Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Mae dros 1,000 o swyddi meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys gwag ledled Cymru a Lloegr ar hyn o bryd. Nawr, mae hyn yn bryder i bob un ohonom ni, wrth gwrs, ond yn enwedig yn ardal fy mwrdd iechyd lleol i sef Cwm Taf Morgannwg, lle mae'r gallu—neu'r anallu, ddylwn i ddweud—i recriwtio meddygon ymgynghorol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi...
Vikki Howells: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i'r GIG yng Nghymru? OAQ55242
Vikki Howells: Ongl ddiddorol arall yw natur cyflogaeth. Mae gan hen ardaloedd glofaol ganrannau uwch o'u gweithlu yn ymwneud â gweithgynhyrchu. Mae'r ffigurau yn 13 y cant o'u cymharu â chyfartaledd Prydain o 8 y cant, neu 5 y cant ar gyfer dinas fel Caerdydd. Mae pwysigrwydd yr economi sylfaenol i gymunedau glofaol yn glir. Mewn cymunedau glofaol eraill, mae warysau a chanolfannau galwadau yn gyflogwyr...
Vikki Howells: Yn y cyfarfod ym mis Chwefror, rhannodd yr Athro Fothergill ddata sy'n unigryw i ardal hen feysydd glo de Cymru. Nid yw peth o hyn wedi'i gyhoeddi yn yr adroddiad, ond byddaf yn ei ddefnyddio heddiw. Archwiliodd hefyd y dadleuon a wnaed mewn 10 blaenoriaeth ar gyfer yr hen feysydd glo. Dyna yw'r datganiad polisi a gynhyrchwyd gan Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo a Chynghrair y Cymunedau...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i fy nghyd-Aelod, Mick Antoniw, heddiw. Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ddadl fer hon yn sgil cyhoeddi 'The State of the Coalfields 2019'. Roedd yr adroddiad yn ymchwiliad i'r amodau economaidd a chymdeithasol yn hen ardaloedd glofaol Prydain, ac fe'i comisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, a'i gynhyrchu gan...
Vikki Howells: Roedd ein gwelliant hefyd yn galw am welliannau i wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau ac am ymestyn amseroedd agor unedau mân anafiadau, er enghraifft, yn Ysbyty Cwm Cynon—ateb ymarferol i wella perfformiad unedau damweiniau ac achosion brys drwy gael gwared ar rywfaint o'r pwysau. Felly, i gloi, hoffwn ailadrodd fy nghefnogaeth i wasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr...
Vikki Howells: —a gafodd sylw yn y gwelliant ychydig wythnosau'n ôl a gyflwynais ar y cyd â Mick Antoniw, Dawn Bowden a Huw Irranca-Davies. Dyna eiriad llawer mwy trwyadl a oedd yn ystyried darpariaeth y gwasanaethau ledled Cwm Taf yn gyfannol ac nid ceisio gosod cymunedau yn erbyn ei gilydd. Er enghraifft, roedd ein gwelliant yn galw am gadw gwasanaeth uned damweiniau ac achosion brys llawn, nid dim...
Vikki Howells: Hoffwn gofnodi unwaith eto fy nghefnogaeth i gael uned damweiniau ac achosion brys lawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hwn yn bwnc mor bwysig, felly mae'n ddirgelwch i mi, mewn gwirionedd, pam nad yw Plaid Cymru ond wedi defnyddio 30 munud ar gyfer y ddadl hon. Gobeithio nad yw'n ymgais i fygu lleisiau aelodau o feinciau cefn Llafur, sy'n cynrychioli ardaloedd y mae hyn yn effeithio...
Vikki Howells: Ar yr 8fed o Fawrth 1955, daeth Dai Dower wyneb yn wyneb â Nazzareno Gianelli mewn cylch bocsio yn arena Earls Court, Llundain. Trechodd Dower ei wrthwynebydd, gan gipio’r teitl pencampwr pwysau pryf Ewropeaidd. Disgrifiwyd yr achlysur fel 'bocsio ar ei orau gwych'. Roedd y dorf a oedd yn gwylio wedi’u syfrdanu. Hwn oedd uchafbwynt gyrfa broffesiynol y ffenomen bocsio o Gymoedd De Cymru....
Vikki Howells: Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog, a diolch, yn bwysicach, am y gwaith rhagweithiol yr ydych chi a'ch Llywodraeth wedi ei wneud. Mae maint y difrod a achoswyd i'r seilwaith gan y llifogydd diweddar yn dod yn llawer rhy amlwg, ac, er enghraifft, yn Rhondda Cynon Taf yn unig, mae'n rhaid disodli naw o bontydd, yn ogystal â difrod i ffyrdd, cwlfertau a waliau afonydd, gydag amcangyfrif o...
Vikki Howells: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau o ran ymdrin â chostau'r llifogydd diweddar? OAQ55190
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Croesawaf ddatganiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn rhyddhau gwerth £2.5 miliwn o gymorth i fusnesau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt. Yn sicr, bydd hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i'r 450 amcangyfrifedig o fusnesau yr effeithiwyd arnynt ledled Rhondda Cynon Taf. Nawr, gwn eich bod yn ymwybodol, Weinidog, o'r ystadegau a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas...
Vikki Howells: 6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl y mae'r llifogydd diweddar yng Nghwm Cynon wedi effeithio arnynt? OAQ55152
Vikki Howells: Rwy'n falch o allu cefnogi'r gyllideb derfynol hon heddiw, cyllideb sy'n rhoi blaenoriaeth briodol i'n GIG ac sydd hefyd yn cynnig rhaglen ariannu barhaus i sicrhau dyfodol ein gwlad. Wrth gyflwyno'r gyllideb heddiw, mae Gweinidogion wedi cyflawni eu haddewidion nhw i bobl Cymru ac wedi sicrhau bod blaenoriaethau'r Llywodraeth yn cyd-fynd â rhai ein dinasyddion ni. Caiff gwasanaethau eu...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Gweinidog. Hoffwn ategu eto'r diolchiadau gan lawer o Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon am yr ymdrech a wnaed gan arwyr di-rif i helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar, ac i ategu hefyd fy niolch i chi am ymweld â busnesau a thrigolion Aberpennar gyda mi yr wythnos diwethaf. Roedd yr arweiniad gweladwy gennych chi a'r Prif...
Vikki Howells: Prif Weinidog, hoffwn gofnodi fy niolch i chi, i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac i holl Lywodraeth Cymru am eich ymdrechion i gynorthwyo'r rhai y mae eu cartrefi a'u busnesau wedi eu difetha gan storm Dennis. Mae'r cymorth ariannol yr ydych chi'n ei roi ar waith yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan etholwyr yr wyf i wedi siarad â nhw, ac ynghyd â chymorth gan gyngor...
Vikki Howells: 4. A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu pa gymorth y mae'n yn ei roi i gymunedau y mae storm Dennis wedi effeithio arnynt? OAQ55117
Vikki Howells: Diolch, Lywydd. Mis Chwefror yw mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol+. Mae'n gyfle i goffáu gorffennol y gymuned LGBT+, i ddathlu ei hamrywiaeth a'i chyflawniadau ac i gynnig gobaith i'r dyfodol, gan ein hatgoffa hefyd o'r frwydr dros hawliau cyfartal i bawb. Cafodd ei ddathlu am y tro cyntaf yn y DU yn 2005. Sefydlwyd y grŵp gan Sue Sanders a'r diweddar Paul Patrick, a...
Vikki Howells: Mae'r ddadl heddiw yn gyfle i anfon neges gref o gefnogaeth o blaid cadw’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg; i ddangos faint yn union o bobl a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynigion hyn gan y bwrdd iechyd; i ddangos pa mor bwysig yw hi fod y bwrdd iechyd yn ailfeddwl ac yn cynnig atebion cryf, diogel a chynaliadwy yn lle hynny. Rwyf wedi cyd-gyflwyno...
Vikki Howells: Prif Weinidog, mae'r gwaith wedi hen ddechrau erbyn hyn ar ganolfan gofal iechyd sylfaenol newydd gwerth £4 miliwn yn Aberpennar, ac mae hyn yn newyddion gwych i'r gymuned leol, gan ddod ag amrywiaeth o wasanaethau at ei gilydd a disodli'r cyfleusterau meddygon teulu presennol a oedd wedi dyddio ac, a dweud y gwir, ddim yn addas i'w diben. Ym mha ffyrdd eraill y mae Llywodraeth Cymru yn...