein gwasanaethau yn llwyr, ac mae'n amlwg bod hynny'n arwain at oblygiadau o ran defnyddio gwelyau mewn ysbytai ac, o ganlyniad, llawdriniaethau dewisol, sy'n cael eu canslo wedyn o ganlyniad i brinder gwelyau. Rydym ni'n gweld hynny, rwyf i wedi cael profiad o hynny, ac mae llawer o'm hetholwyr wedi hefyd....
David Rees: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod niferoedd digonol o welyau ysbyty ar gael ar gyfer misoedd y gaeaf? OAQ54731
David Rees: Wel, diolch am eich ateb, Weinidog, ac nid oes amheuaeth fod llawer o sefydliadau da yn y gymuned yn gweithio gyda'r bobl ifanc hyn i'w galluogi i bontio o'r lleoliad gofal i leoliad byw'n annibynnol. Nawr, yn aml iawn, rydym yn gweld eu bod yn symud i mewn i un ystafell neu gegin fach mewn tŷ, lle maent yn rhannu ystafelloedd ymolchi a chyfleusterau toiled a lle ceir mynediad at warden...
David Rees: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl ifanc sy'n byw mewn gofal i ganfod tai addas sy'n diwallu eu hanghenion i fyw'n annibynnol? OAQ54673
David Rees: Trefnydd, y llynedd, ac yn gynharach eleni, yn wir fe gawsom adroddiadau gan uned gyflawni'r GIG ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn y gymuned. Tynnodd y ddau sefydliad sylw at agwedd cynllun gofal a thriniaeth y cynllun cyflawni hwnnw y mae Llywodraeth Cymru yn ei weithredu, a'r angen gwirioneddol i'w gryfhau. Rwyf wedi cyfarfod â Mind, ac...
David Rees: Yn anffodus, mae pryderon dwfn yn dal i fodoli heddiw ynghylch anghydraddoldebau iechyd a niferoedd anghymesur o farwolaethau pobl ag anabledd dysgu y gellir bod wedi eu hosgoi. Rwy'n siŵr y gall llawer ohonom fyfyrio ar achos etholwr sy'n tynnu sylw at y pryderon hyn. Mae'n rhywbeth sy'n fy mhoeni'n fawr, yn yr ystyr ein bod ni, yn 2019, yn dal i orfod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o'r...
David Rees: Weinidog, nododd etholwyr Angela Burns y pryderon ynghylch oedi posibl, ond beth yw eich ystyriaethau ar gyfer yr etholwyr hynny os caiff y cytundeb hwn ei dderbyn a bod gennym 11 mis i negodi cytundeb masnach rydd, sy'n annhebygol? Ymddengys bod pawb heblaw Michael Gove o'r farn fod hynny'n amhosibl, ac mae e'n bendant na fyddant yn gofyn am estyniad i unrhyw gyfnod pontio, sy'n golygu y...
David Rees: Ddirprwy Weinidog, wrth i'r gaeaf agosáu, mae'r oriau tywyll yn mynd yn hwy, ac felly mae angen inni edrych ar yrru yn ystod yr oriau tywyll, a byddem yn amlwg yn dibynnu ar oleuadau stryd, lle maent ar gael, i weithio'n effeithiol, yn enwedig ar hyd y cefnffyrdd. Nawr, ym Mhort Talbot, mae'r goleuadau stryd yn y rhan uwchddaearol wedi cael eu tynnu oddi yno ers misoedd lawer. Mae'r bonion...
David Rees: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, sydd wedi methu gwneud unrhyw beth ar ran dur, ac wedi canslo cyfarfod diweddaraf y cyngor dur yn ôl yr hyn a ddeallaf, a oedd yn hollbwysig gan nad oes un wedi'i gynnal ers 18 mis, ac nid oes ganddynt un o hyd—. Maent hefyd wedi methu cynhyrchu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer y sector dur, ac nid ydynt hyd yn oed wedi...
David Rees: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu swyddi gweithwyr dur Cymru? OAQ54632
David Rees: Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ei ddatganiadau ysgrifenedig dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn ag Orkambi a Symkevi, ac rydym ni yn awr mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n ceisio cael bargen gyda Vertex ar y mynediad i'r cyffuriau hynny, a darllenais hefyd o lythyr Simon Stevens fod cytundeb GIG Lloegr, mewn...
David Rees: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Yn amlwg, fel cyn Weinidog iechyd, mae'n gwbl ymwybodol o'r heriau y mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ond a gaf i hefyd ofyn cwestiwn am yr asesiadau sydd eu hangen? Rwy'n siŵr ei fod ef, fel minnau, yn cael llawer o etholwyr yn dod ato yn mynegi pryder, rhwystredigaeth ac anobaith dwys...
David Rees: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc? OAQ54645
David Rees: Weinidog, rwy’n derbyn eich atebion i Suzy Davies, yn enwedig ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal, ond hefyd yr ateb a roesoch i Neil Hamilton mewn perthynas â’r math o unigolion sy’n mynd yno. Ond mae gennym broblem, gan fod gennym bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys gan nad yw'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn cyflawni ar eu cyfer neu ni allant gael apwyntiad â'r...
David Rees: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob nyrs yn cael y datblygiad proffesiynol parhaus sydd ei angen arnynt?