Canlyniadau 281–300 o 2000 ar gyfer speaker:Jenny Rathbone

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Gan fod Llywodraeth Cymru nawr yn uwch noddwr ar gyfer derbyn ffoaduriaid o Wcráin, rydym ni'n gobeithio y byddwn ni nawr yn gallu gweld pobl yn cyrraedd y wlad hon er mwyn manteisio ar y cynigion caredig iawn y mae cynifer o bobl ledled Cymru wedi'u gwneud. Yng ngoleuni cyrhaeddiad disgwyliedig y bobl hyn y mae gwir angen ein cefnogaeth arnyn nhw, yr oeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog (16 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Mae hynny'n arbennig o ddiddorol i'w glywed, ac a ydych chi felly'n credu bod gan gatrodau logistaidd rôl bwysig i'w chwarae yn cynorthwyo pobl Gwlad Pwyl ac eraill, a chwarae ein rhan drwy ddod â phobl o Wcráin cyn gynted â phosibl?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog (16 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Gwasanaethodd fy nhad-cu yn y rhyfel byd cyntaf, a bu'n gwasanaethu yn y lleoedd gwaethaf gyda’r niferoedd uchaf o rai a anafwyd. Roedd yn un o'r Magnelwyr Brenhinol, a oedd yn cludo’r gynnau i’r ffrynt gan ddefnyddio ceffylau, sy’n dangos pa mor bwysig yw hi i'r fyddin newid gyda thechnoleg newydd; ni allwn ymladd rhyfeloedd â cheffylau mwyach. Ni chafodd y cymorth iechyd meddwl...

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol (16 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Pa drafodaeth y mae'r Gweinidog wedi'i chael gyda Swyddfa'r Post ynghylch sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad digonol at wasanaethau?

8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (15 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Mae hon yn ddadl ddiddorol iawn ar bwnc pwysig iawn. Mae gan fy etholaeth i dair prifysgol ynddi, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn iawn, nid yn unig i ardaloedd unigol ond hefyd i Gymru gyfan, oherwydd mae'n amlwg bod angen i ni sicrhau bod gennym y sector trydyddol gorau posibl i'n symud ymlaen yn yr amgylchiadau heriol iawn hyn. Mae gan Brifysgol Rhydychen, Prifysgol...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Tyfu Llysiau ( 9 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Diolch yn fawr iawn. Rydym eisoes wedi trafod yr aflonyddwch i farchnadoedd bwyd sy'n digwydd o ganlyniad i Brexit a'r rhyfel yn Wcráin, ond hoffwn ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru, oherwydd un o'r cytundebau pwysicaf o fewn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yw darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Felly, yn unol ag amcanion economi sylfaenol...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Tyfu Llysiau ( 9 Maw 2022)

Jenny Rathbone: 4. Beth yw strategaeth y Gweinidog ar gyfer cynyddu faint o lysiau a gaiff eu tyfu yng Nghymru? OQ57746

10. Dadl: Cyllideb Derfynol 2022-23 ( 8 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Neu a yw hon yn gronfa arall o arian y gallech ei nodi yn y dyfodol? Gan nad oes unrhyw amheuaeth nad yw datgarboneiddio ein cartrefi yng nghyd-destun y costau ynni, olew a nwy sy'n cynyddu ar raddfa eithriadol yn rhywbeth y gallwn ni aros amdano. Mae'n rhaid i ni wneud hynny cyn gynted ag y gallwn.

10. Dadl: Cyllideb Derfynol 2022-23 ( 8 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Yn ôl at realiti, hoffwn i yn fawr iawn ganmol y Gweinidog cyllid am reoli'r gyllideb, oherwydd prin y gallai hyn fod yn gyfres anoddach o amgylchiadau y mae pobl Cymru yn eu hwynebu. Mae eich gallu i nodi £162 miliwn yn ychwanegol ar gyfer yr argyfwng costau byw yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ac yn arwydd o'ch rheolaeth ragorol o arian y Llywodraeth. Y bore yma, es i i fy manc bwyd lleol...

10. Dadl: Cyllideb Derfynol 2022-23 ( 8 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Mae'n iawn. Wnes i ddim siarad mewn gwirionedd. Ond roeddwn i'n meddwl tybed, rydych chi'n dweud 'cydnabod yr ychwanegiad yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraeth y DU', ond rydym ni newydd glywed yn y datganiad am £1 biliwn yn llai oherwydd yr arian nad yw'n dod o'r hyn a gawsom fel arfer drwy'r gyllideb Ewropeaidd. Felly, rwy'n credu ein bod yn llawer gwaeth ein byd, nid yn well ein byd.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru Gryfach, Decach, Wyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau ( 8 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Yn dilyn ar thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwyf i eisiau ceisio archwilio sut y byddwn ni'n cau'r bwlch rhwng y rhywiau o ran peidio â bod â menywod mewn un adran o'r gweithlu a dynion yn y llall, oherwydd mae angen—. Fe fyddai ychydig mwy o gymysgu o fudd i'r gymuned gyfan. Felly, fe wyddom ni o adroddiad Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, 'Cartrefi sy'n Addas i'r...

7. Dadl Plaid Cymru: Anhwylderau bwyta ( 2 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Ceir llawer gwell dealltwriaeth o anhwylderau bwyta erbyn hyn nag a oedd 50 mlynedd yn ôl. Gallaf gofio brodyr a chwiorydd ffrindiau i mi yn ei chael hi'n anodd deall beth y gallent ei wneud, ac nid oedd y proffesiwn meddygol yn gwybod yn iawn beth i'w wneud y tu hwnt i orfodi bwyd ar bobl a oedd yn benderfynol o lwgu eu hunain i farwolaeth. Felly, rydym bellach mewn sefyllfa well o lawer i...

11. & 12. Legislative Consent Motion on the Police, Crime, Sentencing and Courts Bill — Motion 1, and Legislative Consent Motion on the Police, Crime, Sentencing and Courts Bill — Motion 2 ( 1 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Mae cyfyngu'r hawl i brotest gyhoeddus braidd yn eironig yng nghyd-destun trosi Damasîn Llywodraeth y DU i bwysigrwydd llywodraeth ddemocrataidd pan ddaw'n fater o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, rwy'n credu, o ystyried y ffordd mae Llywodraeth y DU wedi ymddwyn ers 2019, gan ymdrechu i ragderfynu Senedd pan nad oedden nhw am gael eu harchwilio ganddyn nhw, a rhai o'r digwyddiadau a'r materion...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Diolch yn fawr am y datganiad. Roeddwn i'n gwrando'n astud ar yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud ac rwy'n credu hefyd fod angen i ni feddwl am gynaliadwyedd yr hyn yr ydym yn ei wneud, oherwydd bod urddas yn eithriadol o bwysig ac mae angen i ni sicrhau bod gan bawb y cynhyrchion mislif sydd eu hangen arnyn nhw i ymdrin â'u mislif misol, ond mae'n rhaid i ni hefyd feddwl am yr...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024 ( 1 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Mae fy nghwestiwn i yn ymwneud mewn gwirionedd â: os ydych chi'n mynd i newid y rheoliadau prydau ysgol, rwy'n cymeradwyo hynny, ond pwy fydd yn monitro ansawdd prydau ysgol? Oherwydd ar hyn o bryd rydym ni'n dibynnu ar lywodraethwyr ysgolion, ac o'u rhan nhw, mewn gwirionedd, mae'n dipyn o ddirgelwch, ac nid wyf i eto wedi gweld llywodraethwyr ysgol yn gyffredinol sy'n ymddiddori yn y mater...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024 ( 1 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Diolch yn fawr iawn Gweinidog am eich datganiad, a diolch yn fawr i chi am eich ymrwymiad i'r maes hwn, oherwydd mae hi wir yn gofyn am y lefel honno o ddyfalbarhad ar y mater cymhleth hwn. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn i Undeb Amaethwyr Cymru yn ddiweddar, sydd wedi addo mynd i ysgolion yn fy etholaeth i a siarad â phlant ynghylch o ble y mae bwyd yn dod. Rwy'n credu bod hynny'n fan cychwyn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Maw 2022)

Jenny Rathbone: Yn gyntaf oll, hoffwn i groesawu'n fawr y cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog iechyd y bydd erthyliadau telefeddygol yn dod yn wasanaeth parhaol. Mae hwn yn fater eithriadol o bwysig, yn enwedig i fenywod sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, neu fenywod nad oes ganddyn nhw ofal plant neu sydd â chyfrifoldebau gofalu eraill. Ac mae'n cael ei gefnogi'n fawr gan yr holl weithwyr proffesiynol yng...

6. Dadl ar ddeiseb P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei Dymchwel (16 Chw 2022)

Jenny Rathbone: Tybed a gaf eich herio, Weinidog, drwy ddweud bod hyn yn methu'r pwynt. Oherwydd nid yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cynaliadwyedd, sef arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu. Felly, mae angen i fframwaith Cadw newid, neu mae angen i'r system gynllunio newid, er mwyn cynnwys hynny.

6. Dadl ar ddeiseb P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei Dymchwel (16 Chw 2022)

Jenny Rathbone: Rwy'n falch iawn o ddilyn fy nghyd-Aelod, Darren Millar, ac rwy'n cytuno i raddau helaeth â phopeth a ddywed y tro hwn, fel yn wir gyda Joel James, oherwydd credaf fod hwn yn fater pwysig iawn ac mae'n wych fod y ddeiseb hon wedi ein galluogi i'w drafod. Rwy'n cytuno bod rhai materion cymhleth iawn yma, ond fel gyda Darren Millar a'r capel yng Nghasllwchwr, mae gennyf dafarn benodol yn fy...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Rhyddhau o'r Ysbyty (16 Chw 2022)

Jenny Rathbone: A fyddech yn cytuno â mi mai un o’r pethau allweddol yn hyn o beth yw sicrhau bod gennym ofal cymdeithasol o safon yn y gymuned i alluogi pobl i gael eu rhyddhau’n gyflym?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.