Caroline Jones: Rwyf wedi credu hynny erioed. [Torri ar draws.] Rwy'n siarad drosof fy hun. Rydych wedi gofyn cwestiwn i mi; nid gofyn i fy mhlaid a wnaethoch. Fe ofynnoch chi i mi—fy mhwynt, ac rwyf wedi'i bwysleisio. Diolch. Felly, mae angen i Gymru a San Steffan fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu dulliau di-wifr o wefru cerbydau. Mae angen i'r ddwy Lywodraeth sicrhau hefyd na rwystrir y broses o gyflwyno...
Caroline Jones: Yn sicr.
Caroline Jones: Wel, oherwydd bod y tagfeydd traffig ar gyffordd 41 ac yn y blaen yn erchyll.
Caroline Jones: Ond mae'r tagfeydd yno o gerbydau ar stop wedi—
Caroline Jones: Gallwn gael sgwrs yn nes ymlaen. Yn ogystal ag awdurdodau lleol yn monitro ansawdd aer, mae angen cael system adrodd i rybuddio trigolion am ansawdd aer gwael. Gellid defnyddio datblygiadau fel y lloeren Sentinel-5C a wnaed ym Mhrydain, sy'n monitro llygryddion aer, ar lefel genedlaethol i wella'r dull o ragfynegi lefelau uchel o lygredd aer a dylid eu defnyddio i rybuddio'r cyhoedd am...
Caroline Jones: Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon. Fel y nodais droeon, ansawdd aer gwael yw un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli ac yn byw ynddo, Gorllewin De Cymru, sydd â pheth o'r ansawdd aer mwyaf brwnt yn y DU. Mae lefelau PM10 yn aml yn uwch na'r...
Caroline Jones: Diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei adroddiad ar wasanaethau endosgopi. Fel rwyf fi a llawer o bobl eraill wedi'i nodi, mae'r pwysau ar wasanaethau diagnostig yng Nghymru yn llesteirio ein gallu i wella cyfraddau goroesi canser. Canser y coluddyn yw'r ail ar y rhestr o ganserau sy'n lladd y nifer fwyaf o bobl yng Nghymru. Mae tua 17 o bobl yn marw o ganser y...
Caroline Jones: Weinidog, o ganlyniad i doriadau i gyllidebau llywodraeth leol dros y blynyddoedd, mae pobl dros 60 oed wedi cael eu heffeithio'n anghymesur. Rydym wedi gweld canolfannau dydd a llyfrgelloedd yn cau, ac mae hynny wedi cynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd yn y grŵp oedran hwn. Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw eich penderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol yn cyfrannu at...
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y Bil hwn heddiw. Rwyf wedi cael llwyth o alwadau a negeseuon e-bost gan rieni pryderus sy'n ofni y byddan nhw'n cael eu troi'n droseddwyr o ganlyniad i gynigion Llywodraeth Cymru. Nid wyf i'n dadlau o blaid ymosod ar blant ar raddfa eang. Yn wir, fel athro ac fel rhywun a ofalodd am ddau blentyn am flynyddoedd lawer, gallaf gadarnhau...
Caroline Jones: Rhaid imi ddatgan buddiant yn y fan yma, gan fy mod yn landlord ar ambell dŷ rhent yn y sector rhentu preifat. Mae tenantiaid bob amser wedi cael cytundeb tenantiaeth sicr gennyf, a bu'r rhent a ofynnwyd wastad yn unol â'r pris a roddwyd ar yr eiddo. Os oes ganddyn nhw broblem, maen nhw'n ffonio'r asiant sy'n gyfrifol, a chaiff y gwaith ei wneud ar unwaith. Felly, rwyf innau hefyd yn credu...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon. Gwrthododd Llywodraeth Cymru fesur awtistiaeth Paul, gan ddweud wrthym nad oedd angen Deddf awtistiaeth arnom oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni newid gwirioneddol yn y gwasanaethau i'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistiaeth. Ond nid yw hynny'n wir bob amser, ydy e? Oherwydd nid yw honiadau Llywodraeth Cymru yn cyfateb i'r...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd, ond credaf fod fy nghwestiwn newydd gael ei ateb, gan ei fod yn ymwneud â gwresogi ac oeri. Felly, diolch.
Caroline Jones: Weinidog, gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi rhoi’r gorau i ystyried morlyn llanw Abertawe, pa ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi'i rhoi i edrych ar gynlluniau profi cysyniad eraill ar raddfa lai? Gallai morlyn llanw fod o gymorth gyda’r gwaith o ddatgarboneiddio gwaith dur Port Talbot. A yw eich Llywodraeth wedi trafod y posibilrwydd hwn gyda Tata?
Caroline Jones: Prif Weinidog, cafwyd nifer frawychus o farwolaethau a nifer fawr o gleifion a ddioddefodd niwed difrifol o ganlyniad i ddiffyg cydymffurfiad o ran diogelwch cleifion yn ein GIG dros y 12 mis diwethaf. Digwyddodd dwy ran o dair o'r marwolaethau a 58 y cant o'r niwed difrifol yn Betsi Cadwaladr. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hyn yn annerbyniol. Felly, Prif Weinidog, beth sydd...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad. Cefais y pleser o wasanaethu ar y pwyllgor yn ystod peth o'r ymchwiliad a hoffwn ddiolch i'r clercod a phawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr iawn i ni. Mae'r sector ffilm a theledu yn rhan hanfodol o'n heconomi ac mae gan Gymru draddodiad hir o gynhyrchu...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Croesawn yr adolygiad annibynnol hefyd. Mae prinder tai fforddiadwy o safon yn arwain at deuluoedd yn byw mewn cartrefi gorlawn neu mewn llety gwely a brecwast, ac unigolion mewn hosteli neu ar y stryd. Rwyf wedi gweld pobl yn cael eu carcharu am grwydradaeth yn dweud wrthyf nad oedden nhw’n edrych ymlaen at gael eu rhyddhau oherwydd eu bod yn cael...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am roi copi ymlaen llaw inni o'r Bil a'r memorandwm esboniadol. Mae'n hen bryd inni roi diwedd ar gamddefnyddio anifeiliaid gwyllt i blesio'r cyhoedd sy'n gwylio, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno deddfwriaeth i wneud hynny o ran syrcasau teithiol. Bydd Cymru cyn bo hir yn ymuno â'r rhestr gynyddol o wledydd sy'n gwahardd perfformiadau sy'n...
Caroline Jones: Prif Weinidog, y mis diwethaf, bu dros 10,000 o bobl yn aros mwy na 30 munud am ymateb ambiwlans i alwad oren. Bythefnos yn ôl, arhosodd cyfaill i mi, un o'm hetholwyr, bron i dair awr am ymateb brys yn dilyn amheuaeth o strôc. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hyn yn annerbyniol. Prif Weinidog, pryd all pobl Cymru ddisgwyl gweld terfyn ar amseroedd aros o fwy na 30 munud am...
Caroline Jones: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon, ond rwy'n siomedig mai dadl 30 munud yn unig ydyw yn hytrach nag un awr, oherwydd rwy'n credu ei fod yn destun pwysig iawn. Mae’r ffaith bod pobl wedi mynd yn ddall wrth aros am driniaeth—
Caroline Jones: Gwnaf.