Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad, ac a gaf fi ddiolch ichi hefyd am wneud y gyfres honno o awgrymiadau adeiladol iawn? Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr ail o'r rheini, sydd i'w weld yn adlewyrchu yn union y math o sgwrs y gofynnwn amdani ynglŷn â sut y gallai ad-drefnu weithio a'r manteision a allai ddeillio o hynny. A wnewch chi gadarnhau eich bod yn bwriadu cefnogi'r gwelliant...
Rhun ap Iorwerth: Ddoe, cyhoeddwyd cyfres o ymyriadau rhy wan a rhy hwyr gan Lywodraeth Cymru—Llywodraeth Cymru sydd wedi methu mynd i’r afael â phroblemau Betsi Cadwaladr dro ar ôl tro. Cyhoeddwyd y gyfres o ymyriadau mewn ymateb i ragor o adroddiadau damniol—adroddiadau eithriadol o ddamniol. Ond ble mae'r adroddiad nesaf? Mae profiad yn dweud wrthym efallai nad yw'n bell iawn. Sefydlwyd Bwrdd Iechyd...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch o allu cynnig y gwelliant hwn yn ffurfiol. Rydyn ni wedi bod yma o'r blaen, onid ydym? Rydyn ni wedi bod yma gymaint o weithiau o'r blaen, ac mae o'n fy nhristáu i. Does yna ddim beirniadaeth o staff yma; yn wir, yn wyneb yr holl gwestiynau am y bwrdd iechyd, mae angen gwneud mwy i'w cefnogi nhw. Rydyn ni'n diolch ichi am eich gwasanaeth diflino, ac...
Rhun ap Iorwerth: Mae'r Gweinidog yn dweud bod yna bocedi o ragoriaeth o fewn Betsi Cadwaladr. Oes, mae yna. Mi ysgrifennais i at y prif weithredwr a'r cadeirydd yn ddiweddar yn dilyn cyhoeddi ffigurau ar ganser yn dangos bod yna waith da yn digwydd yn y gogledd. Rydyn ni yn deall hynny. Mae'r Gweinidog, dwi'n gwybod, yn eiddgar inni gadw mewn golwg yr angen i gefnogi staff drwy hyn oll. Allaf i ddim cytuno...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y datganiad. Dwi'n ofni, dim ots sut ydych chi'n edrych ar hyn, nad ydy amseru hyn heddiw ddim yn adlewyrchu'n dda ar Lywodraeth Cymru. A dweud y gwir, mae o'n dangos unwaith eto gymaint o ddiffyg dealltwriaeth a diffyg gwerthfawrogiad sydd yna yn Llywodraeth Cymru ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Rhun ap Iorwerth: Mae hwn yn ymateb gwan iawn i sefyllfa eithriadol o ddifrifol, mae arnaf i ofn—ymestyn ymyrraeth wedi'i thargedu, yn hytrach na mynd i'r afael o ddifri â phroblem sy'n achosi cymaint o ofid i staff a chleifion ar draws y gogledd. Ymestyn ymyrraeth wedi'i thargedu—pam gorffen yn y fan yna pan fod cynifer o broblemau ar draws Betsi Cadwaladr? Y problemau yr wyf i wedi'u dwyn i'ch sylw...
Rhun ap Iorwerth: Mae'n un byr iawn. Ac wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn dweud pa mor anodd yw hi iddynt ymdrin â baich gweinyddol hyn. Mewn ymateb i’r hyn a ddywedodd Darren Millar, oes, wrth gwrs, mae gennym ni, fel Aelodau o’r Senedd, gyfle i graffu ar benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru. Dyna yw ein rôl fel seneddwyr, ac a yw’r Aelod dros Ogwr yn cytuno mai’r perygl wrth roi dylanwad...
Rhun ap Iorwerth: Gan nad oedd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd yn barod i dderbyn ymyriad, rwyf am wneud y pwynt yr oeddwn am ei wneud bryd hynny. Un o’r pethau cadarnhaol a allai ddeillio o ddadfuddsoddi fel hyn fyddai perswadio’r cwmnïau sy'n draddodiadol wedi gwneud eu helw o danwydd ffosil i newid cyfeiriad. Mae a wnelo hyn â’u perswadio i weithio mewn ffordd foesegol drwy ddweud, 'Byddwn yn buddsoddi...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Efo costau yn cynyddu gymaint, mae'n bwysicach nag erioed fod amaeth yn gallu bod mor gynhyrchiol â phosib, ac mae gwneud y defnydd gorau o'r tir gorau yn rhan o hynny. Dwi'n falch, yng nghyd-destun ceisiadau am gynlluniau solar, fod yna farn yn cryfhau rŵan fod angen cadw'r tir gorau a mwyaf amlbwrpas—the best and most versatile land—ar gyfer amaeth. Ac efallai y...
Rhun ap Iorwerth: 5. Pa gamau y mae Lywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i’r argyfwng costau ym myd amaeth? OQ58105
Rhun ap Iorwerth: Mae hwn yn gynllun sy'n tynnu sylw at y materion allweddol, y materion pwysig, yr heriau, wrth gwrs, sy'n wynebu pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a gofalwyr cyflogedig. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn anodd anghytuno â'r dyheadau, ond lle mae diffyg manylion mewn elfennau o weithredu, credaf i ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gwthio'r Llywodraeth am y manylion hynny. Un o'r...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i dynnu sylw'r Prif Weinidog at stad o dai Parc Del Fryn ym Mrynteg yn fy etholaeth i? Mae o'n ddatblygiad dwi wedi tynnu sylw ato fo droeon dros y blynyddoedd, ac mae o wedi denu sylw eto rŵan wrth i ragor o dai gael eu codi yno. Mae'n bentref braf iawn—dwi ddim yn gwybod os ydy'r Prif Weinidog yn ei nabod o—ac mae'r rhain yn edrych fel tai delfrydol i gwpwl ifanc eu prynu neu eu...
Rhun ap Iorwerth: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod buddiannau cymunedol yn y broses gynllunio? OQ58114
Rhun ap Iorwerth: Rydyn ni wedi sôn yn helaeth am anghydraddoldebau iechyd yn ddiweddar. Buon ni'n sôn am hynny yng nghyd-destun iechyd merched ychydig funudau yn ôl. Mae'r anghydraddoldebau y mae pobl efo afiechyd meddwl difrifol yn eu hwynebu'n sylweddol iawn. Maen nhw'n fwy tebyg o wynebu problemau iechyd corfforol ac yn marw, ar gyfartaledd, 15 i 20 mlynedd yn fwy ifanc. Mae'n cael ei amcangyfrif bod...
Rhun ap Iorwerth: Yn aml, mae salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, yn datblygu'n gyntaf rhwng 14 a 25 oed. Mae'n gyfnod tyngedfennol i bobl ifanc, oherwydd newidiadau niwrolegol, biolegol a gwybyddol y glasoed i fod yn oedolion ifanc. Mae'n gyfnod o newid mawr yn eu bywydau, pan fyddant yn cyrraedd cerrig milltir addysgol mawr. Rydym yn aml yn siarad, onid ydym, am yr angen am...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o gael cyfrannu i'r ddadl yma a dwi'n ddiolchgar ei bod hi wedi cael ei chyflwyno o'n blaenau ni. Mae iechyd meddwl yn destun rydyn ni yn ei drafod yn reit gyson yn y Senedd erbyn hyn, sydd yn dda o beth, yn wahanol i'r sefyllfa ers talwm, lle'r oedd iechyd meddwl yn cael prin dim sylw o gwbl, yn cael ei sgubo dan y carped. Ond fel dwi'n dweud,...
Rhun ap Iorwerth: Y bwlch rhwng y rhywiau mewn perthynas â chlefyd y galon y clywsom amdano heddiw. Mae'n costio bywydau menywod. Ac fe wnaeth yr adroddiad arloesol yn 2019, 'Bias and biology: The heart attack gender gap', gan Sefydliad Prydeinig y Galon, agor fy llygaid i'r hyn a oedd yn digwydd, neu'r hyn nad oedd yn digwydd, wrth drin clefyd y galon mewn menywod: trawiadau ar y galon mewn menywod yn arwain...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch am bob cyfraniad i'r ddadl bwysig yma heddiw ac am ymateb y Gweinidog. Mae hwn yn faes sydd wedi cael ei esgeuluso yn llawer, llawer rhy hir, ac mae'n rhyfeddol ei fod o wedi cael ei esgeuluso mor hir. Mae yna, dwi'n meddwl, ryw fath o ddeffroad wedi bod—a dwi ddim yn sôn am Gymru'n benodol yn y fan yna, ond yn fwy cyffredinol. Dwi'n nodi'r gwaith yn...
Rhun ap Iorwerth: Doeddwn i ddim yn bwriadu siarad, achos dwi, yn sicr, yn hapus i gefnogi'r rheoliad yma, ond dwi eisiau ymateb i'r sylw a wnaed gan lefarydd iechyd y Blaid Geidwadol. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gwbl synhwyrol i ddefnyddio deddfwriaeth yn y modd cyfyngedig yma. Dŷn ni'n gweld o'n cwmpas ni, hyd yn oed yn y Siambr yma, sut mae defnydd o orchuddion wyneb yn newid ac yn esblygu ac yn organig, a...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y datganiad. Croesawaf y pwyslais ar y potensial i borthladdoedd elwa ar y genhedlaeth nesaf o gynhyrchu ynni ar y môr. Rwyf wedi siarad â datblygwyr fel BP, er enghraifft, gan annog buddsoddi yng Nghaergybi fel canolfan gwynt ar y môr. Bydd y Gweinidog wedi fy nghlywed droeon yn annog dadl onest am borthladdoedd rhydd a'r angen, er enghraifft, i Lywodraeth y DU ariannu...