Lee Waters: Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor canol ein trefi a'n dinasoedd drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a'u gwneud yn lleoedd deniadol i fod ynddynt. Mae canol trefi a dinasoedd ar draws rhanbarth Canol De Cymru wedi elwa o £13.8 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi ers mis Ionawr 2020.
Lee Waters: Yn sicr, yn bersonol, rwyf wedi dadlau y dylai fformiwla Barnett adlewyrchu'r gwariant yn Lloegr ac yng Nghymru. Mewn gwirionedd, arweiniais gynghrair o sefydliadau i sefydlu comisiwn Holtham, gan ddefnyddio hyn fel un o'r enghreifftiau. A phan oeddwn yn gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, bûm yn dadlau'r achos yn gyson, felly nid wyf am wrando ar wersi gan yr Aelod ar hynny. Ond...
Lee Waters: Yn sicr, mae newidiadau sylweddol yn digwydd er gwell. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ddatgelu fflyd newydd o drenau i gymryd lle'r Pacers, a phan gewch chi gyfle i fynd arnynt eich hun, fe welwch ei fod yn brofiad trawsnewidiol i deithwyr. Rydym hefyd yn datblygu rhaglen metro de Cymru, sy'n brosiect peirianneg sifil enfawr—y prosiect seilwaith mwyaf y bydd de Cymru wedi'i weld ers...
Lee Waters: Diolch. Credaf fod y dyfyniad llawn, a bod yn deg, yn cydnabod bod heriau sylweddol gyda gorlenwi, a bod rhai teithwyr yn gwrthod gwisgo masgiau er gwaethaf y canllawiau clir iawn, ond fod y trenau'n sylfaenol ddiogel, o ystyried y cyfundrefnau glanhau sydd ar waith, ac o ystyried yr holl bethau eraill y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu gwneud i ddilyn y canllawiau. Maent yn gwneud ymdrechion...
Lee Waters: As part of our response to the climate emergency, it is vital we create 180,000 hectares of woodland by 2050. This will require land use change. We are not considering regulating the area of land used for offsetting, but are keen to avoid outside interests buying up land for afforestation.
Lee Waters: Wel, fel y cafodd y pwynt ei wneud ar draws y Siambr, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraethau ledled y DU, wedi achub y diwydiant bysiau preifat dros y 18 mis diwethaf, a fyddai wedi mynd i'r wal fel arall o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, ac mae rhwymedigaeth ar y diwydiant bysiau i ymddwyn yn gyfrifol gan gydnabod eu bod, mewn gwirionedd, yno i wasanaethu'r cyhoedd. Mae set...
Lee Waters: Wel, edrychaf ymlaen at glywed cefnogaeth frwd Janet Finch-Saunders i ymyrraeth Llyr Gruffydd—[Torri ar draws.]—yn y farchnad. 'Y sawl sy'n talu'r delyn sy'n gofyn am y gân', meddai Janet Finch-Saunders, ac rydym yn sicr yn gwybod hynny gan ei chymheiriaid yn San Steffan, sy'n rhoi eu hunain ar log i gwmnïau preifat. Felly, i ateb pwynt Llyr yn uniongyrchol, mae clytwaith o drefniadau...
Lee Waters: Wel, ie, fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, rwy'n falch fod y trafodaethau'n parhau. Rydym yn annog ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, a gobeithiwn y byddant yn gallu datrys yr anghydfod yng ngogledd Cymru, fel y gwnaethant yn ne-ddwyrain Cymru. Ond ni chredaf y gall Natasha Asghar anwybyddu dadreoleiddio mor hawdd. Polisi bwriadol oedd hwn gan y Llywodraeth Geidwadol ym mhobman y tu allan i...
Lee Waters: Diolch am eich sylw pellach. A gaf fi ddweud, wrth ddechrau, ein bod yn gobeithio y gellir osgoi gweithredu diwydiannol, er mwyn osgoi rhagor o darfu ar deithwyr? Roeddem yn falch fod yr anghydfod rhwng undeb Unite a Stagecoach yn ne-ddwyrain Cymru wedi'i ddatrys yn llwyddiannus drwy drafodaethau, ac fel y dywedaf, rydym yn falch fod y trafodaethau'n parhau ar hyn o bryd yn y gogledd, ac...
Lee Waters: Diolch am y cwestiwn.
Lee Waters: Rydym yn annog datrys anghydfodau yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n falch fod y trafodaethau'n parhau rhwng Arriva Cymru ac undeb Unite. Mae swyddogion trafnidiaeth yn cadw mewn cysylltiad agos â'r trafodaethau, ac rwyf wedi cyfarfod ag undeb Unite.
Lee Waters: Byddwn, a diolch am y cwestiwn. Ac roeddwn yn falch iawn, pan oeddwn yn COP, i gymryd rhan mewn trafodaethau panel gyda llysgenhadon ieuenctid Climate Cymru, ynghyd â llysgenhadon ieuenctid yr Alban a'r Gweinidog o Lywodraeth yr Alban. A'r hyn a oedd yn amlwg oedd dicter pobl ifanc ynghylch yr etifeddiaeth a adewir i'w cenhedlaeth nhw, a phan edrychwch ar yr ystadegau a'r data sy'n dod i'r...
Lee Waters: Wel, rwy'n credu ei bod yn her deg. Nid oes gennyf y ffigur wrth law, ond rwy'n cofio darllen bod y cymhorthdal y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi i danwydd ffosil drwy rewi'r esgynnydd toll tanwydd ers 2010 yn fwy na £30 biliwn. Gall hyd yn oed fod yn uwch na hynny—cymhorthdal uniongyrchol sylweddol iawn i danwydd ffosil. Un o'r heriau a fydd gennym yw, wrth inni symud i ffwrdd o'r car...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn, ac yn wir roeddwn yn falch o gyfarfod â'r AS James Davies ymhlith llawer o rai eraill yn COP. Roedd presenoldeb Cymreig da yn y gynhadledd. Mae'n sôn am rai o lygrwyr gwaethaf y byd, wel wrth gwrs rydym ni ymhlith llygrwyr gwaethaf y byd. Gadewch i ni fod yn glir, y rheini ohonom yn y G20 yw'r gwledydd sydd wedi cyfrannu at y broblem hon, a'r rhai sy'n wynebu'r...
Lee Waters: Cawsom sgwrs braf.
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Yn bendant, mae ein cynllun sero-net i Gymru yn cynnwys gostyngiad blynyddol o 10 y cant yn nifer y milltiroedd sy'n cael eu teithio dros y cyfnod o bum mlynedd, sy'n mynd i fod yn darged heriol iawn i'w gyrraedd. Rydym yn gosod hynny gan wybod ei fod yn darged ymestynnol. Nid oes gennym ni gynllun wedi'i lunio'n llawn, a dweud y gwir, ynghylch sut y byddwn yn ei...
Lee Waters: Diolch i Mike Hedges am y sylwadau yna. Rwy'n credu bod Cymru eisoes yn enghraifft i'r byd mewn llawer o'r camau yr ydym yn eu cymryd ar hyn o bryd. Yn sicr, un peth sydd wedi fy nharo, a bydd yr Aelodau'n gwybod nad wyf i'n rhywun sy'n anfeirniadol o berfformiad ein Llywodraeth ein hunain—yr hyn a oedd yn drawiadol iawn oedd y ffordd yr oedd Cymru'n cael ei hystyried ledled COP gan wledydd...
Lee Waters: Diolch ichi am y gyfres yna o gwestiynau. O ran y Gynghrair Y Tu Hwnt i Olew a Nwy, mae wedi bod yn llai nag wythnos ers ei chreu, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig inni anfon y neges ein bod yn rhan o honno fel gwlad a oedd yno ar ddechrau'r chwyldro diwydiannol, ac yn dangos ein bod yn credu nad yw tanwydd ffosil yn chwarae rhan yn ein dyfodol. Dechreuodd gyda 10 aelod o wahanol raddau o...
Lee Waters: Diolch i chi am y cwestiynau yna. Rwy'n sicr yn cytuno bod Alok Sharma wedi gwneud gwaith da wrth roi COP ar brawf wrth ddod i gytundeb—nid yr un y byddem ni i gyd wedi dymuno ei weld, ond, serch hynny, cytundeb sy'n mynd â ni ymlaen, er iddo fethu uchelgais y Prif Weinidog i gadw 1.5 gradd yn fyw, nad yw'n rhywbeth anystyriol i'w daflu o'r neilltu. Soniodd Janet Finch-Saunders ein bod yn...
Lee Waters: Llywydd, rydym ni wedi datgan argyfwng hinsawdd yn briodol ac mae angen i ni weithredu yn unol â hynny yn awr. Rydym ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran ymateb i raddfa'r her. Cytunodd y Senedd hon ym mis Mawrth i newid ein targedau deddfwriaethol. Erbyn hyn, mae gan Gymru darged sero-net ac, ychydig wythnosau'n ôl, gwnaethom gyhoeddi ein cynllun Cymru Sero-Net—ffordd gredadwy ac...