Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gresynu at gywair ymateb y Dirprwy Weinidog i’r ddadl hon heddiw. Mae'r rhain yn faterion difrifol gerbron y Senedd. Nid yw'n iawn ein bod yn feirniadol o staff. Mewn gwirionedd, rydym wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn wir, ar Lywodraeth Cymru, i ymddiheuro i staff am beidio â mynd i’r afael â’r methiannau. Credaf fod hynny'n...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am amlinellu sut y caiff y cynlluniau eu llunio, ac rydych wedi dweud bod ymgynghori ac ymgysylltu'n digwydd â rhanddeiliaid ar ddatblygu'r cynlluniau hynny, ond oherwydd mai bob 10 mlynedd y mae hynny'n digwydd, ni roddir ystyriaeth i'r newid yn y boblogaeth a'r effaith ar fannau eraill. Sylwais hefyd eich bod wedi dweud eich bod yn mynd i gyflwyno newid...
Darren Millar: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Darren Millar: Diolch, Lywydd. Ac fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yn y Senedd, rwy'n falch iawn o weld bod y ddadl hon wedi'i chyflwyno gan y Pwyllgor Deisebau. A chyn i mi fynd ymhellach, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant yn y ddadl hon fel aelod anrhydeddus o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru ac yn wir fel aelod o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog hefyd. A hoffwn dalu teyrnged i waith...
Darren Millar: Rydym wedi clywed am Cadi, rydym wedi clywed am Arthur; hoffwn ddweud wrthych am aelod o fy nheulu i: Blue, y milgi bach a achubwyd o ganolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd. Fe'i cawsom 11 mlynedd yn ôl; roedd yn denau ac yn esgyrnog, yn naw mis oed, a phan gyraeddasom adref gydag ef, estynnodd ei goesau bach allan ar y carped yn y lolfa, dwy goes ymlaen, dwy goes yn ôl, fel clustog atal...
Darren Millar: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn eich bod chi'n gwneud datganiad llafar i'r Siambr yn dilyn yr uwchgynhadledd yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, fel arfer, rydym ni'n dueddol o dderbyn datganiadau ysgrifenedig o ran y cydberthnasau pwysig hyn yn unig. Felly, rwyf i'n croesawu hynny, a byddwn i'n cofnodi cais,...
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Rwyf i eisiau rhoi cyfle i'r Prif Weinidog gywiro'r Cofnod, os yw hynny'n bosibl. Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog cyfeiriodd at rywfaint o ohebiaeth ag arweinydd grŵp Ceidwadwyr Cymru, Andrew R.T. Davies, ynghylch parodrwydd i gydweithredu ar feysydd o ddiddordeb cyffredin. Cafodd y llythyr penodol hwnnw ei anfon at arweinydd yr wrthblaid ar 18 Mai, ac o fewn 24 awr...
Darren Millar: Prif Weinidog, rwy'n siomedig iawn gyda'ch ymateb. Nid wyf i wedi bychanu mewn unrhyw ffordd y bobl ar rengoedd blaen ein gwasanaeth iechyd sy'n darparu gofal o ansawdd uchel o dan bwysau mawr ddydd ar ôl dydd. Yr hyn yr wyf i'n ei ofyn i chi yw: a wnewch chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn y gogledd i'w wasanaethau iechyd meddwl, o gofio mai chi oedd y Gweinidog...
Darren Millar: Rwy'n synnu at eich ateb, Prif Weinidog. Ni ofynnais i chi pa wersi yr oedd y bwrdd iechyd wedi eu dysgu, gofynnais i chi pa wersi yr oeddech chi wedi eu dysgu—yr oedd Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu. Chi oedd y Gweinidog iechyd ar y pryd pan oedd y problemau hyn yn amlwg yn y gogledd. Roedd clychau larwm yn canu, roedd staff yn cwyno, roedd cleifion yn cael eu hesgeuluso, roedd rhai yn...
Darren Millar: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n gwybod yr hoffech chi i ni ganolbwyntio yn sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw ar gytundeb eich plaid gyda chenedlaetholwyr Cymru, ond nid wyf i eisiau canolbwyntio ar yr hyn y mae llawer o bobl ar fy ochr i o'r Siambr yn ei ystyried yn fater eilradd. Rwyf i eisiau canolbwyntio ar faterion sy'n wirioneddol bwysig i bobl Cymru. Felly, hoffwn i eich...
Darren Millar: Rwy'n cynnig, Ddirprwy Lywydd.
Darren Millar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y fformiwla ariannu llywodraeth leol?
Darren Millar: Diolch, Gweinidog, am rybudd ymlaen llaw o'ch datganiad. Fel y gwyddoch chi, nid yw Ceidwadwyr Cymru yn credu y dylai bwrw ymlaen â'r comisiwn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n credu bod gennych chi bethau pwysicach o lawer i'w hystyried, a dweud y gwir, o ran cael ein heconomi'n ôl ar y trywydd cywir, cael ein gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd cywir, a chael ein system...
Darren Millar: Diolch i chi am eich datganiad busnes, Gweinidog. A gaf i alw am ddatganiad i nodi Wythnos Rhyng-ffydd? Wythnos Rhyng-ffydd yw'r wythnos hon, ac, wrth gwrs, mae grwpiau ffydd ledled Cymru yn gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas. Rwy'n credu y byddai'n amserol i nodi'r wythnos pe bai datganiad yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth. Byddai hefyd yn ddefnyddiol, rwy'n credu, yn y datganiad...
Darren Millar: A gaf fi ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â chludiant o'r cartref i'r ysgol? Yn amlwg, un ffordd o gyrraedd sefyllfa sero-net yw hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd o gael pobl i'r ysgol ac oddi yno, ond mae'n amlwg fod gormod o bobl yn defnyddio eu ceir i gludo plant i ac o'r ysgol ar hyn o bryd. Ac eto, nid yw'n ymddangos bod y trefniadau cludiant...
Darren Millar: Byddwn i wrth fy modd yn estyn fy llongyfarchiadau a diolch i Barry John am y gwaith y mae'n ei wneud, ac i'r arwyr cudd eraill hynny ledled Cymru sy'n gwneud cymaint i gefnogi a helpu cyn-filwyr ledled y wlad. Felly, mae angen cymorth arall arnom ni o hyd i blant y lluoedd arfog, ac wrth gwrs mae angen i ni ailgychwyn y rhaglen Cymru'n Cofio i hyrwyddo'r pen-blwyddi milwrol pwysig hynny, er...
Darren Millar: Gwnaf, yn hapus.
Darren Millar: Hoffwn i ddiolch yn gyntaf i'r Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru am weithio yn drawsbleidiol ac am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'r dydd Iau hwn, wrth gwrs, yn nodi cant a thair blynedd ers llofnodi'r cadoediad a ddaeth â'r rhyfel byd cyntaf i ben, rhyfel lle cafodd dros 1 miliwn o bobl Prydain eu hanafu, a 40,000 o'r rhain yn dod o Gymru. Ac ers llofnodi'r cadoediad, mae bron i 0.5...
Darren Millar: Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Nid yw hyn yn ymwneud â mewnforio pethau o'r Unol Daleithiau. O ran cardiau adnabod â llun er mwyn pleidleisio, dyma sy'n arferol ar draws Ewrop gyfan. Ni yw'r eithriad. Ni yw'r unig rai sydd heb y rhain, ar wahân i Ogledd Iwerddon, cyn belled ag y mae'r DU yn y cwestiwn, fe'u cyflwynwyd yno gan eich Llywodraeth Lafur. A ydych chi felly'n...
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?