Llyr Gruffydd: Mae hon yn weithred na ellir ei hamddiffyn gan gwmni mawr sy'n rhedeg gwasanaethau gyda chymorthdaliadau cyhoeddus—ac ni ddylem anghofio hynny. Mae Bysiau Arriva Cymru wedi mwynhau monopoli, fwy neu lai, ar wasanaethau mewn rhannau o ogledd Cymru dros y blynyddoedd, ac mae'n derbyn y cymorthdaliadau hynny, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru yn anuniongyrchol. Felly, hoffwn glywed bwriad...
Llyr Gruffydd: Gyda hynny mewn golwg, mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, i beidio â chefnogi cais cyngor Wrecsam i'r gronfa lefelu i fyny i adnewyddu'r Cae Ras yn ergyd i'r clwb ac i bêl-droed yn ehangach, ac, yn wir, i'r rhanbarth yn ehangach hefyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n gwybod, bod tîm pêl-droed Wrecsam eisoes yn denu torfeydd o ryw 10,000 ar gyfer gemau cartref...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Roeddwn i'n gwrando'n astud ar eich atebion chi i rai cwestiynau blaenorol ar y maes yma, ac mi wnaethoch chi fynd i'r afael â'r cwestiwn ynglŷn â phasio cyfrifoldebau i lawr o Lywodraeth Cymru i'r cydbwyllgorau corfforaethol, ond wnes i ddim clywed o reidrwydd eich safbwynt chi o safbwynt y consérn sydd yna ymhlith llywodraeth leol, wrth gwrs, y bydd y...
Llyr Gruffydd: Dwi'n falch eich bod chi wedi sôn am y broses gyllidebol, oherwydd dyna lle dwi'n mynd nesaf, ac eisiau holi ynglŷn â chyllideb ehangach y Llywodraeth a'ch rôl chi fel Gweinidog cyllid. Fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o graffu cyllidebau'r Llywodraeth yn eithaf agos yn y blynyddoedd diwethaf, un cerydd sydd wedi codi ei ben yn gyson yw ei bod hi'n anodd darllen ar draws o wariant...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am hynny. Mi gyfeirioch chi at y WLGA, ac maen nhw, wrth gwrs, wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu'r arfau—y twls—a'r adnoddau i lywodraeth leol i allu 'baseline-o' a mesur cynnydd yn lleol yn erbyn targedau newid hinsawdd, fel eu bod nhw'n gallu gwneud hynny mewn modd cywir a chyson ar draws Cymru. Nawr, mi allai hynny, wrth gwrs, fod yn sail i greu targedau net sero...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn sgil COP26 yr wythnos diwethaf, dwi eisiau holi am rôl llywodraeth leol wrth helpu Cymru i gwrdd â'i hymrwymiadau o safbwynt torri allyriadau carbon, a'ch rôl chi, wrth gwrs, fel Gweinidog llywodraeth leol yn hynny o beth. Dwi'n deall bod 16 awdurdod lleol erbyn hyn wedi datgan argyfwng hinsawdd. Nawr, man cychwyn yw hynny, wrth gwrs, mewn proses hirach, ac...
Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfrifoldebau'r cyd-bwyllgorau corfforaethol arfaethedig? OQ57205
Llyr Gruffydd: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch buddsoddi mewn isadeiledd yn y Gogledd? OQ57186
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Nid oeddwn i'n bwriadu ymateb i'r datganiad mewn gwirionedd, ond rwyf i wedi bod yn eistedd yma ac yn gwrando yn astud ar yr hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud, ac, yn y bôn, nid oes unrhyw beth wedi newid, mewn gwirionedd, a oes yna? Fe allech chi fod wedi cyflwyno'r datganiad hwn 10 mlynedd yn ôl, ac, yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar annibyniaeth y broses o oruchwylio y Cod Gweinidogol yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: Nid ydym wedi crybwyll un maes penodol, a chredaf y byddwn yn esgeulus pe na bawn yn cyfeirio ato. Y bore yma, mynychodd y Gweinidog a minnau ac eraill lansiad adroddiad gan WWF Cymru, RSPB Cymru a Maint Cymru sydd, rwy'n credu, yn pwysleisio'r ffaith mai rhan o'r broblem yn unig yw mynd i'r afael â'n hôl troed domestig o safbwynt allyriadau carbon a cholli bioamrywiaeth. Mae bai arnom na...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth. Mae wedi bod yn drafodaeth eang, a hynny, mae'n debyg, yn adlewyrchu ehangder y cynnig gwreiddiol, ond hefyd ehanger y gwelliannau sydd wedi cael eu gosod. Mae sawl cyflwyniad wedi ein hatgoffa ni o'r ffaith mai argyfyngau sydd gennym ni, hinsawdd a natur, a'r ddau beth yn cydblethu. Mae'r achosion yn...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn. Ac wrth gwrs, yn y cyfamser, mae'n bwysig bod y Llywodraeth yma'n troi pob carreg bosib er mwyn creu'r adferiad dŷn ni eisiau ei weld. Ac mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, yn cynnig pecyn o fesurau posib a fyddai'n cyfrannu at hynny, drwy ddefnyddio caffael. Maen nhw hefyd yn sôn am annog mwy o start-ups a chynyddu'r lwfans cyflogaeth, ac ati. Ond mae...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch am hynny. Dŷch chi wedi gwneud y pwynt i fi, dwi'n meddwl, drwy ddweud bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig bwerau sydd ddim gennym ni yn y fan hyn i ymateb i hyn. Ac wrth gwrs, unwaith eto, mae amgylchiadau eithriadol fel rŷn ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn dangos cyn lleied o bwerau a dylanwad macroeconomaidd sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru i fedru ymateb i wahanol...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Onid yw'n braf clywed y nadu ar feinciau'r Ceidwadwyr ynglŷn â pholisïau treth Plaid Cymru pan na allant hyd yn oed gadw eu haddewidion mewn perthynas â threthiant ar lefel y DU? Ac mae'n enghraifft amlwg iawn, yn fy marn i, o amherthnasedd cenfigennus yr Aelodau yr honnir eu bod yn wrthblaid swyddogol—a gwrthblaid swyddogol na all hyd yn oed sicrhau bod ei...
Llyr Gruffydd: Nawr te, Weinidog, i ni gael trafod rhai o'r materion sydd wir yn mynd â bryd pobl Cymru—mae yna heriau eithriadol, wrth gwrs, yn wynebu nifer o fusnesau ar hyn o bryd yng Nghymru, sy'n gorfod dygymod â chynnydd sylweddol ym mhris ynni. Mae hynny'n effeithio yn arbennig ar fusnesau sydd yn ddefnyddwyr ynni dwys. Dŷn ni'n ymwybodol o drafodaethau sy'n digwydd rhwng adrannau ar lefel...
Llyr Gruffydd: Mae methiant y protocol presennol yn amlwg i bawb ei weld. Mae wedi'i gymharu nifer o weithiau, on'd yw e, â'r hen Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, a oedd yn bla ar y Senedd yn ôl ar ddiwedd y 2000au. Fe'u disodlwyd yn gyflym iawn oherwydd pryderon ynghylch cymhlethdod y trafodaethau sy'n gysylltiedig â'r rheini, a dylid ymdrin â'r trefniant hwn hefyd mewn ffordd debyg. Mae'r...
Llyr Gruffydd: Mae yna ddau ran i'r cynnig yma sydd ger ein bron ni: yn gyntaf, potensial y dreth ar dir gwag, ac yn ail, wedyn, diffygion y protocol. Ar yr elfen gyntaf, dwi'n meddwl bod yna ddadleuon cryf o blaid ystyried cyflwyno treth ar dir gwag. Mi fyddai fe, wrth gwrs, yn helpu i daclo sefyllfaoedd lle mae datblygwyr mawr yn camddefnyddio'r system er mwyn chwyddo elw ar draul cymunedau. Mi ddywedodd...
Llyr Gruffydd: Yn iawn, maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed ac wedi gweithio'n eithriadol o galed nid dim ond dros y 18 mis diwethaf, ond yn wyneb rhybuddion ynglŷn â diffyg capasiti yn y blynyddoedd cyn hynny. Nawr, chwe blynedd yn ôl, mi wnaeth Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu arolwg o feddygon teulu yn Wrecsam pan ddywedodd traean ohonyn nhw eu bod nhw'n bwriadu gadael y proffesiwn o fewn pum...
Llyr Gruffydd: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau iechyd sylfaenol yng Ngogledd Cymru? OQ56982