Canlyniadau 281–300 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Reckless

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 ( 7 Ion 2020)

Mark Reckless: Tybed a allai egluro rhywbeth ym maniffesto ei blaid ei hun, lle'r oedd yn dweud pe byddai yna Lywodraeth Geidwadol i Gymru, fe fyddai'n cyflawni ffordd liniaru'r M4. Ond, o ran yr A55, roedd y maniffesto'n dweud, heb unrhyw eglurhad, 'Fe fyddwn ni'n uwchraddio'r A55' yn y Gogledd.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 7 Ion 2020)

Mark Reckless: Nid wyf i'n siŵr a oes gan y Prif Weinidog hanes amgen yn y fan yna, ond rwy'n credu mai'r agosaf y daeth yn Nhŷ'r Cyffredin oedd pleidlais pan gafodd ei drechu er bod y Cabinet cyfan wedi ymatal arno. Rwy'n cofio eich Cwnsler Cyffredinol yn y fan yma yn dweud ei fod yn fodlon yn gyffredinol â'r cytundeb ymadael, ac efallai yr hoffai ddim ond ychydig o newidiadau a datganiad gwleidyddol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 7 Ion 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, yn ogystal â dymuno blwyddyn newydd dda i chi, a gaf i ddiolch i chi, eich Llywodraeth a'ch plaid am yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud i sicrhau Brexit? Fe wnaethoch chi gyflwyno cynllun ar gyfer Brexit mewn enw yn unig, ond pan y'i cynigiwyd i chi gan Theresa May, gan gynnwys undeb tollau, fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn. Yn hytrach, eich dewis oedd gamblo y gallech...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Ysgol (11 Rha 2019)

Mark Reckless: Na, na. Wel, efallai bod ochr Lafur ei Llywodraeth wedi manteisio ac eisiau’r sylw gorau cyn yr etholiad. Ond roeddwn i'n teimlo bod hynny wedi ystumio’r darlun o'r canlyniadau ar draws y wlad. Ac rwy'n credu bod rhywfaint o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud heddiw yn gywiriad teg i hynny.  Rwy'n gwybod bod yr ymadrodd 'cadarnhaol ond nid yn berffaith' wedi'i nodi, i ryw raddau, gan...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Ysgol (11 Rha 2019)

Mark Reckless: A gaf fi ymddiheuro i’r sawl a gyflwynodd y cynnig am fethu ychydig funudau cyntaf ei haraith?  Rwy’n cydymdeimlo â Helen Mary Jones sy’n dweud bod ei grŵp mewn sefyllfa amhosibl wrth ymdrin â’r cynnig hwn a’r gwelliannau heddiw. Gwnaethom edrych ar gynnig y Ceidwadwyr ac yn benodol, ar bwynt 3b) sy’n ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth  'ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Ysgol (11 Rha 2019)

Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Ysgol (11 Rha 2019)

Mark Reckless: Soniodd na fu gwelliant ystadegol arwyddocaol ers 2006. Yna dywedodd fod y sgoriau’n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer 2019. A fyddai hi'n derbyn nad ydynt yn ystadegol yn sylweddol is na'r cyfartaledd ym mhob un o'r tri mesur ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf? 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (10 Rha 2019)

Mark Reckless: Prif Weinidog, rwyf i wedi cefnogi Brexit erioed, wrth i chi geisio atal Brexit yn ogystal â cheisio rigio'r cwestiwn ar gyfer ail refferendwm. A yw Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd i'ch plaid rigio'r etholfraint? Fe wnaethoch chi golli eich mwyafrif yn etholiad diwethaf y Cynulliad ac rydych chi'n parhau i golli cefnogaeth draddodiadol. Yn hytrach na gwrando, dysgu a newid eich...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (10 Rha 2019)

Mark Reckless: Prif Weinidog, rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddylanwadol gan fod polisi eich plaid ar refferendwm yr UE wedi esblygu o ddweud y byddech chi'n ei barchu i wneud y gwrthwyneb. Rydych chi'n honni y byddai'r ail refferendwm yr ydych chi ei eisiau, gan nad ydych chi'n hoffi canlyniad y cyntaf, rhwng y dewis o 'adael' credadwy ac 'aros'. A allwch chi gadarnhau y byddai'r hyn yr ydych...

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit a Chytundeb au Masnach yn y Dyfodol ( 4 Rha 2019)

Mark Reckless: Wel, trafodaethau anffurfiol gyda grwpiau perthnasol ydynt yn hytrach na negodiadau, oherwydd ein dehongliad neilltuol o gyfraith yr UE. O ran y darnau y mae Llafur wedi tynnu sylw atynt ac yn ceisio gwneud rhywbeth mawr ohonynt, nid oes yr un ohonynt i'w weld i mi yn brawf digamsyniol o unrhyw beth. Rwy'n credu mai mater patentau yw'r un y maent wedi'i ystumio fwyaf yn ôl pob tebyg. Ond yn...

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit a Chytundeb au Masnach yn y Dyfodol ( 4 Rha 2019)

Mark Reckless: Rwy'n parchu'r pwynt hwnnw, ac rwy'n meddwl bod Plaid Cymru wedi bod yn glir nad ydynt yn awgrymu gwerthu ehangach yn y ffordd y mae rhai pobl ar ochr Corbyn wedi'i wneud o bosibl. Er mwyn mynd i'r afael â'r pwynt a wnânt, credaf mai'r ehangu mwyaf a welwyd gan y sector preifat i mewn i'r GIG oedd y canolfannau diagnosteg a thriniaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Blair. Deddfwyd ar eu cyfer,...

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit a Chytundeb au Masnach yn y Dyfodol ( 4 Rha 2019)

Mark Reckless: Rwy'n llongyfarch Plaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon a chynnig eithaf hirfaith. Byddai'n her i ymateb i bob pwynt ynddo, ond yn gyffredinol, nid wyf yn gwybod a yw Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn oherwydd ei fod yn ymdrech sinigaidd i fanteisio ar y GIG a chodi bwganod am gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau cyn yr etholiad, neu a yw'n deillio o bryder gwirioneddol, er yn...

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit a Chytundeb au Masnach yn y Dyfodol ( 4 Rha 2019)

Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit a Chytundeb au Masnach yn y Dyfodol ( 4 Rha 2019)

Mark Reckless: Pan ddywed fod cwmnïau cyffuriau yr Unol Daleithiau am gael mynediad llawn i'r farchnad i'r GIG mewn perthynas â chyffuriau, beth a olyga wrth 'fynediad llawn i'r farchnad', ac i ba raddau nad oes ganddynt fynediad o'r fath ar hyn o bryd?

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Canlyniadau PISA 2018 ( 3 Rha 2019)

Mark Reckless: Roeddwn i'n eich llongyfarch chi, Gweinidog Addysg, mewn sylwadau cynharach, ynghyd â phawb dan sylw, am y gwelliannau yr ydym ni wedi eu gweld yng nghanlyniadau PISA y tro hwn. Wrth ddarllen eich datganiad yn gynharach, roeddwn i braidd yn bryderus y gallech chi fod ychydig yn rhy barod i ganmol eich hunain. Er enghraifft, roedd y sylwadau sy'n gadarnhaol ond nid yn mynegi perffeithrwydd,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 3 Rha 2019)

Mark Reckless: Wel, rwy'n credu bod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddweud mewn ymateb i'r canlyniadau hyn yn deg ar y cyfan, ac rwy'n credu bod y pwyntiau ynglŷn â chymariaethau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn werth eu nodi yng ngoleuni'r hyn a welsom dair blynedd yn ôl a'r gwahaniaeth yn y ddadl bryd hynny. Ac rwy'n credu y dylai hynny gael ei adlewyrchu yn ein...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 3 Rha 2019)

Mark Reckless: Diolch, Llywydd. A gaf i longyfarch y Prif Weinidog, yr ysgrifennydd addysg, y 107 o ysgolion a'r 3,165 o ddysgwyr a gymerodd ran yn y profion PISA? Maen nhw'n sylweddol well na'r canlyniadau gwael iawn a welsom yn 2016, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol rhoi hynny ar y cofnod. Pe byddai wedi bod fel arall, byddwn wedi bod yn befriol yn fy meirniadaeth. A gaf i, fodd bynnag, ofyn am y...

10. Dadl Fer: Gwasanaethau bysiau yng Nghymru (27 Tach 2019)

Mark Reckless: Fodd bynnag, credaf mai'r hyn sydd angen inni ei gydnabod hefyd yw fod lefel gyffredinol y defnydd o fysiau yng Nghymru yn sylweddol is na'r hyn ydyw yn Lloegr a'r Alban. Mae nifer y teithiau y pen o'r boblogaeth yng Nghymru yn y 30au isel, o'i gymharu â rhwng 70 a 80 yn Lloegr a'r Alban. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog—. Cyfeiriodd mewn datganiad ar ddiwedd mis Medi eleni at y...

10. Dadl Fer: Gwasanaethau bysiau yng Nghymru (27 Tach 2019)

Mark Reckless: Dywedodd un o fy etholwyr, Carol Gulliford o Dorfaen, wrth y South Wales Argus y byddai'n rhaid iddi ddibynnu ar bobl eraill os bydd gwasanaethau y mae'n eu defnyddio yn cael eu torri, a'i bod yn poeni na fydd yn gallu  mynd allan i weld pobl a... mynd i'r siopau. Ni fyddaf yn gallu gwneud unrhyw beth drosof fy hun. Tynnodd yr un ddynes sylw at sut y mae gwasanaethau'n effeithio ar eraill:...

10. Dadl Fer: Gwasanaethau bysiau yng Nghymru (27 Tach 2019)

Mark Reckless: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu mai dyma fy ail araith yn ddilynol. Rwy'n siarad am wasanaethau bysiau yng Nghymru, a chyn inni ddatgan argyfwng newid hinsawdd, un rheswm polisi cyhoeddus allweddol dros gefnogi bysiau oedd lleihau tagfeydd. A deallais un agwedd allweddol ar hyn yn iawn am y tro cyntaf pan glywais gan Nigel Winters, a oedd, ar y pryd o leiaf—mae'n bosibl ei fod yn dal i...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.