John Griffiths: Gweinidog, rydym ni wedi clywed cyfeiriad heddiw at y gwasanaeth iechyd yn mynd i'r afael yn gynyddol ag amgylchiadau nad oes a wnelon nhw â COVID, ac mae cynlluniau chwarter 1, rwy'n gwybod, i'w cyflwyno'n fuan. Ond rwy'n gwybod bod yr elusennau canser, er enghraifft, yn dal yn bryderus iawn nad ydym ni yn gweld yr ymgynghoriadau, y diagnosis, y canfod a'r driniaeth gynnar o'r cyflyrau...
John Griffiths: Prif Weinidog, wrth i ni fynd drwy'r pandemig hwn, mae'n dod yn fwyfwy amlwg bod mwy o achosion o'r clefyd yn ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo ar lefel Cymru ac ar lefel y DU i geisio deall y rhesymau am hynny, a mynd i'r afael â hynny mewn modd mor effeithiol â phosibl. Ond, wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud, Prif Weinidog, ac...
John Griffiths: Brif Weinidog, fe sonioch chi am y cyfyngiadau ar symud a gadael eich cartref, a chredaf fod pawb yn deall pwysigrwydd disgyblaeth a chydymffurfiaeth, fel y nodoch chi, ac y byddwch yn dilyn y cyngor meddygol a gwyddonol o ran unrhyw lacio ar y cyfyngiadau hynny. Tybed a oes rhagor y gallwch ei ddweud ar hyn o bryd ynglŷn â sut y byddai llacio’r cyfyngiadau yn gynnar yn edrych yng...
John Griffiths: O blaid.
John Griffiths: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni i helpu i lywio ein gwaith. Sylwaf fod yr amserlen dynn ar gyfer cyflawni ein gwaith craffu wedi achosi anawsterau i rai rhanddeiliaid, felly rydym yn fwy diolchgar byth am eu cyfraniad. Cyfeiriwyd llawer...
John Griffiths: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i ymateb i'r achosion o coronafeirws?
John Griffiths: Weinidog, rwy'n meddwl bod yr argyfwng coronafeirws presennol yn dangos unwaith eto pa mor gydgysylltiedig yw'r byd modern o ran cyfathrebu, o ran masnach, o ran y ffordd y mae pawb ohonom yn cydweithio, ac i raddau helaeth buaswn yn dweud, sut rydym naill ai'n ffynnu neu'n dioddef gyda'n gilydd. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n meddwl bod datblygu rhyngwladol yn bwysig iawn ac yn werth...
John Griffiths: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r cysylltiadau a'r berthynas rhwng Cymru a'r byd? OAQ55260
John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, diolch am eich ymateb i’r cwestiynau, ac yn arbennig, am nodi y byddwch yn cadw holl safleoedd Tata yng Nghymru mewn cof yn eich trafodaethau â Llywodraeth y DU a chyda Tata yn gyffredinol, oherwydd yn amlwg, i mi, mae safle Llan-wern yn Nwyrain Casnewydd yn dal i fod yn bwysig tu hwnt gan fod cannoedd o swyddi yno ac mae’n bwysig iawn i...
John Griffiths: Pa fesurau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran iechyd plant yng Nghymru?
John Griffiths: Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod y bartneriaeth gref honno rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, busnesau, landlordiaid cymdeithasol ac eraill wedi dwyn ffrwyth sylweddol ac wedi helpu i ymateb i'r heriau o ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio canol ein dinas. Ac yn fuan bydd enghraifft arall o hynny pan fydd gwesty pedair seren sylweddol yn agor yng nghanol dinas...
John Griffiths: 5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill i adfywio canol Dinas Casnewydd? OAQ55231
John Griffiths: Prif Weinidog, mae'r gweithgynhyrchydd trenau Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles yn fy etholaeth i yn ychwanegiad i'w groesawu i'r economi leol, ac mae wedi bod yn bleser ymweld â nhw a siarad â'r rheolwyr am ddyfodol y gwaith. Mae ganddyn nhw un rhwystredigaeth—wel, efallai fod ganddyn nhw fwy nag un, ond un rhwystredigaeth yw'r diffyg menywod a merched sy'n dod ymlaen i gymryd...
John Griffiths: Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwyf yn credu bod 'Adroddiad Effaith' y comisiwn yn rhestru ystod eang o weithgareddau ar draws bron pob maes cyfrifoldeb datganoledig, ac felly mae'n fater pwysig iawn i'w drafod yn hyn o beth. Wrth gwrs, mae'r comisiwn yn gweithredu fel ffynhonnell bwysig...
John Griffiths: Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaeth Delyth Jewell hefyd—os mai'r DU yw'r pumed, y chweched, neu ba bynnag economi fwyaf yn y byd, mae'n hollol anfoesol peidio â chael dull llawer gwell o drefnu ein hunain fel cymdeithas er mwyn osgoi'r problemau eithriadol o ddifrifol hyn sy'n peri cymaint o syndod i gymaint o'r cyhoedd. Mae cynifer o bobl wedi dweud wrthyf na allant ddeall pam nad yw'n...
John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran? Mae'n amlwg fod cryn gonsensws ar draws y Siambr, rwy'n credu, o ran pwysigrwydd y materion hyn a'r angen i geisio gwneud digon o gynnydd fel na chawn yr un ddadl fwy neu lai yn yr un amgylchiadau yn y blynyddoedd a ddaw, fel y dywedodd nifer o'r Aelodau. Mae angen inni symud ymlaen a gwneud cynnydd sylweddol.
John Griffiths: Rydym yn obeithiol y bydd rhai o'r camau gweithredu tymor byr, yn enwedig mewn perthynas ag allgymorth grymusol, wedi dechrau helpu i gael rhai pobl oddi ar y strydoedd. Mae hyn yn fwy pwysig byth pan ystyriwn y cyfrif blynyddol o nifer y rhai sy'n cysgu allan a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad gwreiddiol, dim ond ciplun y gall y cyfrif ei roi, ac ni ellir ei ystyried...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar lefel y gefnogaeth i rai sy'n cysgu allan sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, neu anhwylderau sy'n cyd-ddigwydd fel y cyfeirir atynt yn fynych. Fel pwyllgor, buom yn edrych ar gysgu allan ers gaeaf 2017. Ers inni ddechrau ar y gwaith hwn,...
John Griffiths: Croesawaf eich datganiad heddiw, Gweinidog, a chyhoeddiad canllawiau'r grant cynnal tai i awdurdodau lleol. Fel y gwyddoch chi, mae'r pwyllgor cydraddoldeb yr wyf i'n ei gadeirio wedi bod yn gwneud llawer o waith ar gysgu allan, ac yn benodol, yn ein gwaith diweddar, rydym ni wedi ymdrin â materion ac anhwylderau sy'n cyd-fodoli yn ymwneud â chomisiynu. Yn wir, byddwn yn trafod yr adroddiad...
John Griffiths: Rwy'n credu mai dyna'r peth mwyaf effeithiol, ond rwy'n credu eich bod chi'n aml yn gweld cerbydau’n segura am funudau a munudau a munudau, a byddai eu diffodd yn syniad da iawn. Ond rwy'n cymeradwyo'r ffaith eich bod wedi cyfarfod ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Hefin, ac yn amlwg, mae hynny wedi bod yn addysgiadol iawn o'ch cyfraniadau a'ch syniadau am y materion hyn. Ond do, fe...