Mark Isherwood: Bwriedir i gymorth cyfreithiol helpu i dalu costau cyngor cyfreithiol, cyfryngu teuluol ac am gynrychiolaeth mewn llys neu dribiwnlys. Mae'r rheolau ynghylch pwy sy'n gymwys wedi'u nodi yn Neddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 a rheoliadau y cyfeirir atyn nhw gan y Cwnsler Cyffredinol. Bydd p'un a ydych yn gymwys ai peidio yn dibynnu ar y math o achos a'ch amgylchiadau...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, ledled y byd, mae caethwasiaeth wedi bod yn realiti enbyd a drwg drwy gydol y rhan fwyaf o hanes dynol. Roedd caethwasiaeth ledled Prydain ei hun ymhell cyn dyddiau'r Rhufeiniaid ac fe wnaeth barhau dros ganrifoedd lawer wedyn. Roedd y Prydeinwyr, h.y. y Celtiaid neu'r Cymry, a'r Eingl-Sacsoniaid yn aml yn cadw caethweision, fel y gwnaeth y Llychlynwyr gorchfygol, wrth i'r...
Mark Isherwood: Cynhaliwyd chwiliad llenyddiaeth, yna casglwyd data o astudiaethau achos gan bobl fyddar a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, gwerthusiadau o fentrau hybu iechyd meddwl a oedd yn cynnwys pobl fyddar, ystadegau gan wasanaethau dehongli Iaith Arwyddion Prydain a gwybodaeth gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i bobl fyddar yn y DU. Mae 40 y cant o bobl fyddar yn profi problemau iechyd...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu munud i Joel James a Jane Dodds siarad yn y ddadl hon. Yn anffodus, dywedir wrthyf nad yw'n bosibl darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain yn fyw ar gyfer y ddadl fer hon, yn bennaf oherwydd y cymhlethdodau o wneud hynny dan y cyfyngiadau presennol ac mewn Cyfarfod Llawn rhithwir. Ond bydd ar gael gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar ôl y...
Mark Isherwood: Iawn, diolch. Gan symud, yn olaf, at eich cyfrifoldeb cyffredinol dros dlodi tanwydd, y mis diwethaf, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ymdopi â thywydd oer ar gyfer pobl sydd mewn perygl o fyw mewn cartref oer, rhywbeth rwyf wedi bod yn galw amdano fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, fel y gwyddoch. Er...
Mark Isherwood: Wel, fel y dywedodd yr Athro Debbie Foster wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y bore yma, a gadeiriwyd gennyf, er mwyn ysgogi’r newid sydd ei angen, bydd angen newid y ffordd rydym yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan groesawu cydgynhyrchu gwirioneddol yn hytrach na sloganau gwleidyddol—nid wyf yn cyfeirio atoch chi yma, ond sloganau...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Cefais fy ailethol yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd yn ei gyfarfod cyntaf yn nhymor y Senedd hon ar 17 Rhagfyr. Roedd y cyfarfod ar-lein yn cynnwys cyflwyniad gan brif weithredwr Anabledd Cymru ar adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, a ddeilliodd o drafodaethau yn fforwm cydraddoldeb i bobl anabl...
Mark Isherwood: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru?
Mark Isherwood: Sut ydych chi'n ymateb i bryder a godwyd gyda mi gan gynrychiolwyr y gymuned fyddar yn y gogledd am y diffyg gwybodaeth yn iaith arwyddion Prydain ar y wefan swyddogol ar sut i gymryd profion llif unffordd a phrofion PCR, ac, fel y maen nhw'n ei ddweud, os yw eu haelodau nhw'n cael trafferth, hyd yn oed gyda'u cymorth nhw, yna mae'n rhaid bod eraill hefyd? Codwyd pryder hefyd gyda mi gan...
Mark Isherwood: Felly, Gweinidog, pa waith sy'n cael ei wneud i adnabod a darparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r model ar gyfer y dyfodol? Ac yn olaf, sut mae mynediad i'r canghennau ar gyfer pobl anabl sydd â namau gweladwy a chudd yn cael ei gynllunio?
Mark Isherwood: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r tîm yn Banc Cambria am yr amser a roeson nhw yn ystod y misoedd diwethaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi a chyd-Aelodau am ddatblygiad banc cymunedol i Gymru. Ar ôl gweithio o'r blaen yn y sector cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol am fwy na dau ddegawd, rwy'n croesawu yn arbennig y ffaith bod partneriaeth y banc â...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddarparu cymorth i deuluoedd cyn-filwyr â chyflyrau iechyd meddwl. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth The Forces in Mind eu hadroddiad newydd, gan ddatblygu model y Gwasanaethau Dulliau Adferol Cyn-filwyr a Theuluoedd. Roedd hyn yn dilyn astudiaeth werthuso dair blynedd, a gafodd ei chynnal gan y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal...
Mark Isherwood: Rwy'n cynnig gwelliannau 1, 2 a 3. Fel y dywed ein gwelliant 1, mae gan bob person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol. Bob dydd, mae pobl yng Nghymru yn mynd yn llwglyd am eu bod mewn argyfwng. Mae llawer o resymau dros hyn, gan gynnwys incwm isel, dyled, mynediad at fudd-daliadau, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Fel y mae rhwydwaith banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yn...
Mark Isherwood: Wrth siarad yma ym mis Medi, dywedodd y Gweinidog iechyd ei bod yn bwysig nodi bod adroddiad cryno wedi'i gyhoeddi yn 2015, yn cynnwys argymhellion Holden. Ond dyma'r adroddiad cryno byr iawn y cyfeirir ato uchod, nad oedd yn disgrifio'r 31 o bryderon a restrwyd gan staff. Drwy gydol fy amser fel Aelod o'r Senedd, ers 2003, rwyf wedi cefnogi rhes o chwythwyr chwiban egwyddorol sydd wedi cael...
Mark Isherwood: Gwrthodwyd fy ngalwad ddiweddar am ddadl yn y Senedd yn amser Llywodraeth Cymru ar adroddiad Holden a gyhoeddwyd y mis diwethaf, ac a ddogfennai fethiannau yn uned iechyd meddwl Hergest ym Mangor. Felly, rydym wedi cyflwyno'r ddadl hon gan y gwrthbleidiau ar fater y mae Llywodraeth Cymru wedi bod ynghlwm wrtho ers tro byd. Yn 2012, ysgrifennodd y dirprwy grwner at y bwrdd iechyd yn amlinellu...
Mark Isherwood: Dros y penwythnos, cysylltodd etholwr â mi a ddywedodd, 'Euthum ar y trên o Gaerdydd tua 3.23 a chyrhaeddais Gaer ar ôl hanner nos ar drên a ddylai fod wedi cyrraedd am 6.23 p.m. Mae teithwyr eraill a minnau'n credu bod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol o'r broblem cyn inni adael gorsaf Caerdydd Canolog. Digwyddodd hyn ar 17 Tachwedd.' Ddydd Llun diwethaf, fel Llyr, ar y nawfed ar hugain,...
Mark Isherwood: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dewisiadau sydd ar gael i rieni o ran lleoliadau ar gyfer addysg eu plant?
Mark Isherwood: Diolch. Gan weithio ochr yn ochr â Jocelyn Davies o Blaid Cymru a Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol, roeddwn i'n un o lefarwyr y tair plaid yn y pedwerydd Cynulliad a aeth â Llywodraeth Cymru i'r pendraw ar hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, gan sicrhau addewidion Llywodraeth Cymru mewn sawl maes. Gwnaethom alw am ymrwymiad i gyflwyno...
Mark Isherwood: A fyddech yn derbyn fy mod yn dyfynnu o adroddiadau pwyllgor yn y Senedd, a oedd yn drawsbleidiol, yn seiliedig ar ymchwil fanwl, ac yn nodi rhywfaint o arferion da ac yn gweithio gyda'r teuluoedd ar y pryd?
Mark Isherwood: Yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru gymryd sylw o fonitor tlodi tanwydd 2021 NEA Cymru, a lansiwyd ddoe, sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio gwresogi domestig ar gyfer aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd. Diolch.