Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n derbyn yr hyn rydych wedi'i ddweud. O'm safbwynt i, roeddem ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn mynegi pryderon mawr am nifer y bobl a gâi eu heintio mewn ysbytai yng Nghymru o'r haf diwethaf ymlaen. Teimlaf fod Llywodraeth Cymru yn codi'i hysgwyddau ar y pryd, gyda'ch rhagflaenydd yn dweud bod gwersi wedi'u dysgu. [Torri ar draws.] Gallaf glywed y cyn-Weinidog...
Russell George: Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych yn teimlo y byddai'n briodol ymddiheuro ar ran Llywodraeth Cymru am fethu ag atal trosglwyddiadau yn yr ysbyty yn ystod ton gyntaf ac ail don y pandemig?
Russell George: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cyfleusterau iechyd yng nghanolbarth Cymru?
Russell George: A gaf fi ddweud yn gyntaf fod hwn yn sicr yn fater rwyf wedi'i godi fy hun gyda Llywodraethau olynol yng Nghymru? Rwy'n credu i mi godi hyn yn gyntaf gydag Edwina Hart, a oedd mor gefnogol i fy safbwynt ar Fanc Cambria ac ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at fancio cymunedol. Gwrandewais yn astud iawn ar yr atebion a roddwyd, Weinidog, ond credaf mai'r hyn y bydd pobl eisiau ei wybod, yn...
Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran banc cymunedol Cymru?
Russell George: —gyda hynny hefyd. Ydw i wedi mynd ymlaen yn rhy hir, Llywydd? Dof i ben yn y fan yna, oherwydd mae'r Llywydd newydd yn y gornel fanna wedi dweud wrthyf fy mod i'n mynd dros amser. Gorffennaf yn y fan yna, felly, Llywydd wrth gefn yn y gornel, a gofyn ynghylch cynlluniau byrddau iechyd lleol o ran canolfannau sy'n rhydd o COVID a thriniaeth reolaidd yn hynny o beth hefyd.
Russell George: Diolch, Gweinidog, am y rheoliadau heddiw ac am eu cyflwyno. Gallaf i ddweud yn sicr y byddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliadau heddiw sydd wedi'u cyflwyno'n ôl-weithredol, oherwydd mae'n amlwg eu bod yn llacio nifer o gyfyngiadau, gan gynnwys, fel y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, briodasau ac angladdau, sydd, fel yr oeddech chi wedi'i ddweud, yn adegau bywyd pwysig i...
Russell George: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ysbytai cymunedol newydd yng Nghymru?
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn eich holi am eich profion a'ch strategaeth profi. Fel y mae ar hyn o bryd, nid yw rhai gwartheg sydd wedi'u heintio â TB yn cael eu canfod gan brofion Llywodraeth Cymru ei hun, ac mae hyn yn amlwg yn destun rhwystredigaeth fawr i'r diwydiant ffermio pan fydd y Prif Weinidog ei hun yn ceisio rhoi'r bai ar ffermwyr, fel y soniwyd yn gynharach yn y sesiwn...
Russell George: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg? OQ56639
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich diweddariad y prynhawn yma? O ran yr amrywiolyn delta, er ein bod ni'n edrych ar gynnydd yn y gyfradd heintio yng Nghymru, mae niferoedd y rhai sydd angen triniaeth mewn ysbyty, yn ffodus, yn parhau i fod yn gymharol fach, sef 116 o gleifion COVID yn gyffredinol mewn gwelyau acíwt, ac un gyda COVID mewn gwely awyru ymledol....
Russell George: A gaf i ddweud wrth y Gweinidog yn gyntaf y byddwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma, gan fod y rheoliadau hyn yn amlwg yn ymwneud ag agor ein cymdeithas a'n heconomi, yr ydym, wrth gwrs, yn eu cefnogi? Sylwais yn eich sylwadau agoriadol, Gweinidog, ichi sôn bod pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig y brechlyn. Nid yw'n ymwneud yn benodol â'r rheoliadau hyn,...
Russell George: Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw? Rwy'n sicr yn croesawu'n fawr yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, o ran cyllid ar gyfer diagnosis a chymorth ar gyfer COVID hir. Rwy'n credu y byddwn i, fel llawer yn y Siambr hon, wedi fy syfrdanu gan ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a ddywedodd fod cynifer â 50,000 o bobl ledled Cymru wedi bod yn dioddef o COVID hir. Siaradais i,...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yng nghanolbarth Cymru?
Russell George: Rwyf wedi cymryd rhan mewn dadleuon yn y gorffennol ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno parth perygl nitradau, felly rwy'n mynd i ddefnyddio fy amser heddiw i raddau helaeth i dynnu sylw at drafferthion ac enghraifft un teulu ffermio penodol a sut y bydd y rheoliadau hyn yn effeithio arnynt hwy. Ond er eglurder, rwy'n ailadrodd fy marn hirsefydlog na ddylai'r rheoliadau hyn erioed...
Russell George: Diolch, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi rhoi ychydig mwy o fanylion am yr amserlen. Fe gyfeirioch chi at gael y wybodaeth yn ôl gan y byrddau iechyd erbyn wythnos nesaf, rwy'n credu ichi ddweud. Ac mae'n debyg mai'r cwestiwn wedyn yw amserlenni ynghylch y broses o pryd y byddwch yn gwneud yr ymrwymiadau hynny, a chyflwyno'r cynigion hynny i'r Gweinidog cyllid, a phryd y credwch y...
Russell George: Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich ateb. Rwy'n tybio nad yw'n fater o'r awdurdodau iechyd yn unig, ond gweithwyr iechyd proffesiynol eraill y mae angen i chi weithio gyda hwy yn ogystal, ac mae llawer o'r rhai y siaradais â hwy dros yr wythnosau diwethaf yn teimlo'n siomedig nad ydynt eto wedi cael y cyllid hwnnw wedi'i ddyrannu a'i gyhoeddi. Rwy'n derbyn y broses rydych wedi'i...
Russell George: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn fy rôl newydd, yn gyntaf hoffwn ddweud llongyfarchiadau ar eich penodiad, ac rwy'n gobeithio gweithio'n adeiladol gyda chi, yn enwedig mewn perthynas â'r heriau sydd o'n blaenau, heriau y mae'n rhaid inni eu hwynebu gyda'n gilydd fel gwlad. Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi croesawu'r cyhoeddiad o £1 biliwn i helpu'r GIG i adfer o'r pandemig, a'r gyfran gyntaf...
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma, a dweud bod nifer y bobl yn yr ysbyty sydd â'r coronafeirws ar ei lefel isaf ers dechrau'r pandemig? Ac fel y nododd y Gweinidog hefyd, rydym wedi gweld y cyfnod hwnnw o 10 diwrnod pan na chafwyd unrhyw farwolaethau o gwbl yn cael eu cofnodi oherwydd y feirws ar wahân i'r un farwolaeth yr adroddwyd amdani ddoe gan Iechyd...
Russell George: A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am ei chyflwyniad i'r rheoliadau heddiw, ac a gaf i longyfarch y Gweinidog yn ddiffuant iawn ar ei phenodiad newydd hefyd? Byddwn ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma, oherwydd, yn fy marn i, ac ym marn y Ceidwadwyr Cymreig, dyma'r dull cywir o ran llacio'r cyfyngiadau ar yr economi ac agor cymdeithas eto. Hoffwn wneud...