Canlyniadau 281–300 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg (11 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Diolch am y cwestiynau pellach hynny. I gychwyn ar y cwestiwn o gyllid, dwi ddim wedi datgan yn y datganiad heddiw yr holl ffynonellau o arian sydd yn berthnasol i'r gwaith rwyf wedi sôn amdano heddiw. Mae yna fuddsoddiad rydym ni wedi ei ddarparu i Cwmpas i gefnogi'r gwaith o ran darparu cynlluniau mentrau cydweithredol a thai, fel ein bod ni'n dwyn o brofiad mentrau cydweithredol fel...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg (11 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Wel, a gaf i ddweud i gychwyn fy mod i o'r farn gref fod cyfraniad yr Aelod wedi dechrau yn well nag y gorffennodd? Rydw i'n ei llongyfarch hi ar ei defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr, ac rwy'n annog llawer mwy o hynny. Felly, fe wnaeth hi nifer o bwyntiau eang, rhai ohonyn nhw'n berthnasol i'r datganiad, a rhai ohonyn nhw yn berthnasol i feysydd eraill. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg (11 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr sydd mewn rhannau o Gymru wedi ysgogi teimladau cryf ers rhai blynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, mae'n ddealladwy bod yna deimlad o anghyfiawnder fod pobl yn gallu cael eu prisio mas o'r farchnad dai leol gan rai sy'n prynu ail gartrefi neu gartrefi i'w gosod fel llety gwyliau tymor byr. Mae Cymru wedi bod yn...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22 ( 4 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw ac am yr esiampl mae e'n dangos i ddysgwyr y Gymraeg hefyd wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y Siambr heddiw, fel mae e wedi'i wneud. Mae'r pwynt mae'n ei wneud yn bwynt pwysig iawn o'r angen i gydweithio yn rhanbarthol er mwyn sicrhau ffyniant y cynlluniau strategol. Mae enghraifft, er enghraifft, ym Merthyr, lle mae Merthyr a'r cynghorau cyfagos yn...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22 ( 4 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Diolch i Alun Davies am y cwestiynau hynny ac am ei gyfraniad e at yr hyn rŷn ni'n ei drafod heddiw. Fydden ni ddim yn cael y drafodaeth hon oni bai am y gwaith wnaeth e pan oedd e'n Weinidog y Gymraeg. O ran disgwyliadau ar gyfer canlyniadau'r cyfrifiad, rhaid inni aros, wrth gwrs, i weld beth fydd y canlyniadau. Mae ychydig yn gynnar inni ragdybio beth fyddan nhw un ffordd neu'r llall....

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22 ( 4 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny a'r croeso mae hi wedi ei ddatgan i'r datganiad heddiw, ac i'r adroddiad ar gyfer y flwyddyn adrodd gyntaf. O ran y cynlluniau strategol, byddwn i'n dweud, a dweud y gwir, fod llawer o uchelgais wedi cael ei ddangos gan bob un awdurdod, a dweud y gwir, felly dwi ddim yn cytuno gyda'r disgrifiad wnaeth hi ddefnyddio yn ei chwestiwn fod diffyg...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22 ( 4 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Diolch i Sam Kurtz am ei gwestiynau. Gaf i ategu ac uniaethu fy hun gyda'r sylwad olaf yn ei gyfraniad ef yn fanna? Mae gan bawb gyfle ond hefyd cyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni'n gwneud ein gorau glas dros yr iaith ac mae gennym ni gynllun yn fan hyn sydd yn gosod y seiliau ar gyfer hynny. Fe wnaeth e agor ei gyfraniad drwy ofyn am atebolrwydd. Doeddwn i ddim cweit yn gwybod os oedd e'n...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22 ( 4 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Yr wythnos nesaf, byddaf i'n lansio'r cynllun terfynol, a byddaf i'n rhannu'r manylion gyda chi bryd hynny. Ond teg dweud ei fod e'n gynllun arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl, i gymunedau, ac, yn wir, i'n hiaith ni, ym mhob cwr o'r wlad. Bydd y comisiwn cymunedau Cymraeg newydd yn ein herio ni wrth i ni weithredu'r cynllun ac yn ein cefnogi er budd yr ardaloedd hynny...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22 ( 4 Hyd 2022)

Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, dwi'n cyflwyno adroddiad blynyddol ar ein strategaeth iaith, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', a hynny ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22. Ar ddechrau'r chweched Senedd, fe wnaethom ni gyhoeddi ein rhaglen waith pum mlynedd ar gyfer gweithredu 'Cymraeg 2050' yn ystod 2021-26. Mae'r adroddiad blynyddol hwn, felly, yn adrodd ar flwyddyn gyntaf y rhaglen honno...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi’r Gweithlu Addysg (27 Med 2022)

Jeremy Miles: Rydym ni yn gwerthfawrogi eu sgiliau, eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb. Mae cyfraniad athrawon i lesiant ein pobl ifanc a llesiant ein cenedl yn aruthrol. Mae'r gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud i lunio bywydau ifanc a sicrhau bod pob un person ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, y cyfle gorau i gyflawni ei botensial, yn rhyfeddol. Manteisiaf ar unrhyw gyfle i dalu teyrnged iddyn...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi’r Gweithlu Addysg (27 Med 2022)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pellach hynny. Roeddwn i hefyd yn yr achlysur yn gynharach heddiw, ac yn gwrando ar dystiolaeth gan athro, sydd, fel mae'n digwydd, yn fy etholaeth i, yn sôn am ei phrofiad hi o fod mewn dosbarth ac yn darparu'r gefnogaeth ehangach hynny, a'r galw sydd arni i wneud hynny oherwydd y sefyllfa mae amryw o deuluoedd yn ei hwynebu. Mae hynny, yn sicr, yn rhywbeth...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi’r Gweithlu Addysg (27 Med 2022)

Jeremy Miles: O ran y sylw am reoli llwyth gwaith, bu gennym ni broses ers tro sydd wedi ennyn diddordeb athrawon, undebau athrawon, y Llywodraeth a phartneriaid eraill a rhanddeiliaid yn y system addysg i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i ddileu'r elfennau hynny o lwyth gwaith a allai fod wedi cronni dros amser ac i edrych arnyn nhw mewn golau newydd gan ddweud, 'Ydyn nhw'n hollol angenrheidiol?...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi’r Gweithlu Addysg (27 Med 2022)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau amrywiol yna. Bydd yn ymwybodol o'r cynnydd yn nifer yr athrawon sy'n ymgeisio i fod yn rhan o'r rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn croesawu hynny. Bydd hefyd yn ymwybodol o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i hybu addysgu fel proffesiwn deniadol. Rydym ni'n treulio cryn dipyn o amser efallai yn y Siambr yn...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi’r Gweithlu Addysg (27 Med 2022)

Jeremy Miles: Gan gydnabod y baich ychwanegol ar staff addysg, yn enwedig yn dilyn y pandemig, ac i gefnogi'r hawl i ddysgu proffesiynol, rwy'n ymgynghori ar ymestyn y ddarpariaeth o ddiwrnod hyfforddiant ychwanegol mewn swydd ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf, a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i ymateb i'r ymgynghoriad. Er mwyn cryfhau dysgu a chefnogaeth broffesiynol rydym wedi gwneud...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi’r Gweithlu Addysg (27 Med 2022)

Jeremy Miles: Rhaid i'n cynnig cenedlaethol fod yn gyson ac o'r ansawdd gorau. Gallaf gyhoeddi felly y byddwn yn cyflwyno proses ddilysu newydd er mwyn sicrhau bod yr holl ddysgu proffesiynol cenedlaethol yn cael ei sicrhau o ran ansawdd a'i gydnabod. Mae'n bleser gennyf hefyd roi gwybod i chi fod gwefan draws-ranbarthol newydd wedi mynd yn fyw heddiw. Bydd y wefan yn darparu mynediad teg i wybodaeth...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi’r Gweithlu Addysg (27 Med 2022)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir nad oes modd cefnogi lles disgyblion a darparu addysg o ansawdd uchel os nad yw’r gweithlu yn teimlo eu bod nhw’n cael cefnogaeth. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i les y gweithlu fod yn ystyriaeth flaenllaw ym mhob peth rŷn ni'n ei wneud. Rhaid i leihau llwyth gwaith fod yn flaenoriaeth. Mae'r grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau...

14. Dadl Fer: Darparu prydau ysgol am ddim i bawb: Yr heriau a'r cyfleoedd (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Yn sicr. Rwy'n cytuno ei fod yn gyfle pwysig inni fabwysiadu dull ysgol gyfan o weithredu ar fwyta'n iach. Rwy'n credu ei fod yn bendant yn un o'r cyfleoedd allweddol. Y cyfle cyntaf sydd gennym i ymgorffori bwyd iach a maethlon yn rhan o ddiwylliant yr ysgol yw'r diweddariad i'r rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion, diweddariad yr ydym yn awyddus i'w gefnogi gyda sgwrs genedlaethol, gan...

14. Dadl Fer: Darparu prydau ysgol am ddim i bawb: Yr heriau a'r cyfleoedd (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jenny Rathbone am ddod a'r ddadl fer hon i Siambr y Senedd. Mae gwaith ac angerdd Jenny yn y maes hwn, ac ym maes ehangach polisi bwyd, yn amlwg yn gyfarwydd iawn i ni, ond hoffwn ddiolch iddi hefyd am ei chefnogaeth a'r cyngor y mae wedi'i ddarparu wrth inni gyflawni'r maes polisi allweddol hwn. Rwy'n credu bod yr angerdd a'r...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Effaith Chwyddiant ar Gyllidebau (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Ar fater cronfeydd wrth gefn yn benodol, rwy'n derbyn pwynt yr Aelod fod yna ddarlun amrywiol mewn gwahanol ysgolion, ac os nad oes gennych gronfeydd wrth gefn, ni fyddai hyn yn berthnasol i'r ysgol honno. Ond y darlun cyffredinol ar draws y system yng Nghymru yw bod cronfeydd wrth gefn ysgolion, yn ôl y data diwethaf sydd ar gael, sydd bellach bron yn flwyddyn oed, wedi cynyddu o £31...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.