Canlyniadau 281–300 o 2000 ar gyfer speaker:Baroness Morgan of Ely

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lefelau Staffio'r GIG (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae gweithlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nawr wedi cyrraedd lefel na welwyd erioed o’r blaen. Ond, rŷn ni’n cydnabod yr heriau o ran y gweithlu yn y canolbarth a’r gorllewin ar yr un pryd â’r pwysau sydd ar wasanaethau yn sgil galw sylweddol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Brechu COVID-19 (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, rydym yn sôn am geisio darparu'r pigiad atgyfnerthu i 1.6 miliwn o bobl gymwys yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gyflawni drwy 400 o safleoedd brechu, felly credaf fod y ddarpariaeth honno'n ddigonol i ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfle hwnnw. Fel y dywedaf, ein targed yw cyrraedd 75 y cant o'r garfan honno, a hyd yn hyn, rydym ar y trywydd iawn i...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Brechu COVID-19 (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Hyd at 11 Hydref, roedd cyfanswm o 363,000 o bigiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi yng Nghymru. Mae’r rhaglen ar y trywydd iawn i roi gwahoddiad i'r holl bobl gymwys gael eu pigiad atgyfnerthu erbyn 30 Tachwedd, yn unol â’r ymrwymiad a roddwyd yn ein strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol, a gyhoeddwyd gennym ar 15 Gorffennaf.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canser y Coluddyn (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Rwy'n falch o weld ein bod bellach wedi gostwng yr oedran yr ydym yn anfon profion imiwnocemegol ar ysgarthion i bobl dros 55 oed, ond rydych yn llygad eich lle, mae'n rhaid inni wneud mwy, ond mae'n rhaid inni wneud hynny ar yr un pryd â chynyddu capasiti. Rydym wrthi'n edrych ar hyfforddi mwy o glinigwyr er mwyn sicrhau, pan fydd y galw hwnnw—ac rydych wedi clywed am y galw...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canser y Coluddyn (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Vikki. Mae’r ffigurau hynny’n amlwg yn rhy isel ac yn annerbyniol. Dyna un o'r rhesymau pam y gelwais am gyfarfod uwchgynhadledd canser heddiw—gan alw'r holl fyrddau iechyd a'r arweinwyr canser ym mhob un o'r byrddau iechyd ynghyd. Un o'r materion yn fwyaf arbennig mewn perthynas â chanserau yn y bibell gastroberfeddol isaf yw ein bod wedi gweld, yn rhannol o ganlyniad...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canser y Coluddyn (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Rydym yn gweithio i wella canlyniadau canser y coluddyn drwy wella llwybrau diagnostig, gostwng yr oedran sgrinio yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, a gwella ansawdd triniaeth canser y coluddyn.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Capasiti'r GIG yng Ngogledd Cymru (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o glywed bod pethau’n mynd o nerth i nerth yn Llandudno, ac yn sicr, pan ymwelais â’r ysbyty hwnnw, un o’r pethau y canolbwyntiais arnynt oedd beth y mae’r bobl hyn yn ei wneud yno, pa mor hir y maent wedi bod yma, beth yw'r cynllun ar gyfer y bobl hyn, ac roedd yn amlwg. Cyfarfûm ag un dyn yno, rwy'n cofio, a oedd wedi cael torri'i goes i...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Capasiti'r GIG yng Ngogledd Cymru (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, rŷn ni wedi bod yn hyfforddi pobl, ac rŷn ni wedi gweld 54 y cant mwy o bobl yn gweithio yn yr NHS dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn Betsi nawr, rŷn ni'n gweld bod bron i 20,000 o bobl yn gweithio i'r bwrdd iechyd, ac mae yna gynlluniau i recriwtio 380 mwy yn ystod y ddwy flynedd nesaf. A'r syniad sydd fanna yw bod y bwrdd eisiau cael pobl leol i gymryd y llefydd yna, felly mae gyda nhw...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Capasiti'r GIG yng Ngogledd Cymru (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o safon, sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy i’r boblogaeth leol. Mae hyn yn cael ei wneud ar sail y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau a diweddaraf. Rŷn ni hefyd wedi darparu buddsoddiad ychwanegol i’w cefnogi.  

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyfathrebu gyda Chleifion (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Wel, yn gyntaf oll, dylai clinigwyr fod yn ysgrifennu nodiadau; dylent fod yn ysgrifennu nodiadau ar adeg y driniaeth. Felly, nid oes unrhyw esgus dros hynny; mae hynny'n ofyniad. Ond o ran nodiadau'n mynd ar goll, credaf fod digideiddio'n rhan o’r ateb i hyn, a dyna pam fy mod wedi treulio cryn dipyn o fy amser yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod gennym GIG llawer mwy...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyfathrebu gyda Chleifion (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae’r bwrdd iechyd yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu. Golyga hyn fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gweithredu uniongyrchol i ganolbwyntio ar wella cyfathrebu o fewn y bwrdd iechyd.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad 'Niferoedd Nyrsio 2022' (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn buddsoddi'r lefelau uchaf erioed mewn hyfforddiant ar gyfer y GIG—£262 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon yn unig. Mae nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer nyrsys wedi cynyddu dros 69 y cant ers 2016— 2,396 yn rhagor o nyrsys ar y system. Felly, rhan o'r broblem yw bod rhaid inni sicrhau ein bod yn cadw pobl—dyna'r her...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad 'Niferoedd Nyrsio 2022' (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol yn amlinellu’r heriau y mae pandemig COVID a phrinder staff nyrsio byd-eang wedi eu creu i'n gweithlu. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Gymru’r nifer cywir o nyrsys a staff gofal iechyd i ddiwallu anghenion gofal ein pobl.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Edrychwch, mae'r ambiwlans awyr yn elusen annibynnol. Hwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, ac maent wedi edrych ar effeithlonrwydd eu gwasanaethau. A chi fyddai'r cyntaf i ddweud wrthyf, 'Pam nad ydym yn cyrraedd pobl yn gyflymach' [Torri ar draws.] Rydych wedi gofyn yn y gorffennol, 'Pam nad ydym yn cyrraedd pobl yn gyflymach?' Ac maent yn dweud, 'Gallwn gael mwy o effeithlonrwydd'—[Torri...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n gwybod hynny. Rwy'n mynd i ddod at hynny, Rhun. Mae'n anodd inni gyhoeddi'r data hwnnw, gan y gallai ei gwneud yn bosibl adnabod cleifion, a dyna a ddywedwyd wrthyf. Dyna a ddywedwyd wrthyf, ac rwy'n fwy na pharod i roi hynny i chi yn ysgrifenedig.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Edrychwch, ar hyn o bryd, mae pob un ohonom yn gweithio ar sail adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol. Felly, y peth pwysig yw ein bod yn gadael i'r system a'r broses wneud eu gwaith. Nawr, gwn fod prif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans yn gweithredu’n annibynnol ar y gwasanaeth ambiwlans awyr, a’r peth allweddol i ni ei wneud, yn gyntaf oll, yw darganfod, ar ôl i’r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Brys Acíwt (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rydych yn hollol gywir; mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod tegwch yn rhywbeth sy'n bodoli ledled Cymru. Mae gennym arweinydd clinigol ar gyfer strôc yng Nghymru, a gyda chymorth rheolwr y grŵp gweithredu ar gyfer strôc a'r arweinydd cenedlaethol proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer strôc, rydym yn datblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau strôc rhanbarthol yng...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Brys Acíwt (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Er bod gennyf rôl i osod cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru a dwyn y GIG i gyfrif, bwrdd iechyd Powys sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau ar lefel leol ac am sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Rydym yn cyrraedd pwynt nawr lle—. Yn amlwg, rydym yn dal mewn sefyllfa lle mae COVID yn realiti. Mae gan un o bob 50 o bobl COVID, felly mae'n rhaid i ni gofio, mewn unrhyw sefyllfa sy'n cynhyrchu aerosol, ceir mwy o risg o ledaenu COVID. Felly, mae'n siŵr y bydd gostyngiad bach yn lefel y gweithgarwch.  O ran plant, rydym yn gobeithio edrych ar fodelau newydd o sut y gallwn edrych ar...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (12 Hyd 2022)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rydym eisoes yn gweld gwahaniaeth o ganlyniad i'r contract newydd hwnnw. Felly, mae 73,000 o gleifion newydd eisoes wedi cael mynediad eleni, ac fel rwy'n dweud, rydym yn disgwyl i'r ffigur hwnnw gyrraedd 112,000 o gleifion newydd yn ystod y flwyddyn ariannol honno. Felly mae'n gwneud gwahaniaeth yn barod. Hefyd, mae gennym yr academi ddeintyddol newydd ym Mangor, ac rydym yn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.