Huw Irranca-Davies: Rwy'n credu ei fod wedi siarad yn rhy hir yn awr.
Huw Irranca-Davies: [Anghlywadwy.]—munud. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd.
Huw Irranca-Davies: Cynsail y ddadl hon heddiw yw cynnig gan y Ceidwadwyr sy’n cadarnhau bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn gadael cymunedau lleol i lawr, neu dyna a ddylai fod. Mae fy nghymunedau'n gymunedau gwych. Maent wedi wynebu sawl her dros sawl degawd, maent wedi plygu weithiau, ond nid ydynt byth wedi cael eu curo, ac maent yn llawn o bobl wych. Rwy’n teimlo weithiau nad yw pobl o’r tu allan i’r...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Gweinidog, am ildio i ymyriad byr. Roedd adeg, a chyfeiriais at hyn yn flaenorol, yn sgil yr ail ryfel byd, pan oedd consensws trawsbleidiol cryf nid yn unig ar bwysigrwydd hawliau dynol, ond yn enwedig o ran ffoaduriaid. A bellach mae gennych chi Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod trosglwyddo 'ffoaduriaid a cheiswyr lloches i drydydd gwledydd yn...
Huw Irranca-Davies: Wel, oherwydd nid fi yn unig sy'n eu dweud, Darren. Yn wir, nid fi—os fi oedd yn gyfrifol, byddwn i’n ei ddiystyru'n llwyr; dim ond yr Aelod Seneddol dros Ogwr ydw i. Ond, mewn gwirionedd, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei hun wedi edrych arno, ac nid ydyn nhw wedi gwrthwynebu'n llwyr, ond yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud yw—ac mae hwn yn ddyfyniad ganddyn nhw; rydych chi...
Huw Irranca-Davies: Gwnaf yn sicr, Darren.
Huw Irranca-Davies: Mae'n bleser mawr i ddilyn Sioned.
Huw Irranca-Davies: Cadeiriodd Sioned y grŵp hwnnw y bore yma, y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol. Roedd yn ddiddorol iawn, mewn gwirionedd, gwrando ar y drafodaeth. A'r pwyntiau yr wyf i eisiau eu gwneud—fel arfer rwy'n ychydig yn bwyllog, Llywydd, wrth wneud y pwyntiau hyn, oherwydd fel arfer rwy'n sefyll fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac rwy'n sych iawn, ac ati....
Huw Irranca-Davies: [Anghlywadwy.]—tynnu'r gwelliant yn ôl. [Chwerthin.]
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ildio ar y pwynt yna?
Huw Irranca-Davies: Yn syml, rwyf innau hefyd yn croesawu'r ymyriad yna. Yn wir, mae Darren wedi hyrwyddo hynny ers tro byd. Os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen yn y modd hwnnw, ac yn naws yr ymyriad gan Darren, mae hynny'n ei gwneud yn eithaf diddorol, oherwydd gallem yn y pen draw gael cefnogaeth drawsbleidiol i ymgorffori'r egwyddorion hawliau dynol yn ein deddfwriaeth ni ein hunain yma yng Nghymru, ac...
Huw Irranca-Davies: Tybed a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ildio ar yr union bwynt yna. Un o'r egwyddorion sylfaenol y bydd hyd yn oed myfyriwr Safon Uwch yn ei ddysgu am hawliau dynol yw eu bod yn gyffredinol—does dim modd eu trafod, maen nhw'n gyffredinol, yn berthnasol i bawb. Sut felly mae'n dehongli signal Llywodraeth y DU, gan wrthod, fel mae'n ei ddweud yn gywir, yr hyn y maen nhw wedi'i glywed yn yr...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, mae'r cyfan yr ydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad chi heddiw yn adleisio profiadau teuluoedd sy'n gwahodd yn fy etholaeth i nawr. Mae rhai o'r rhain—. Maen nhw'n deuluoedd anhygoel. Maen nhw'n byw mewn tai teras yn fy etholaeth i, nid oes ganddyn nhw lawer o fodd eu hunain, ond maen nhw wedi agor eu cartrefi i deuluoedd o Wcráin, maen nhw'n awyddus iawn i ddod â nhw yma...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol ail Fil Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Daeth ein hadroddiad i bedwar casgliad a gwnaethom 18 argymhelliad.
Huw Irranca-Davies: Hoffwn i, yn fy sylwadau agoriadol, ddiolch i aelodau fy mhwyllgor a'r tîm clercio am y sylw y maen nhw wedi'i roi i'r Bil penodol hwn. Ond hoffwn i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am drefnu cyfarfod gyda mi a gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener diwethaf i drafod ein hadroddiadau perthnasol. Roeddem ni'n meddwl bod hynny'n ddefnyddiol ac yn adeiladol, ac rwy'n croesawu'n fawr, unwaith...
Huw Irranca-Davies: Rydyn ni wedi llunio tri adroddiad sy’n ymdrin â’r pedwar memoranda cydsynio a osodwyd gan y Gweinidog ar y Bil hwn. O ystyried mai dim ond ar ddechrau toriad y Pasg y gosodwyd memorandwm Rhif 4, gosodwyd ein trydydd adroddiad brynhawn ddoe, yn union ar ôl i ni ystyried y memorandwm yn ein cyfarfod cyntaf y tymor newydd hwn.
Huw Irranca-Davies: Ac rwy'n croesawu sylwadau fy nghyd-Gadeirydd yn y fan yna ar y mater o ddefnyddio'r dull hwn o gynnig LCMs ar gyfer gwneud deddfwriaeth. Llywydd, byddaf yn datgan ar gyfer y cofnod y dylid darllen ein hadroddiad diweddaraf ar y cyd â'n hadroddiadau cynharach, rhai ohonyn nhw yn sôn am yr union faterion hyn. Yn ein hadroddiad diweddaraf a osodwyd ddoe ar femorandwm Rhif 4, rydym wedi nodi...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Gwnaethom ni ystyried y memorandwm yn ein cyfarfod ar 28 Mawrth ac adroddwyd ar y memorandwm ddoe. Nid ydym yn troi at faterion polisi; mae hynny wedi'i wneud yn fedrus gan fy nghyd-Gadeirydd Jenny Rathbone a'i phwyllgor, ond cytunaf â'r sylwadau yn y fan yna: pwy fyddai'n gwrthwynebu hyn? Nid ydym yn gwneud unrhyw argymhellion yn ein hadroddiad, ond rydym yn gwneud...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac fe wnaf gadw fy nghwestiwn yn fyr iawn yn wir. Yn gyntaf oll, rydw i'n croesawu'r cynllun, oherwydd mae'n rhoi gobaith, yn enwedig gyda'r targedau, ond mae'n rhaid i'r rheini bellach fod nid yn unig yn gyraeddadwy ond maen rhaid iddyn nhw gael eu cyflawni hefyd. Oherwydd mae llawer ohonom ni sy'n credu'n gryf, hyd ddydd ein marwolaeth, yn y GIG yn gwybod bod yn...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi wneud ymyriad byr?