Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna. Rwy'n cofio'n eglur iawn ymweliad a wnaeth ef a minnau â phencadlys Banc Datblygu Cymru yn Wrecsam, ac mae wedi bod yn un o lwyddiannau eithriadol y degawd diwethaf. Cyhoeddwyd y canlyniadau hanner blwyddyn, fel y dywedodd Ken Skates, yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Maen nhw'n dangos tuedd gref barhaus o fuddsoddiad uniongyrchol y mae'r banc yn...
Mark Drakeford: Wel, mae'r mater ffosffadau yn un go iawn, Llywydd. Llwyddais i gael cyfarfod gyda'r prif ffigyrau yn y maes hwn yn y Sioe Frenhinol yn gynharach eleni, ac mae cyfarfod dilynol gyda'r holl ffigyrau hynny wedi'i drefnu ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd. Mae hynny i wneud yn siŵr bod yr holl sefydliadau hynny sydd â rhan i'w chwarae i ddatrys y mater ffosffadau yn gallu gwneud hynny, ac nad...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae bod o dan fygythiad o fod yn ddigartref ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn straen aruthrol, fel y bydd unrhyw un yn y Siambr hon sy'n gwneud gwaith achos rheolaidd yn gwybod. Ond mae wynebu hynny dros gyfnod y Nadolig, pan ydych chi'n ofni efallai na fydd gwasanaethau ar gael, yn fwy heriol fyth, rwy'n siŵr, i unrhyw un. Ceir dwy agwedd ar hyn, Llywydd, wrth gwrs. Ceir y galw...
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd yn parhau'n ddiwyro ar bob adeg o'r flwyddyn. Mae cyfanswm ein buddsoddiad mewn atal digartrefedd a chymorth tai dros £197 miliwn eleni, gan helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael heb y cymorth na'r llety sydd eu hangen arnyn nhw.
Mark Drakeford: Rŷn ni wedi buddsoddi dros £80 miliwn i ehangu neu agor mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd ar draws Cymru. Dwi eisiau gweld pob plentyn yn gadael yr ysgol, pa bynnag ysgol yw hynny, yn siaradwyr Cymraeg. Dyma fydd ein ffocws dros y degawd nesaf.
Mark Drakeford: In the first 7 months of the 2022-23 financial year, 200,529 children have been treated in general dental services, and 44,003 of these are new patients.
Mark Drakeford: We continue to support new and existing businesses in mid and west Wales through the Business Wales service. We are committed to delivering a greener, more equal and prosperous economy for all parts of Wales.
Mark Drakeford: Rydym yn ariannu 26 o fudiadau amrywiol i gefnogi’r Gymraeg yn genedlaethol a lleol. Er enghraifft, mynychodd 230,000 jambori yr Urdd yn ddiweddar ac rydym yn rhoi dros £300,000 i gefnogi mudiadau Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru.
Mark Drakeford: Rydym yn ariannu 26 o fudiadau amrywiol i gefnogi’r Gymraeg yn genedlaethol a lleol. Er enghraifft, mynychodd 230,000 jambori yr Urdd yn ddiweddar ac rydym yn rhoi dros £314,000 i gefnogi mudiadau Cymraeg yng Nghanol De Cymru.
Mark Drakeford: Llywydd, dim ond i fod yn glir, er mwyn cywirdeb, £18 miliwn oedd benthyciad Llywodraeth Cymru, ac roedd gyda Undeb Rygbi Cymru, nid gyda'r rhanbarthau. Mae'r ffordd y mae'r arian yn cael ei ddefnyddio yn benderfyniad i Undeb Rygbi Cymru, a nhw sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod ad-daliadau'r benthyciad yn cael eu gwneud. Roedd yn destun trafod dwys o fewn Llywodraeth Cymru ynghylch a oedd...
Mark Drakeford: Llywydd, caiff gwerth iechyd, cymdeithasol ac economaidd chwaraeon ei gydnabod yn eang, a dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi mwy na £75 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf, drwy Chwaraeon Cymru, i gyflawni ein nodau a'n hamcanion cyffredin.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, a gaf i gyntaf oll gytuno â'r hyn y dywedodd Luke Fletcher am y cyhoeddiad siomedig iawn yr wythnos diwethaf? Rwyf i wedi dadlau fy hun ers tro bod angen rhywbeth tebyg i Ddeddf Ail-fuddsoddi Cymunedol 1977 yr Unol Daleithiau, a fyddai'n gorfodi banciau, pan fyddan nhw'n gadael cymunedau sydd wedi'u cefnogi ers degawdau a degawdau, a fyddai'n eu gorfodi nhw i fuddsoddi yn y...
Mark Drakeford: Llywydd, fel yr eglurais i ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, nid yw'r cyfrifoldeb dros wasanaethau ariannol, gan gynnwys bancio, wedi'i ddatganoli i'r Senedd. Er na all Llywodraeth Cymru, felly, sicrhau bod banciau ar gael, rydym ni'n gweithio gyda'r rhai sy'n gallu gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau arloesol, fel hybiau bancio ar y cyd a'n cynlluniau ein hunain ar...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae Mike Hedges yn ein hatgoffa o rai ffyrdd pwysig lle'r oedd adeiladu tai cyngor yn bosibl yn y gorffennol ar sail ddwybleidiol. Mae pobl yn anghofio mai Aneurin Bevan oedd y Gweinidog tai yn ogystal â'r Gweinidog iechyd, a rhoddodd fwy o ddeddfwriaeth tai ar y llyfr statud nag y gwnaeth basio deddfwriaeth iechyd. A'r Gweinidog tai a oruchwyliodd y nifer fwyaf o dai cyngor a...
Mark Drakeford: Llywydd, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol ac wedi clustnodi'r lefelau uchaf erioed o gyllid, gan gynnwys mwy na dyblu cyllid Abertawe ers 2020-21. Disgwylir y cyhoeddiad ystadegol cyntaf yn dangos cynnydd tuag at y targed hwn ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Mark Drakeford: Wel, diolch am y cwestiwn, wrth gwrs.
Mark Drakeford: Mewn sawl ffordd, nodwyd craidd y broblem yn y cwestiwn, sef bod deintyddion yn fusnesau preifat; maen nhw'n gontractwyr. Ni ellir eu gorfodi i weithio i'r GIG. Ac rydym ni wedi gweld, i raddau bach iawn, mewn gwirionedd, rhai deintyddion yng Nghymru yn symud allan o'r GIG ac i bractis preifat. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am y peth? Wel, rwyf i wedi rhannu hyn ar y llawr nifer o...
Mark Drakeford: Wel, fy nghyngor i iddyn nhw yw gofyn am gyngor gan eu clinigwr ac yna gwneud asesiad mai dim ond nhw sy'n gallu ei wneud. Nid oes unrhyw gyngor posibl y gall yr Aelod na minnau ei roi i bobl yn sefyll yma. Dylen nhw gael cyngor clinigol, ac yna dylen nhw wneud eu penderfyniad.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, fel mae'r Aelod yn gwybod, mae'n amhosib i fi ymateb i achos ble dwi'n clywed am y manylion am y tro cyntaf yn y Siambr. Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, dwi eisiau gweld gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru ble mae'n gallu rhoi gwasanaethau i bobl mewn ffordd brydlon, ymhob agwedd o'r gwasanaeth.
Mark Drakeford: Ac er ei bod hi'n anodd iawn clywed y math o achos y mae'r Aelod wedi ei amlinellu'r prynhawn yma, mae'n dal yn bwysig dweud, hyd yn oed os cymerwch chi'r ffigyrau a gyhoeddir gan y sector preifat eu hunain—ac, wrth gwrs, maen nhw yno i gyflwyno'r achos dros eu sector—ond os cymerwch chi eu ffigurau eu hunain ar ddefnydd o'r sector preifat yng Nghymru, yna, mewn gofal wedi'i gynllunio,...