Mr Neil Hamilton: Wel, gan fod y cytundeb y mae Theresa May wedi'i roi ar y bwrdd yn rhoi pob dim y mae'r UE ei eisiau—y £39 biliwn, rhannu Gogledd Iwerddon oddi wrth weddill y DU, parhad o'r aliniad rheoleiddio heb lais na phleidlais yn yr UE, a heb unrhyw hawl unochrog i adael, hawl sydd gennym ar hyn o bryd o dan erthygl 50—i bob pwrpas yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig yw'r hyn y mae...
Mr Neil Hamilton: Wel, rwy'n siŵr y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod hyn yn dod yn gwestiwn o ymddiriedaeth yn y Llywodraeth yn y pen draw, sy'n fater hollbwysig. Yma mae gennym brif negodwr y Llywodraeth ar y naill law yn cael ei glywed mewn amgylchiadau preifat pan nad oedd yn gwybod ei fod yn cael ei glywed, yn dweud un peth, a'r Prif Weinidog yn gwadu'n gyhoeddus yr hyn a ddywedodd. Pa...
Mr Neil Hamilton: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y Cwnsler Cyffredinol wedi gweld bod Olly Robbins, prif negodwr y Llywodraeth gyda'r UE, wedi gadael y gath o'r cwd ddoe ym Mrwsel ac wedi datgelu gwir fwriadau Theresa May. Mae hi bob amser wedi dweud nad yw am ymestyn erthygl 50 na chael unrhyw oedi a fyddai'n golygu na fyddai Prydain yn gadael yr UE ar 29 Mawrth. Ond dywedodd Olly Robbins mai ei dasg, neu dasg...
Mr Neil Hamilton: Fel pawb arall, fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn ac i fynegi fy ngwerthfawrogiad fy hun i staff y GIG am y gwaith aruthrol a wnânt, yn aml mewn amgylchiadau anodd ac ingol iawn. Ac a gaf i ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Helen Mary Jones yn ei chwestiynau yn gynharach, gan ofyn i'r Gweinidog am fwy o dryloywder mewn datganiadau o'r math hwn? Rwy'n gwybod fy mod...
Mr Neil Hamilton: Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Gellid dweud hynny am y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd wrth gwrs, fod ardrethi busnes yn dreth eiddo sy'n gyfan gwbl hen ffasiwn a phrin fod unrhyw gysylltiad rhyngddi ag incwm pobl, ac felly eu gallu i dalu. Nid yw cyrraedd o lle'r ydym i lle'r hoffem fod o reidrwydd yn beth hawdd i'w wneud wrth gwrs, ond er hynny, i wlad fel Cymru sydd ar waelod y tabl o...
Mr Neil Hamilton: Rydym newydd gael dwy araith ddiddorol iawn gan Mark Reckless a Mike Hedges, ac rwy'n cytuno â'r cyfan. Pe bai Mike Hedges yn arweinydd plaid wleidyddol, rwy'n aml yn meddwl y gallwn gael fy nhemtio i ymuno, oherwydd rwy'n aml yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywed yn y Siambr. Gobeithiaf nad yw'n hynny gwneud niwed angheuol i'ch gyrfa. Ond fe wnaeth rai pwyntiau cadarnhaol ac ymarferol iawn....
Mr Neil Hamilton: Wrth gwrs, mae perfformiad rhai byrddau iechyd dros y blynyddoedd diwethaf yn ei gwneud yn anos recriwtio staff o bosibl, yn enwedig mewn ardaloedd fel gogledd Cymru. Serch hynny, ni ellir dweud mai dyna'r unig reswm dros yr anhawster, gan fod yr un broblem i'w gweld gyda staff locwm meddygon teulu ag sydd i'w gweld ymhlith staff y GIG mewn meysydd eraill o weithgarwch proffesiynol. Er...
Mr Neil Hamilton: Wrth gwrs, mae rhai byrddau iechyd yng Nghymru yn gwneud yn well o lawer na'r byrddau rwyf newydd eu crybwyll. Yng Nghaerdydd a'r Fro, er enghraifft, oddeutu 1.5 y cant yn unig o'u cyllideb staffio a werir ar staff asiantaeth. Felly, os gallant hwy wneud hynny, pam na all y byrddau iechyd eraill ei wneud? Mae'r arian yn cael ei wario i raddau helaeth ar staff meddygol a deintyddol, a nyrsio a...
Mr Neil Hamilton: Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, o adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar wariant GIG Cymru ar staff asiantaeth, fod y swm o arian sy'n cael ei wario wedi cynyddu 171 y cant dros saith mlynedd, ac yn £135 miliwn yn 2017-18. Mae hon yn ffordd ddrud iawn o recriwtio staff. Yn Betsi Cadwaladr yn 2017, roeddent yn gwario 7 y cant o gyfanswm eu cyllideb staff ar staff asiantaeth, ac...
Mr Neil Hamilton: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella mynediad at ofal iechyd i gleifion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Mr Neil Hamilton: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mr Neil Hamilton: Dywedais wrth ymyrryd ar araith David Rees nad oeddwn eisiau 'dim cytundeb', ond mae hyn wedi'i orfodi arnom gan anhyblygrwydd yr UE a thwpdra'r Prif Weinidog fod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael.
Mr Neil Hamilton: Pleidleisiodd pobl Prydain ym mis Mehefin 2016 dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Golyga hynny adael yr undeb tollau, golyga hynny adael y farchnad sengl. Nid oeddwn eisiau gadael yr UE heb gytundeb, roeddwn am gytundeb masnach rydd gyda'r UE, ond mae'n cymryd dwy ochr i greu cytundeb. A ydym yn mynd i ymostwng i fiwrocratiaid ym Mrwsel neu a ydym yn mynd i wrando ar bobl Prydain?
Mr Neil Hamilton: Na, oherwydd gallai Theresa May fod wedi dewis llwybr hollol wahanol, sef dweud, ar y cychwyn cyntaf, ein bod eisiau'r math o gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd ag y mae Canada, De Korea a llond dwrn o wledydd eraill wedi llwyddo i'w sicrhau, sy'n cadw mesur eang o fasnach rydd rhyngom, ond nid yw'n cynnwys yr holl gymhlethdod llywodraethol a arweiniodd at ganlyniad y refferendwm, a'r hyn sy'n...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf am gynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Gareth Bennett. Rydym wedi cyrraedd pen draw dwy flynedd a hanner a wastraffwyd. Pan ddaeth y Bil ymadael â'r UE i rym, roedd y dyddiad ymadael sef 29 Mawrth ar wyneb y Bil, ac mae pawb wedi gwybod ein bod yn anelu tuag at 29 Mawrth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r modd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi...
Mr Neil Hamilton: Un nodwedd y mae angen ei hystyried yn fy marn i yw, pan edrychwch ar y cynghorau sydd wedi cael cynnydd yn eu cyllid yn fwyaf diweddar, mae llawer ohonynt wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu cronfeydd wrth gefn. Felly, mae hwn yn arian y gellid ei wario ar wasanaethau cyhoeddus ond fe'i cedwir mewn cyfrifon banc ac nid yw ar gael ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau cyfredol. Mae gan Rondda...
Mr Neil Hamilton: Mae'n flin gennyf fy mod wedi camddeall cymhlethdodau'r broses o newid portffolios o fewn y gweinyddiaethau yn ogystal â rhyngddynt, ond mae codiadau yn y dreth gyngor yn arwain at feichiau anferthol ar unigolion, ac yn wir, ar fusnesau. Mae'r band cyfartalog ar gyfer y dreth gyngor wedi mwy na threblu yng Nghymru ers 1997 ac wedi cynyddu ddwywaith a hanner ers creu'r Cynulliad. Mae hyd yn...
Mr Neil Hamilton: Diolch, Lywydd. Tybed a oedd y Gweinidog yn ystyried bod cymryd cyfrifoldeb am gymhlethdodau cyllid llywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod yn un o nodweddion atyniadol ei swydd newydd, ac a yw'n cytuno â mi fod y fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol i'w gweld wedi dyddio bellach a bod angen ei diwygio. Yn benodol, un o'i diffygion yw ei bod hi'n ymddangos bod y mecanwaith sy'n rhan...
Mr Neil Hamilton: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i ddenu swyddfeydd consyliaid i Gymru?
Mr Neil Hamilton: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gofal iechyd i gleifion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?