Suzy Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol? OAQ54913
Suzy Davies: Wel, wrth gwrs, mae Ogwr yn fy rhanbarth i, felly efallai y gallaf innau fanteisio ar y gwahoddiad hwnnw hefyd, Huw—diolch i chi. Fel yr ydym ni wedi ei glywed o'r blaen yn y Siambr, wrth gwrs, bydd etholwyr yn Ogwr, yn ogystal â rhannau eraill o'm rhanbarth i, wedi gweithio yn Ford a'r cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sydd wedi cefnogi Ford. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi arian cyfatebol...
Suzy Davies: Gwnaf, ond fe wnaf hynny ar y diwedd.
Suzy Davies: Iawn. Wel, i orffen felly, rwyf am ddychwelyd at y pwynt hwnnw yn 2012, pan wneuthum y cyhoeddiad polisi yn yr Eisteddfod. Y prif reswm pam fy mod wedi newid i'r Gymraeg mewn gwirionedd oedd oherwydd fy mod wedi anghofio'r rhan fwyaf o fy Ffrangeg. Mae'n rhyfedd i mi mai fy ail iaith bellach yw Cymraeg ac nid un o'r rhai a ddysgais yn yr ysgol neu rywle arall, nid yn unig am ei bod yn bwysig...
Suzy Davies: Ond wrth edrych ar nodau'r maes dysgu a phrofiad hwnnw ac edrych ar yr hyn sy'n cyfateb yn yr Alban hefyd, mae'r ymrwymiad i sicrhau bod ein plant yn caffael gallu mewn ieithoedd eraill mewn unrhyw ffordd y gellir ei chymharu â'r iaith y maent yn tyfu i fyny gyda hi—mae'n dal yn eithaf anodd dod o hyd iddo. Nid wyf yn dweud nad yw yno, ond rwy'n ei chael hi'n anodd ei weld. Gyda mwy o...
Suzy Davies: Fodd bynnag, sut bynnag yr edrychwch arno—yn ddiwylliannol, yn economaidd neu'n syml o ran gwell cyd-ddealltwriaeth rhyngom â’n cyd-ddyn—rydym o dan anfantais. Rydym yn llai nag y gallem fod, ac yng Nghymru ni allwn fforddio bod yn llai nag y gallem fod. Ac mewn gwirionedd, mae gennym fantais nad ydym yn ei hyrwyddo nac yn ei gwerthfawrogi ddigon. Yn ddamcaniaethol o leiaf, ni yw'r...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn 2012, gyda chaniatâd Angela Burns, a oedd yn llefarydd yr wrthblaid ar addysg ar y pryd, gwneuthum rywbeth rwy’n meddwl bellach tybed a oedd wedi’i ganiatáu mewn gwirionedd, oherwydd lansiais ein polisi Cymru dairieithog ar y maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe wneuthum hynny yn Ffrangeg, a dyna pam nad wyf yn siŵr a oedd yr hyn a wneuthum o...
Suzy Davies: Efallai y gallaf i drio ymateb i'r cwestiwn yna, te. Er mwyn osgoi dyfodol o basio'r baich ar y pwnc yma, allech chi egluro'r newidiadau i gyllideb comisiynydd yr iaith Gymraeg y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i'w gyfrifoldebau hyrwyddo newydd? Pa arian fydd yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru am ei chyfrifoldebau hyrwyddo? Achos hoffwn i gadw llygad ar hyn ymlaen llaw. Allech chi hefyd...
Suzy Davies: Roedd yn ddiddorol clywed hynny, a dweud y gwir, ond mae'r diwygiadau contract hyn wedi bod yn mynd rhagddynt o ran cynlluniau peilot, neu gynnydd cyffredinol, ers oddeutu tair neu bedair blynedd bellach. O gofio bod y newid yn y contract yn ymwneud â helpu pobl i ddod yn well wrth ofalu am iechyd y geg, buaswn wedi meddwl y gallai fod llai o angen am wariant Llywodraeth Cymru, nid yn unig...
Suzy Davies: Ond, wrth gwrs, nid oes gan bob cyngor yr arian hwnnw, hyd at y swm hwnnw, wedi'i ddal yn ganolog. Rwy'n falch iawn dros ysgol Plasmarl, mewn gwirionedd, ac fe wna i ddod at yr asesiadau wedi'i seilio ar ddangosyddion yma mewn munud. Oherwydd y pwynt a wnaeth argraff arnaf i yn eich sylwadau cynharach oedd hwnnw yn ymwneud ag atal. Ac, wrth gwrs, nid yw ysgolion yn ymwneud ag addysg...
Suzy Davies: Mae hon wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn gwrando ar hyn ac o gofio ei bod yn ddadl ar ddatganiad ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at glywed rhai atebion i gwestiynau yn eich ymateb i'r ddadl hon. Ac rwy'n meddwl mai'r cyntaf o'r cwestiynau hynny yr wyf yn mynd i ddwyn oddi ar Helen Mary, yw 'sut?' Ac, yn anffodus, mae Alun Davies wedi achub y blaen arnaf...
Suzy Davies: Wel, wrth gwrs, mae'r adroddiad hwn yn rhan o ddarlun ehangach o adolygiadau sydd wedi bod yn cael eu cynnal dros flynyddoedd lawer. I'r teuluoedd a chyfeillion hynny o'r bobl ifanc a laddodd eu hunain ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2007 a 2008 a thu hwnt, yn amlwg, iddyn nhw, nid yw'r digwyddiadau hynny'n teimlo mor bell yn ôl. Ac wrth gwrs, y defnydd o'r rhyngrwyd a oedd yn ymhlyg yn y clwstwr...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd, ac a gaf i ddymuno Nadolig llawen i bawb hefyd cyn ichi gredu dwi ddim yn ei feddwl ar ôl y ddadl hon?
Suzy Davies: A gaf fi ddiolch i chi, Lywydd? Ac rwy'n mynd i wneud y cynnig, fel y mae ar y papurau heddiw. Nawr, mae'n ddiddorol, onid yw, unwaith eto, i weld o welliant Llywodraeth Cymru, sut y mae plaid sydd wedi bod mewn grym ers 20 mlynedd yn trin beirniadaeth a wneir gan yr wrthblaid swyddogol yn y Cynulliad hwn? Mae seiborgiaid gwleidyddiaeth Cymru yn parhau i ddileu'r gwirionedd os yw'n rhwystro'r...
Suzy Davies: A gaf fi ddweud ei bod yn bleser gennyf atgoffa'r Siambr fod 18 Rhagfyr yn nodi deugain mlynedd ers mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, CEDAW? Bil hawliau i fenywod yw'r confensiwn, ac mae'n cynnwys popeth o hawliau menywod i gymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, i gael yr hawl i'r un cyfleoedd gwaith â dynion o ran cyflogau cyfartal,...
Suzy Davies: Fel y dywedwch, mae'r cynllun rheoli yn cynnwys cryn dipyn o ailblannu, ac yn ôl ym mis Hydref, roeddech yn swnio'n gadarnhaol iawn ynghylch y syniad o CNC ac ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd fel y gallai plant ddysgu plannu coed fel rhan o'u haddysg ehangach. Fel y mae'n digwydd, ar yr union ddiwrnod hwnnw, cyfarfu Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, â CNC i drafod...
Suzy Davies: Tybed, Dirprwy Weinidog, os caf i bwyso ychydig mwy arnoch chi ar hynny. Oherwydd, fel y gwyddoch, yn gymharol ddiweddar, mae Heddlu De Cymru, er mwyn ceisio mynd i'r afael â phuteindra ar y stryd, yn arbennig ar Stryd Fawr Abertawe, wedi cyflwyno gorchmynion diogelu'r cyhoedd, ac mae hynny wedi achosi cryn ddadlau. Canlyniad hyn, a oedd i'w ddisgwyl efallai, yw bod y menywod a'r rhai hynny...
Suzy Davies: Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r llu o wirfoddolwyr sydd wrth eu boddau â gwarchodfa Cynffig ac sydd wedi cyfrannu oriau dirifedi o'u hamser iddi, ac, wrth gwrs, maen nhw wedi herio'r ymddiriedolaeth sy'n berchen ar y safle ynglŷn â'i ddyfodol. A gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn, gan ei bod hi'n Nadolig, i ddiolch i Weinidog yr amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru am...
Suzy Davies: Diolch, Weinidog. Galwaf nawr ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.