Canlyniadau 281–300 o 700 ar gyfer speaker:Lynne Neagle

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Siarad am Hunanladdiad a Hunan-niweidio (12 Chw 2020)

Lynne Neagle: 3. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod pob awdurdod lleol ac ysgol yn defnyddio'r canllawiau newydd ar siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio mewn ysgolion? OAQ55100

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021 ( 4 Chw 2020)

Lynne Neagle: Siaradaf heddiw fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad. Bob blwyddyn, rydym yn ystyried sut mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Caiff y gwaith hwn ei lywio gan y craffu ariannol y byddwn yn ei brif ffrydio i'n holl waith a bydd yn cael ei wneud gyda dull gweithredu hawliau plant yn ganolog iddo. Drwy gydol y Cynulliad...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Chw 2020)

Lynne Neagle: Gweinidog, yr wythnos diwethaf cafodd y grŵp trawsbleidiol ar atal hunanladdiad, yr wyf i'n ei gadeirio, gyflwyniad gan yr Athro Ann John ar yr adolygiad thematig o farwolaethau drwy hunanladdiad a hunanladdiad tebygol mewn plant 2013-14. Mae'r adolygiad yn archwilio marwolaethau 33 o blant a fu farw drwy hunanladdiad a hunanladdiad tebygol ac yn ceisio nodi cyfleoedd i atal hunanladdiadau...

4. Datganiadau 90 Eiliad (29 Ion 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Lywydd. Trefnir y gwobrau Ysbrydoli! tiwtoriaid gan Dysgu a Gwaith Cymru ac maent yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid ymroddedig sydd wedi annog pobl o bob cefndir ac oedran i gyflawni eu potensial. Y tu ôl i bob oedolyn sy'n ddysgwr llwyddiannus, ceir tiwtor neu fentor sy'n ysbrydoli. Mae Daniel Dyboski-Bryant o Grŵp Llandrillo Menai wedi bod yn addysgu ffoaduriaid ac...

8. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (28 Ion 2020)

Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i gael gwneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i blant yng Nghymru ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd y fan yma ar ôl cymaint o amser. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod y rhan y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei chwarae yn y mater hwn ers 20 mlynedd mewn dwy Senedd wahanol. Felly, diolch i chi, Dirprwy...

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Fframwaith Cwricwlwm Cymru (28 Ion 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, ac ategaf fy niolch i chi, eich swyddogion a'r llu o bobl sydd, ar lawr gwlad, wedi gweithio'n galed iawn i gyflawni hyn? Roeddwn i mewn cynhadledd ddoe yn edrych ar y dull ysgol gyfan, lle'r oedd rhai athrawon yn rhoi cyflwyniadau ar faes dysgu a phrofiad iechyd a llesiant. Mae'r brwdfrydedd sydd gan athrawon am hyn...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad (22 Ion 2020)

Lynne Neagle: Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’r argymhellion yn 'Busnes Pawb' ar frys i ddatblygu strategaeth ôl-ymyrraeth ar gyfer hunanladdiad. Dylai'r strategaeth honno gael ei chydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad o brofedigaeth ar ôl hunanladdiad, a sicrhau bod cefnogaeth hyblyg ar gael i bobl pan fydd ei hangen arnynt, boed hynny’n syth ar ôl hunanladdiad, mewn chwe wythnos, neu...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad (22 Ion 2020)

Lynne Neagle: Bydd yr Aelodau'n cofio i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, o dan gadeiryddiaeth fedrus Dai Lloyd, gynnal ymchwiliad pwysig i atal hunanladdiad yng Nghymru yn 2018, gan gynhyrchu adroddiad o'r enw 'Busnes Pawb'. Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, fe wnaethom edrych yn ofalus ar y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, gan gynnwys...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad (22 Ion 2020)

Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar brofedigaeth ar ôl hunanladdiad. Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd AC a David Melding AC am gyd-gyflwyno'r cynnig gyda mi heddiw, ac i Dai Lloyd am gloi'r ddadl. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig. Heddiw, rwyf am ddechrau drwy gydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o...

Grŵp 5: Cychwyn (Gwelliant 10) (21 Ion 2020)

Lynne Neagle: David, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

Grŵp 5: Cychwyn (Gwelliant 10) (21 Ion 2020)

Lynne Neagle: Fe wnaethoch chi ddweud eich bod wedi cael llawer o ohebiaeth gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn. A ydych chi'n ymwybodol bod pob un gweithiwr proffesiynol a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o feysydd iechyd, addysg, yn gyffredinol, yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon?

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

Lynne Neagle: Ni ellir cael cyd-destun gwell i'n dadl heddiw a'r rhuthr mawr i adael yr UE ddiwedd y mis na'r pantomeim hurt ynghylch canu cloch Big Ben ar 31 Ionawr. Yn gyntaf, mae'n wastraff llwyr o amser ac egni, yn ail, mae'r Prif Weinidog, wedi ei ysgogi gan ei Aelodau adain dde Ewrosgeptig, fel petai'n meddwl ei fod yn syniad da erbyn hyn, ac, yn drydydd, mae ef eisiau i'r cyhoedd dalu amdano. Ni...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Ion 2020)

Lynne Neagle: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, os gwelwch yn dda. Byddwn i hefyd yn cysylltu fy hun â'r sylwadau a gafodd eu gwneud yn gynharach gan Leanne Wood; cafodd y llinell gymorth anabledd dysgu ei hariannu gan y grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Rwyf i hefyd wedi cael sylwadau gan Gyngor...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Erasmus+ (14 Ion 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n rhannu'r siom honno ynglŷn â'r bleidlais yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n fyfyriwr Erasmus. Cefais i, o gartref dosbarth gweithiol, o un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, nad oedd erioed wedi cael gwyliau teuluol dramor hyd yn oed, gyfle i fynd i astudio ym Mhrifysgol Paris o dan raglen Erasmus, ac rwyf i wedi bod yn ddiolchgar erioed am y cyfle hwnnw....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Erasmus+ (14 Ion 2020)

Lynne Neagle: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y rhaglen Erasmus Plus? OAQ54932

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hunanladdiad ( 7 Ion 2020)

Lynne Neagle: Prif Weinidog, mae colli pob un o'r 33 o bobl ifanc sydd wedi eu cynnwys yn yr adolygiad hwnnw yn drychineb enfawr, a fydd wedi achosi trallod mawr i deuluoedd, ysgolion, ffrindiau, a chymunedau cyfan. Rwy'n credu mai'r adolygiad hwnnw yw'r peth agosaf sydd gennym ni i glywed lleisiau pobl ifanc sydd wedi marw drwy hunanladdiad; y peth agosaf sydd gennym ni i argymhellion ôl-weithredol gan y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hunanladdiad ( 7 Ion 2020)

Lynne Neagle: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r adolygiad diweddar o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad neu achos honedig o hunanladdiad? OAQ54862

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canser y Pancreas (10 Rha 2019)

Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. Yn dilyn ein dadl drawsbleidiol ar hyn, a gefnogwyd yn dda, cysylltodd menyw â mi yr wythnos diwethaf a oedd newydd gael diagnosis yr wythnos diwethaf o ganser pancreatig, ond dywedwyd wrthi y byddai'n rhaid iddi aros dau fis am lawdriniaeth. Fe wnaeth hynny beri gofid a syndod mawr iddi. Yn ddealladwy, roedd ei gŵr yn ddig iawn ac roeddwn i'n cydymdeimlo â'r ddau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canser y Pancreas (10 Rha 2019)

Lynne Neagle: 5. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch lleihau amseroedd aros am lawdriniaeth i drin canser y pancreas? OAQ54849

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Goblygiadau Brexit i GIG Cymru ( 4 Rha 2019)

Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Fe gyfeirioch chi yn eich ateb cynharach i Delyth Jewell at y ddogfen a ddatgelwyd yr wythnos diwethaf gan y Blaid Lafur. Roedd y ddogfen honno'n datgelu'r ffaith bod ein GIG yn sicr yn agored i'w werthu mewn unrhyw sgyrsiau masnach rhwng y DU a'r UDA. A ydych yn rhannu fy mhryder, os aiff Brexit yn ei flaen o dan Lywodraeth Dorïaidd, y byddwn yn rhoi ein GIG mewn perygl o...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.