Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn i chi, Frenhines Elizabeth.
Jane Dodds: Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Darren Millar am gyflwyno’r cynnig hwn, a gwnaf gyfraniad byr iawn, oherwydd, gydag eraill, hoffwn innau hefyd estyn fy llongyfarchiadau i’w Mawrhydi’r Frenhines ar ddeng mlynedd a thrigain ers iddi esgyn i’r orsedd. Mae Ei Mawrhydi wedi parhau i atgoffa’n gyson beth yw gwasanaeth cyhoeddus drwy gydol fy oes ac wedi gwasanaethu gydag...
Jane Dodds: Fel Aelodau'r Senedd, efallai fod rhai ohonom yn byw gydag un neu fwy o'r saith profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Weithiau gallwn ymdopi â hwy, ac weithiau ni allwn wneud hynny. Ar ôl gweithio am dros 25 mlynedd ym maes diogelu plant, gyda llawer o'r blynyddoedd hynny ar y rheng flaen, gallwn adrodd straeon am lawer iawn o blant a phobl ifanc y cyfarfûm â hwy lle mae'r cylch...
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch i Peredur Owen Griffiths am godi'r mater hwn, sy'n fater pwysig i lawer ohonom yn y Senedd. Fel y clywsoch, mae'r trac yng Nghaerffili yn brolio bod ganddo un o'r troadau mwyaf siarp sydd gan unrhyw drac rasio, ac rwyf am ddarllen rhywbeth i chi o'u llenyddiaeth. Maent yn dweud am y troad hwn yn eu trac rasio: 'mae milgwn yn aml yn hedfan i mewn i'r...
Jane Dodds: Diolch, Gweinidog, a gobeithio y byddwch yn gwella'n fuan. Ar 29 Ionawr, dywedodd Minette Batters, llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, a dyfynnaf: 'Roeddwn i'n ofni y byddai ffermwyr yn cael eu defnyddio fel gwystl mewn cytundebau masnach—a dyna beth ddigwyddodd.' Fy nghwestiwn clir i'r Ceidwadwyr hynny sydd wedi siarad yw hyn: a ydyn nhw'n credu nad yw hi'n cynrychioli barn ffermwyr...
Jane Dodds: Prynhawn da, Trefnydd. Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf gan y Gweinidog addysg ar benderfyniad Llywodraeth y DU i gyflwyno rheoliadau i rewi'r trothwy ad-dalu benthyciadau myfyrwyr. Bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn ad-daliadau mewn termau real i raddedigion ar fenthyciadau myfyrwyr cynllun 2. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael eglurder ynghylch effaith...
Jane Dodds: Diolch, Prif Weinidog. Ar Ddydd Sant Ffolant y mis hwn, gofynnir i ni ddangos calon ar gyfer ffoaduriaid fel arwydd o gariad, cyfeillgarwch ac undod â phobl sydd wedi eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi i chwilio am ddiogelwch. Mae'n gwbl groes i ymagwedd Llywodraeth y DU yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, ac rwy'n gwybod bod ein dull ni o weithredu yma yng Nghymru yn gwbl groes i ddull San...
Jane Dodds: 8. Pa gymorth sydd ar gael i ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru? OQ57563
Jane Dodds: Diolch i Russell, unwaith eto, am gyflwyno'r ddadl hon ac am ganiatáu imi ddweud ychydig iawn o eiriau. Diolch, hefyd, am ei waith yn cefnogi camlas Trefaldwyn—dyfrffordd hardd sy'n rhedeg trwy Sir Drefaldwyn ac yn meithrin mwynder Maldwyn, ysbryd Sir Drefaldwyn. Rwyf am ddweud ychydig eiriau am Ymddiriedolaeth Heulwen, y deuthum innau ar ei thraws hefyd, fel Russell. Mae'n bodoli i ddod...
Jane Dodds: Diolch i Rhys am y ddadl bwysig yma.
Jane Dodds: Gadewch i ni gymryd cam yn ôl a meddwl am yr hyn y gallai'r Bil hwn fod wedi ymwneud ag ef. Gallai fod wedi ymwneud â chryfhau ein democratiaeth drwy gefnogi ymdrechion i adeiladu gwell gwleidyddiaeth gyda system etholiadol decach. Gallai fod wedi ceisio ehangu'r etholfraint, grymuso pleidleiswyr a chymunedau, cynyddu nifer y pleidleiswyr sy'n pleidleisio, ac ailadeiladu ymddiriedaeth yn...
Jane Dodds: Rwy'n cytuno gyda James fod trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i ddod o dan bwysau. Oni bai bod buddsoddiad wedi'i ariannu a'i gydlynu'n briodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, bydd cymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig, yn cael eu gadael ar ôl. Ers 2009, collwyd tua thraean o'r gwasanaethau â chymhorthdal yng Nghymru, ac rydym wedi gweld gostyngiad o 22 y cant yn nifer y siwrneiau ar fws...
Jane Dodds: Diolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl yma. Dwi'n falch o weld y drafodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau, ar ôl fy nadl yr wythnos diwethaf. Maen fater hollbwysig am nifer o resymau, ac yn hollbwysig i'r cymunedau hynny rydw i'n eu cynrychioli yma yn y Senedd. Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am ei ymateb i fy nadl yr wythnos diwethaf, ac am gadarnhau bod Llywodraeth Cymru...
Jane Dodds: Prynhawn da, Weinidog. Hoffwn sôn am wresogi mewn cartrefi domestig. Gwyddom mai cartrefi sy’n gyfrifol am 27 y cant o’r holl ynni a ddefnyddir a 9 y cant o’r holl allyriadau yng Nghymru. A chyda 10 y cant o gartrefi yn unig wedi'u hadeiladu yn yr 20 mlynedd diwethaf, mae ein stoc dai ymhlith yr hynaf a'r lleiaf effeithlon yn Ewrop. Gan ganolbwyntio ar gartrefi mewn ardaloedd gwledig...
Jane Dodds: Dyna pam y mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnig ein bod yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus—teithio ar fysiau a threnau—yn rhad ac am ddim i bawb dan 25 oed yng Nghymru, fel elfen allweddol o'r rhaglen adfer honno i bobl ifanc. Mae tri maes rwyf am dynnu sylw atynt yn fyr. Yn gyntaf, wrth gyflwyno'r ddadl hon, hoffwn ystyried record fy mhlaid yn y maes hwn. Yn y bedwaredd Senedd,...
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a dwi'n falch o gael y cyfle i gynnal y ddadl yma heddiw ac i dynnu sylw at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. A dwi'n falch o'r diddordeb gan Carolyn Thomas, Mabon ap Gwynfor a Jayne Bryant yn y ddadl yma, ac rwyf wedi cytuno i roi peth amser er mwyn i Carolyn, Mabon a Jayne gyfrannu at y ddadl. Dwi'n ddiolchgar iawn; mae'n fyd unig i fod yn rhyddfrydwr yn y...
Jane Dodds: Diolch i'r Gweinidog, ac i Jayne Bryant am ofyn y cwestiwn pwysig yma.
Jane Dodds: Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn fwyfwy pryderus am y sefyllfa yng Nghymru, ac yn enwedig am y pwysau sy'n wynebu busnesau bach. Mae’r cyfuniad o effeithiau COVID, Brexit, ac erbyn hyn y costau ynni cynyddol, cynnydd mewn yswiriant gwladol a chwyddiant, yn rhoi pwysau aruthrol ar fusnesau bach. Mae ystadegau'r farchnad lafur a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod chwyddiant yn llawer mwy na'r...
Jane Dodds: Diolch, Weinidog a diolch hefyd i Huw Irranca-Davies am ei waith a gwaith ei bwyllgor hefyd.
Jane Dodds: Mae hwn yn gyfraniad byr iawn, oherwydd cytunaf yn llwyr â'r ddau gyfraniad diwethaf. Fe hoffwn gytuno'n arbennig â chyfraniad Alun Davies. Mae'r Bil hwn yn niweidiol ac yn tanseilio ein hawl i brotestio. Mae rhannau helaeth o'r Bil 300 tudalen yn ddinistriol ac yn ddidostur ac yn tanseilio cyfreithiau sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu pobl y mae angen mesurau diogelu arnynt, er enghraifft o...