Mandy Jones: Prif Weinidog, gyda'r pwerau codi trethi newydd ddim ond dyddiau i ffwrdd, a'r pwerau ychwanegol y mae'r lle hwn ar fin eu cael ar ôl Brexit, onid yw'n amser cyflwyno diwygiadau lobïo i sicrhau bod ein democratiaeth mor agored a thryloyw â phosibl. A ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i'r Cynulliad hwn gymryd camau ar ddiwygiadau lobïo nawr er mwyn helpu i gryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd...
Mandy Jones: Byddaf yn cadw fy nghyfraniad yn gryno gan fod y rhan fwyaf o'r pwyntiau eisoes wedi'u gwneud. Mae caethiwed i alcohol yn salwch difrifol sy'n arwain at effeithiau andwyol, nid yn unig ar yr unigolyn, ond ar y teulu ehangach a ffrindiau hefyd. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn ceisio ymdrin â'r problemau mewn cymdeithas a achosir gan y salwch hwn, ond rwyf yn meddwl bod y syniad...
Mandy Jones: Ddoe, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid annerch y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch y Bil hwn. Hoffwn ddiolch iddo am fod mor adeiladol ac agored gyda'r Pwyllgor. Mae gennyf innau, hefyd, bryderon mawr iawn ynghylch adran 11 ac rwy'n mawr obeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro pam na ellir defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni cyfochri...
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rydych chi a minnau yn cytuno y dylai'r pwerau sydd gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ddod i Gymru yn eu cyfanrwydd. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae'n rhaid i'r DU a Chymru fod allan o farchnad sengl yr UE. A wnewch chi nawr, o'r diwedd, amlinellu safbwynt eich Llywodraeth: aelodaeth o'r farchnad sengl neu reolaeth lawn dros feysydd datganoledig?
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli pellach i Gymru yn sgil trosglwyddo pwerau yn ôl o Frwsel yn dilyn Brexit? OAQ51879
Mandy Jones: Yn gyntaf hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Cynulliad dros Bontypridd, am ei waith ar yr adroddiad hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb o'r tîm sy'n cefnogi'r pwyllgor am eu hymdrechion yn hyn o beth ac yn olaf, i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, y gwn eu bod wedi rhoi llawer o amser, ymdrech a meddwl tuag at yr adroddiad hwn. Mae fy nghyfraniad heddiw yn mynd i fod yn gymharol...
Mandy Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, dros y penwythnos, tynnwyd sylw at y bwlch rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn y DU, a gorllewin Cymru oedd perthynas dlawd y DU. Rwyf wedi bod yn edrych ar ffyniant cymharol fy rhanbarth, ac rwyf wedi dod o hyd i fwlch mawr o tua £50 yr wythnos mewn enillion cyfartalog rhwng y rhai sy'n byw yno a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghanol...
Mandy Jones: 13. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu economaidd yn rhanbarth Gogledd Cymru? OAQ51847
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl yng Nghymru?
Mandy Jones: A gaf fi ymyrryd, os gwelwch yn dda? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng undeb tollau a'r ardal masnach rydd?
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, dim ond 5 y cant o gig oen Cymru sy'n cael ei fwyta yng Nghymru. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu cig oen Cymru yng Nghymru a'r DU yn ehangach?
Mandy Jones: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ51751
Mandy Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ad-drefnu ysgolion yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Diolch. Prif Weinidog, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau cymunedol ar gyfer cyflyrau cronig yn dal i fod ar gael ar ddiwrnodau gwaith yn unig, ac mae angen cydgysylltu'n well gwaith y gwahanol grwpiau a thimau staff sy'n gofalu am gleifion â chyflyrau cronig. Pa ymdrech y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn?
Mandy Jones: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drin cyflyrau cronig yng Ngogledd Cymru? OAQ51648
Mandy Jones: Diolch, Gomisiynydd. Gomisiynydd, cefais fy nyfynnu yn y wasg pan ddychwelais fel Aelod Cynulliad yn dweud bod pobl yng ngogledd Cymru yn credu'n gyffredinol na ddylai Cynulliad Cymru fodoli. [Torri ar draws.] Peidiwch â chynhyrfu. Mynegir y farn hon gan lawer o etholwyr ar sawl llwybr ymgyrchu. A minnau yma bellach, gallaf weld effaith y Cynulliad ar fywydau pobl sy'n byw yn fy rhanbarth...
Mandy Jones: 6. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru? OAQ51616
Mandy Jones: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad ynghylch cyflymderau band eang cyflym iawn ar draws rhanbarth Gogledd Cymru?
Mandy Jones: Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf. Ceir cyffuriau eraill sy'n seiliedig ar ganabis, fel olew canabis a'r holl ganabinoidau hynny ac—.
Mandy Jones: Diolch yn fawr i chi. Nid ag ysmygu'n unig y mae'n ymwneud.