Steffan Lewis: Rwy’n diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Fel mae’n ymwybodol, mae lot o drafodaethau wedi bod ynglŷn â sut gall colegau addysg bellach fod yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. A ydy’r Gweinidog yn cytuno y dylai’r rhaglen honno gynnwys colegau addysg bellach? Yn wir, ym maniffesto’r Blaid Lafur roedd addewid y byddai’r £2 biliwn o fuddsoddiad yn cynnwys colegau...
Steffan Lewis: Yn ogystal â mynd i’r afael â’r hyn a gafodd ei ddweud yn Araith y Frenhines, rwy’n credu ei bod yn bwysig ystyried, fel y mae eraill wedi’i wneud, yr hyn na chafodd ei ddweud, a hefyd i nodi bod 28 o’r 30 Bil a gyhoeddwyd yn hen gyhoeddiadau. Roedd y sylw i Gymru, sydd bellach yn orfodol, yn fyrrach nag arfer hyd yn oed, gyda brawddeg yn unig ar gyflwyno Bil Cymru, rhywbeth rydym...
Steffan Lewis: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg bellach? OAQ(5)0002(EDU)[W]
Steffan Lewis: Rwy’n falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw a diolch i David Melding am ei chychwyn. Fel y soniwyd eisoes, gwelwyd sefyllfa yng Nghrymlyn ar yr A472, wrth gwrs, lle mae rhai o’r allyriadau uchaf yn y DU y tu allan i Lundain. Wrth gwrs, mae’n fwy na darlleniad ar synhwyrydd yn unig—mae hyn yn ymwneud ag iechyd a lles pobl, ac mae gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol...
Steffan Lewis: Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru yn ceisio diddymu’r Ddeddf Undebau Llafur fel y mae’n gymwys i faterion datganoledig, ond hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn fodlon mynd ambell gam ymhellach, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, a wnaiff ymrwymo i adolygu pob deddfwriaeth atchweliadol a basiwyd yn erbyn y gweithwyr yn yr 1980au a’r 1990au, gyda golwg ar ddiddymu...
Steffan Lewis: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad a hoffwn groesawu'r sylwadau a wnaeth ynghylch nodi canmlwyddiant brwydr Jutland a brwydr y Somme. Collodd llawer o Gymry eu bywydau, ac mae'n ddyletswydd arnom i’w cofio ac i anrhydeddu eu haberth. Mae'r bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn wynebu heriau penodol oherwydd iddynt wasanaethu, ond mae ganddynt hefyd...
Steffan Lewis: Mae’n drist iawn fod y ddadl hon heddiw ar Gymru a’r UE yn digwydd yng nghysgod penderfyniad mwyafrif ein cyd-ddinasyddion i dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd, ond dyna oedd eu hawl democrataidd, ac maent wedi ei arfer. Ond gwnaed adduned i bobl y wlad hon, fel y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud. Roedd yn adduned benodol, ac fe gafodd ei hailadrodd. Roedd yn cynnwys ymrwymiad i...
Steffan Lewis: Nid wyf am ildio. Mae ‘aros’ yn arwain at sicrhau’r cyfle gorau i’n cenedl gael dyfodol cenedlaethol ei hun mewn teulu priodol o genhedloedd. Diolch yn fawr iawn.
Steffan Lewis: Mae ymgyrch refferendwm hir iawn ar fin dod i ben, diolch byth, ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn cytuno nad yw tôn, natur a chynnwys yr ymgyrch hon wedi bod yn hysbyseb arbennig o dda i ymwneud democrataidd. Wrth i’r ymgyrch wynebu ei horiau olaf, mae’n ymddangos bod yr ochr dros adael yn arbennig yn dymuno canolbwyntio ar ddau faes sylfaenol, sef mewnfudo a sofraniaeth. Yn anffodus, ar...
Steffan Lewis: Diolch iddo am yr ateb hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru, fesul cam, yn dod yn gyfrifol am fwy a mwy o elfennau o ddiogelwch cymdeithasol, os caf ddefnyddio term retro arall, o gymorth gyda’r dreth gyngor i’r gronfa taliadau yn ôl disgresiwn a’r Rhaglen Waith. Er gwaethaf hynny, fodd bynnag, mae dinasyddion yn y wlad hon yn dal i ddioddef yn sgil effeithiau polisïau lles atchweliadol a...
Steffan Lewis: 3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ynghylch effaith newidiadau i nawdd cymdeithasol ar gymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0001(CC)
Steffan Lewis: Un datblygiad hanfodol i drafnidiaeth ar gyfer pobl yn Islwyn ac ar draws y rhanbarth ehangach, wrth gwrs, fyddai creu system fetro lawn yn rhan o bolisi economaidd a chymdeithasol ehangach, ond pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi i mi y bydd y nod o ledaenu cread swyddi ar draws ranbarth y de-ddwyrain, fel bod cymunedau yno’n troi yn ardaloedd twf ynddynt eu hunain yn hytrach na bod yn...
Steffan Lewis: Diolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Diolch i David Melding am ei sylwadau caredig, er bod yn rhaid i mi ddweud wrtho fy mod wedi dyfynnu Robert Peel er mwyn cynnwys naws hanesyddol yn unig ac nid o unrhyw gydymdeimlad at ei blaid. Ond mae’n codi pwynt pwysig ynghylch yr angen am lefel o gysondeb ar draws cyfansoddiad y Deyrnas Unedig, ac mae’n hollol iawn i ddweud, er ein...
Steffan Lewis: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n dymor gwleidyddol newydd, a dyma ni unwaith eto gyda Mesur Cymru newydd gan San Steffan. Unwaith yn rhagor, mae hi’n siom bod San Steffan wedi penderfynu gwrthod trosglwyddo cyfrifoldebau i Gymru a fydd yn gwella canlyniadau polisi i’n pobl, yn sicrhau atebolrwydd gwell ac, yn bwysig, yn delifro cydraddoldeb gwleidyddol i Gymru. Lywydd, rwyf am...
Steffan Lewis: Llywydd, in calling for the devolution of policing to its natural place, Plaid Cymru recognises that that would involve sensible and mature co-operation between Welsh Government and Westminster. It is vital that at the heart of the process is a framework for close co-operation between Welsh and Westminster policing Ministers and between forces in Wales and forces in England, beyond its...
Steffan Lewis: Mae Llywodraeth Cymru wedi addo 100,000 o brentisiaethau ychwanegol dros y cyfnod nesaf. Pa gamau penodol ydych chi am eu cymryd i sicrhau bod busnesau bach yn gallu manteisio o’r cyfleoedd o ganlyniad i’r addewid yna?
Steffan Lewis: Fel y mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol, os bydd y wladwriaeth Brydeinig yn aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mi fydd yn dal llywyddiaeth cyngor yr undeb am chwe mis y flwyddyn nesaf. Byddai hynny’n gyfle euraidd i ddechrau’r broses o adnewyddu Ewrop a chreu partneriaeth sy’n gweithio yn well dros ein dinasyddion ni. A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno i sicrhau bod y llywyddiaeth...
Steffan Lewis: 5. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd aelodaeth Cymru o’r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0040(FM)[W]
Steffan Lewis: Bydd y Prif Weinidog yn gwybod am Ffordd Goedwig Cwmcarn, atyniad sy’n gaffaeliad i ardal Islwyn ac un sydd wedi elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn goresgyn anawsterau diweddar ar Ffordd Goedwig Cwmcarn, a yw’r Prif Weinidog yn cytuno y gallai cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol fod yn allweddol, ac a fyddai’n cytuno ymhellach ac yn ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn...
Steffan Lewis: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy’n siŵr ei fod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU yn cymryd cyfran sylweddol o warged y cynllun pensiwn glowyr yn gyfnewid am danysgrifennu’r cynllun hwnnw. Yn wir, mewn un flwyddyn yn unig, roedd y swm hwnnw yn dod i gyfanswm o dri chwarter o £1 biliwn. Mae pensiynau glowyr wedi eu troi’n ffynhonnell arian i wladwriaeth Prydain. A wnaiff y...