Neil McEvoy: Rhag eich cywilydd. Cywilydd.
Neil McEvoy: Yn y 1960au, roedd Hinkley Point A yn ffatri bomiau niwclear. Yn y flwyddyn ariannol 1968-9, cafodd hanner y craidd niwclear ei dynnu i ddarparu plwtoniwm o safon cynhyrchu arfau. Cynlluniwyd y system i dynnu un rhan o bump o'r craidd yn unig mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn. Y rheswm dros y rhuthr oedd bod y cytundeb rhyngwladol i atal rhag twf arfogaeth niwclear yn dod i rym yn 1970. Mae...
Neil McEvoy: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gefnogi'r gwyddonwyr sy'n ceisio atebion gan Magnox Cyf. ynghylch nifer a graddau'r damweiniau pyllau oeri yn Hinkley Point A a allai fod wedi arwain at symiau sylweddol o wraniwm a phlwtoniwm yn y mwd sy'n cael ei ddympio gan EDF ym Mae Caerdydd? 211
Neil McEvoy: Dydych chi heb ateb y cwestiwn hwn erioed. Ddim erioed.
Neil McEvoy: Arweinydd y Siambr, yr Athro Emeritws Keith Barnham, cymrawd ymchwil nodedig yr adran ffiseg, Coleg Imperial Llundain, yw'r gwyddonydd diweddaraf i ddweud y dylai carthu a dympio mwd oddi ar wely'r môr y tu allan i orsaf pŵer niwclear Hinkley Point ddod i ben, er lles iechyd a diogelwch. Mae'n ffisegydd gronynnau ynni uchel—yr arferent eu galw'n ffisegwyr niwclear. Mae e'n dweud, a...
Neil McEvoy: Fel y dywedais i, nid yw'n rhywbeth y gallaf ei gefnogi. Mae swyddfa'r ombwdsmon yn cael ei chamddefnyddio. Mae'r cyhoedd yn dweud wrthyf y ceir amheuon difrifol ynghylch gonestrwydd y swyddfa hon. Dyna ddiwedd ar fy sylwadau i, a byddaf yn pleidleisio yn erbyn.
Neil McEvoy: Wel, rwy'n credu bod gan y Gweinidog bwynt da iawn, oherwydd ei fod yn honni y cafwyd fi'n euog o fwlio. Yr hyn y cafwyd fi yn euog ohono oedd dweud fy mod eisiau ailstrwythuro'r Cyngor, a thorrwyd ar fy nhraws, yn wrthnysig, gan ffrind neu gyn bartner busnes y Gweinidog, neu beth bynnag yw ef, yn ôl pob sôn—
Neil McEvoy: Ni allaf gefnogi'r cynnig hwn sydd gerbron y Senedd heddiw. Rwy'n datgan buddiant fel un sy'n gweithredu mewn Llywodraeth Leol, felly rwyf yn gwbl ymwybodol o sut mae Swyddfa'r Ombwdsmon yn cael ei chamddefnyddio. [Torri ar draws.] Os wnewch chi roi ychydig o eiliadau imi, gallaf egluro. Yr hyn y mae fy nghydweithwyr mewn Llywodraeth Leol yn ei ganfod yw, pan fyddant yn ceisio—[Torri ar...
Neil McEvoy: Os wnewch chi aros rai eiliadau—
Neil McEvoy: Mae'n glir oherwydd mae yna gwestiynau i'w hateb o ran buddiannau, o ran beth oedd pobl yn gwybod, o ran pan ddaeth datganiad o fuddiant y Gweinidog i'r amlwg, ac a wnaed y datganiadau hynny cyn annerch y Siambr hon yn ateb y Ddadl ar y datgeliad neu beidio—ar yr adroddiad am y sibrydion i'r wasg—a hefyd, a wnaed y datganiad cyn y gwnaed y penderfyniad ar gyllid craidd ar gyfer Chwarae...
Neil McEvoy: Arweinydd y siambr, hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth ar ddatganiadau o fuddiant ar gyfer aelodau o Lywodraeth Cymru. Nodaf, er enghraifft, bod datganiad o fuddiannau'r Gweinidogion newydd ei gyhoeddi, bum niwrnod yn ôl. Datganwyd yno fod eich mab yn gweithio i'r cwmni lobïo dadleuol, Deryn, ers 2017. Nawr, mae cleientiaid Deryn wedi derbyn o leiaf £100 miliwn o arian cyhoeddus yn y...
Neil McEvoy: Fe wnaethoch ddweud bod diddordeb i'r cyhoedd—[Anghlywadwy.]
Neil McEvoy: Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn gwybod eich bod yn gwneud tagfeydd traffig yn waeth yng Nghaerdydd yn hytrach na mynd i'r afael â nhw. Mae miloedd o dai yn cael eu taflu i fyny nawr—nawr—ar hyd Heol Llantrisant, er enghraifft, yng ngorllewin y ddinas, lle nad oes ond ffordd gerbydau sengl. Mae'r metro ar ryw adeg yn y dyfodol. Rydych chi hefyd yn bwriadu adeiladu traffordd, pan allwch...
Neil McEvoy: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael â thagfeydd traffig yng Nghanol De Cymru? OAQ52520
Neil McEvoy: Mae Llafur yn siomi Cymru yn llwyr o ran tai. Mae'r cynnig hwn yn honni bod Llafur yn gosod y sylfeini ar gyfer mwy o dai fforddiadwy, ond does ond rhaid ichi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd i weld pa mor hurt yw hyn. Yn syml, mae Llafur yn gwerthu ein dinas. Mae bron bob darn o dir glas yng ngorllewin y ddinas a llawer yn y dwyrain yn cael eu hadeiladu arnynt ar hyn o bryd, ac...
Neil McEvoy: Ni fyddaf yn cefnogi'r gyllideb hon yn y fan yma heddiw. Doeddwn i ddim yn cefnogi'r gyllideb derfynol, felly ni fyddaf yn gwneud hynny, fel y dywedais, heddiw. Yr hyn sydd gennym ni yma, mewn gwirionedd, yw rhywfaint o arian yn symud o gwmpas, dim unrhyw newid mawr gwirioneddol. Yn wir, mae'r ymadrodd 'canu crwth tra llosgo Rhufain' yn dod i'r meddwl. Cymru yw'r unig genedl ddatganoledig...
Neil McEvoy: Prif Weinidog, yn 2012, fe wnaethoch chi wadu cyhoeddi i'r South Wales Echo na fyddai adeiladu ar y caeau gwyrdd o amgylch Caerdydd yn rhan o gynllun datblygu lleol honedig y Blaid Lafur. Safodd eich cyd-Aelodau Llafur yn y caeau gwyrdd, a dyfynnaf, ar gyfer y cofnod, 'Nid yw Llafur eisiau adeiladu yn nghaeau Waterhall nac ar unrhyw fannau gwyrdd.' Mae adeiladu yn digwydd ar y caeau hynny...
Neil McEvoy: Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn dechrau codi cywilydd ar ein gwlad, yn ogystal â'n hatal rhag datblygu ein heconomi. [Torri ar draws.] Dyma'r cwestiwn. Gobeithio, y gellid deall hyn.
Neil McEvoy: Sut gallech chi bleidleisio—? [Torri ar draws.] Cwestiwn syml iawn i'w ateb yr wythnos hon. Sut gallech chi bleidleisio yr wythnos diwethaf yn erbyn cynnig o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Mae'n syml iawn.
Neil McEvoy: Prif Weinidog, rwy'n gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r seremoni ddirgel yr oeddech chi'n bresennol ynddi yr wythnos hon i ailenwi ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru, yn groes i ddymuniadau'r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru na chafodd eu gwahodd hyd yn oed. [Torri ar draws.]