Canlyniadau 281–300 o 800 ar gyfer speaker:Bethan Sayed

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (20 Tach 2018)

Bethan Sayed: Diolch am y rhybudd ymlaen llaw—mae'n amserol, o gofio bod gennym ddadl ar addysg bellach yr un amser yfory hefyd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi cydnabod bob amser, er mwyn cael economi lwyddiannus sy'n fedrus a chynhyrchiol, mae angen inni gael y cyfleusterau a'r sefydliadau o'r radd flaenaf, sy'n gystadleuol, gyda neges glir a chynllun i'w gyflawni. Ac mae addysg bellach yn rhywbeth a...

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Symudedd Myfyrwyr Rhyngwladol (20 Tach 2018)

Bethan Sayed: Rwy'n ymddiheuro am gyrraedd yn hwyr. Diolch am hysbysiad ymlaen llaw am y datganiad hwn. Yn dilyn Brexit, bydd angen sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn parhau i gael eu croesawu yng Nghymru a'u bod nhw'n ymwybodol eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Bydd angen hefyd sicrhau bod myfyrwyr o Gymru yn cael eu hannog i fod yn eangfrydig a cheisio cyfleoedd i astudio dramor. Mae Plaid Cymru o'r...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (20 Tach 2018)

Bethan Sayed: Roedd digwyddiad yn Senedd y DU ddoe gan yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig i nodi tair blynedd ers iddyn nhw ymgyrchu i sicrhau bod y cyffur Orkambi ar gael drwy'r GIG. Cawsom gyfarfod trawsbleidiol yma yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r mater pwysig hwn hefyd. Nawr, mae 'Cymru Iachach', eich strategaeth chi, yn dweud bod angen inni gael gofal mwy personol, mwy o feddyginiaethau...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Gwella'r Amgylchedd o amgylch y Cynulliad (14 Tach 2018)

Bethan Sayed: A gawn ni bwll nofio hefyd?

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Mynediad i Fand Eang yng Ngorllewin De Cymru (14 Tach 2018)

Bethan Sayed: Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn annog busnesau Cymru i wneud cais am eu cynllun talebau band eang gigabit. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod beth ydyw, ond mae'n gynllun lle roedd busnesau bach a chanolig yn arfer cael £3,000, ond mae bellach wedi ei ostwng i £2,500 oherwydd bod cymaint wedi manteisio arno, er mwyn galluogi busnesau bach a chanolig sydd angen y cymorth hwnnw i gael band eang...

QNR: Cwestiynau i Arweinydd y Ty a'r Prif Chwip (Julie James) (14 Tach 2018)

Bethan Sayed: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddarparu amlinelliad o fuddsoddiad diweddar ac arfaethedig mewn band eang?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (13 Tach 2018)

Bethan Sayed: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fewnfuddsoddiad i Orllewin De Cymru?

4. Datganiadau 90 Eiliad ( 7 Tach 2018)

Bethan Sayed: Roeddwn am fanteisio ar y cyfle hwn heddiw i bob un ohonom gofio ein ffrind a'n cyd-Aelod Carl Sargeant, flwyddyn wedi ei farwolaeth. Gwn ein bod oll yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yma heddiw, ac rydym oll yn ei gofio yn ein ffyrdd unigryw ein hunain—o'i wenau drygionus i'w areithiau anghonfensiynol, i'w ofal am eraill. Roedd bob amser yn barod i'ch cefnogi. Ni allais dalu teyrnged i...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Tach 2018)

Bethan Sayed: A gaf i ofyn am ddiweddariad ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar gyfer y rhai ag anghenion gofal cymhleth, yn enwedig y bobl hynny â nychdod cyhyrol? Cynhaliais ddigwyddiad yr wythnos diwethaf—digwyddiad traws-bleidiol—ynghylch nychdod cyhyrol, a chawsom lawer o deuluoedd a gododd bryderon am y diffyg ymwybyddiaeth meddygol ymhlith staff allweddol yn y GIG....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Effaith Brexit ar Recriwtio Myfyrwyr ( 6 Tach 2018)

Bethan Sayed: Rwy'n credu bod llawer o Aelodau Cynulliad wedi rhoi cyd-destun Brexit a sut y gallai hynny effeithio ar fyfyrwyr o'r UE a hefyd y rhai sy'n dod o leoedd pellach i ffwrdd na'r UE. Ond, o edrych ar y sefyllfa bresennol, nid oes unrhyw brifysgolion yng Nghymru yn y 10 uchaf ar draws y DU o ran nifer myfyrwyr o'r UE, felly mae hynny'n rhywbeth ar hyn o bryd nad ydym ni'n perfformio'n dda...

9. Dadl Fer: Newyddion ffug: Sut y gallwch ei adnabod a sut y gallwch ei drechu? (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: Ffotograff yw fy ail enghraifft, o brotestiadau Standing Rock yng Ngogledd Dakota yn 2017 yn ôl pob golwg. Y nod oedd atal pibell rhag cael ei hadeiladu ar draws tiroedd brodorol cynhenid America gan fygwth eu hamgylchedd a'u cyflenwadau dŵr. Penderfynodd rhai ymgyrchwyr yn amlwg y byddai'n dda chwyddo maint y protestiadau a chyhuddo'r cyfryngau o beidio â rhoi sylw iddynt. Yr hyn a...

9. Dadl Fer: Newyddion ffug: Sut y gallwch ei adnabod a sut y gallwch ei drechu? (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: Diolch. Penderfynais gyflwyno'r ddadl hon yr wythnos hon oherwydd fy mod wedi bod yn ystyried y cwestiwn ehangach ynglŷn ag ansawdd a lluosogrwydd cyfryngau Cymru ers cael fy ethol yn 2007. Yn 2017, dywedais wrth gynhadledd fy mhlaid nad newyddion ffug yw'r broblem yng Nghymru yn aml iawn, ond dim newyddion. Dywedais hynny oherwydd ei fod yn adlewyrchu fy marn i a sawl un arall fod yna...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati' (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn i'r tîm clercio hefyd ac i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith pwysig yma, ac i'r bobl sydd wedi troi lan yma heddiw ar gyfer y ddadl. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn rhan dyngedfennol o'r hyn rydym ni'n ei wneud fel pwyllgor. Diolch yn fawr iawn.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati' (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: Rwy'n ymwybodol o'r amser, ac nad oes llawer ohono i fynd drwy sylwadau pawb, ond diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Gwn eich bod wedi cael eich lobïo i fynychu a chymryd rhan yn y ddadl hon, ac y byddech yn gwneud hynny beth bynnag oherwydd ei fod mor bwysig. Felly, diolch yn fawr iawn—ac i holl aelodau'r pwyllgor, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi dangos cymaint o frwdfrydedd...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati' (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: I gloi, os ydym ni, fel cenedl, yn gwerthfawrogi ein treftadaeth gerddorol gyfoethog, ac yr hoffem ni i fanteision y rhan mor werthfawr hon o fywyd Cymru barhau am amser hir eto, rhaid inni weithredu nawr i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati' (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: Mae gwerth cerddoriaeth i Gymru ac i'r rheini sy'n byw ac yn dysgu o fewn ein gwlad wedi bod yn ased pwerus ers talwm iawn, ac yn un sy'n creu balchder, llawenydd a boddhad i ni ac felly mae'n rhaid iddo barhau. Mae'n werthfawr eithriadol i'n sector diwydiannau creadigol, a chredaf fod yn rhaid cydnabod nad un sector yn unig o gymdeithas y mae'n effeithio arno, mae'n codi uwchlaw ein bywydau...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati' (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: Mae absenoldeb cyfarwyddyd o'r fath wedi arwain at anghysondeb a chymhlethdod. Mae angen cyfarwyddyd yn awr ar frys er mwyn osgoi dirywiad pellach y gwasanaethau sydd ar gael. Nid yw hyn yn golygu mai'r gwasanaethau eu hunain yw'r unig bethau yr effeithir arnynt gan ddiffyg strategaeth gyffredinol. Mae telerau ac amodau staff y sector yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau. Rhaid rhoi sylw i...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati' (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: Argymhelliad canolog arall yn ein hadroddiad yw bod Llywodraeth Cymru yn cymryd perchnogaeth strategol o wasanaethau cerddoriaeth trwy ymgynghori â rhanddeiliaid er mwyn creu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati' (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: Fel cerddor fy hun, a dyfodd drwy system y gwasanaeth cerddoriaeth, gallaf dystio bod y datganiadau hyn yn wir. Drwy addysg cerddoriaeth, cefais gyfleoedd a phrofiadau anhygoel, a gyfoethogodd fy addysg. Maent yn brofiadau yr wyf yn eu gwerthfawrogi hyd at heddiw.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati' (24 Hyd 2018)

Bethan Sayed: Cafodd pethau fel teithio dramor yn rhan o dîm a chwarae peth o gerddoriaeth gerddorfaol enwocaf y byd effaith bendant a chadarnhaol arnaf, mewn ffyrdd rwy'n dal i elwa ohonynt heddiw. Ac ni allaf wrando ar Mahler 1 heb gael atgofion melys iawn o fy nghwrs cerddorfa ieuenctid cenedlaethol diwethaf. Fel y cyfryw, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.