Rhianon Passmore: Rwy'n codi i gefnogi cyllideb Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer 2020-21. Er gwaethaf degawd o gyni llym a thoriadau wedi'u hachosi yng Nghymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn Llundain, mae Llywodraeth Lafur Cymru yma yn parhau i weithredu fel wal dân yn erbyn grant bloc Cymru sydd wedi crebachu a'i dwf wedi'i lesteirio ac absenoldeb cronig gwariant seilwaith y DU. Mae'n bwysig, gyda'r newid...
Rhianon Passmore: Diolch. Mae pobl Islwyn, yn haeddiannol, yn falch o'u cyfraniad at enw da Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu, a'n hawydd i symud Cymru tuag at fod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050. Prif Weinidog, yn dilyn y llifogydd dinistriol diweddar a effeithiodd ar Gymru, cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gasglu eiddo sydd wedi ei ddifrodi gan lifogydd. Pa fesurau a sicrwydd y gall...
Rhianon Passmore: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau ailgylchu yn Islwyn? OAQ55189
Rhianon Passmore: Ddydd Sadwrn diwethaf, gwireddwyd sawl blwyddyn o gynlluniau uchelgeisiol wrth i barc coetir ac ardal chwarae Pantside yn Nhrecelyn agor yn swyddogol i'r cyhoedd. Mae'r parc yn cynnwys maes chwarae i blant hyd at chwe blwydd oed, ardal chwarae iau, a man chwarae amlddefnydd ar gyfer chwaraeon fel pêl-droed a phêl-fasged. Mae'n dyst i gymuned falch Pantside, sydd wedi gweithio, drwy...
Rhianon Passmore: Diolch. Fel y dywedoch chi ar 13 Chwefror, rydych wedi cyfrannu mwy na £220,000 i gynorthwyo cynghorau ledled Cymru, ac mae hwnnw’n mynd i gynyddu allgymorth lleol i oresgyn rhwystrau i helpu’r rhai nad ydynt yn ymwybodol o hyd o’r angen i wneud cais neu sy’n ei chael hi'n anodd gwneud cais. Weinidog, yn benodol, beth fydd y cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a sut y gall...
Rhianon Passmore: 4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i gefnogi'r broses o roi cynllun Llywodraeth y DU, Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar waith? OAQ55135
Rhianon Passmore: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r difrod a achoswyd gan y stormydd diweddar i gymunedau yn Islwyn?
Rhianon Passmore: Y llynedd, gwahoddwyd 260,247 o unigolion rhwng 25 a 64 oed i gael eu sgrinio, ac fe gafodd 173,547 o unigolion eu sgrinio yn 2018-19. Weinidog, gwahoddwyd y mwyafrif o fenywod Cymru gan y rhaglen sgrinio i wneud apwyntiad sgrinio, ac mae'r ffigurau hyn yn dangos bod gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yn datblygu mewn maes hanfodol ar gyfer iechyd menywod. Ond pa gamau pellach y gellir eu cymryd...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo ysgolion yn Islwyn wrth iddynt baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd?
Rhianon Passmore: Mae yn iawn i amlinellu cyd-destun 10 mlynedd o doriadau cyllido gan San Steffan hyd yn hyn, ond rwy'n croesawu adroddiad blynyddol heddiw yn fawr, a hoffwn i ganolbwyntio fy nghyfraniad yn bennaf ar ddau faes—addysg a'r blynyddoedd cynnar, a'r economi. Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn i'n cynnal fy nghymorthfa etholaethol yn sefydliad Markham, adeilad yr ydym ni'n ei rannu â chylch chwarae...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwy'n croesawu yn fawr iawn y canllawiau strategol hyn ar gyfer awdurdodau lleol a'r £20 miliwn ar gyfer digartrefedd. Mae'n bwysig bod gwasanaethau tai a digartrefedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gallu diwallu anghenion amrywiol pobl, gan gynnwys y rhai ag anifeiliaid anwes. Mae'r dull tai yn gyntaf yn cael ei gydnabod bellach yn ddull arloesol a...
Rhianon Passmore: Fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, o'r diwrnod cyntaf un ers i mi gael fy ethol i'r Senedd, fel eraill, rwyf wedi ymgyrchu i leihau llygredd aer yn fy etholaeth ac ar draws Cymru. Mae gwella ansawdd aer yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Cymru, fel y mae'r gyllideb ddrafft yn amlinellu. Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb', yn rhwymo Llywodraeth Cymru i leihau...
Rhianon Passmore: Rwy'n croesawu'r sylwadau gan y Gweinidog. Yn hwyr y llynedd, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ganllawiau ymarfer drafft y grantiau cymorth tai ar gyfer awdurdodau lleol, a gofynnai'r ymgynghoriad a oedd y trefniadau a nodir yn y canllawiau ymarfer yn addas at y diben, yn glir ac yn galluogi comisiynwyr a darparwyr i gyflawni pwrpas craidd y grant a darparu'r gwasanaethau cymorth hanfodol...
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr. Ynghylch y ffaith eich bod wedi crybwyll bod cynnydd o 28 y cant o ran yr agenda datgarboneiddio, a'r £140 miliwn ar ben yr hyn oedd yno o'r blaen, rydych chi'n hollol gywir i ddweud ein bod ni wedi cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd digynsail. Yn hynny o beth, o ble yr hoffech chi weld yr arian hwnnw'n dod? Ai o Lywodraeth Leol ynteu iechyd, ynteu o ble yr hoffech chi fod wedi...
Rhianon Passmore: Ddirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau'n cofio, o'r blaen, fy mod wedi dathlu diwylliant perfformio cerddorol Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd digwyddiad perfformio o'n talent cerddorol ysblennydd o Gymru, ac fe gasglodd torfeydd mawr o wahoddedigion ac aelodau o'r cyhoedd i glywed perfformwyr ifanc gorau Cymru. Roedd yn cynnwys cerddorion o wasanaeth cerdd Caerffili, Ysgol...
Rhianon Passmore: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n dymuno rhoi munud o'r amser a neilltuwyd i mi yn y ddadl hon i fy nghyd-Aelodau yn Llafur Cymru, Mick Antoniw AC a Mike Hedges AC. Ddirprwy Lywydd, mae hon yn ddadl amserol i'w chyflwyno i Siambr y Senedd, gan fod Llywodraeth Cymru, heddiw, wedi lansio Cymru Greadigol yn ffurfiol i hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod yn...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, diolch. Yr wythnos diwethaf, datgelwyd dyfodol cyffrous i'r economi ymwelwyr yng Nghymru gennych chi a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas. Cefnogir y cynllun pum mlynedd newydd, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i'r Economi Ymwelwyr 2020-25', gan gronfa newydd o £10 miliwn, y pethau pwysig, i gefnogi'r seilwaith twristiaeth...
Rhianon Passmore: 4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu'r economi ymwelwyr yn Islwyn? OAQ55020
Rhianon Passmore: Weinidog, diolch i ymyriadau Llywodraeth Cymru rhwng 2011 a 2016, mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yn fy etholaeth i, sef Islwyn, wedi cynyddu 10.9 y cant, ac mae hynny'n uwch na chynnydd Cymru o 10.6 y cant. Yn ogystal â hyn, mae nifer y bobl ddi-waith yn Islwyn dros y cyfnod hwnnw wedi mwy na haneru, sydd unwaith eto yn fwy na'r gostyngiad a welwyd yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. A...
Rhianon Passmore: 6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith buddsoddi economaidd yn Islwyn ers 2016? OAQ54939