David Melding: Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
David Melding: Bydd toriad o 10 munud yn awr tra byddwn yn newid personél. Diolch.
David Melding: Diolch. Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
David Melding: Galwaf ar y Gweinidog cyllid, Rebecca Evans.
David Melding: A'r siaradwr olaf sydd gerbron y Gweinidog yw Mandy Jones.
David Melding: Diolch. Dawn Bowden.
David Melding: Bydd angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben—. Dewch â'r cyfraniad i ben, os gwelwch yn dda.
David Melding: Diolch. Mae gennyf wyth siaradwr sy'n gobeithio cael eu galw, neu wyth Aelod sy'n gobeithio siarad, felly pum munud ar y mwyaf, os gwelwch yn dda, a byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallai rhai Aelodau fod yn fwy cryno na hynny. Mark Isherwood.
David Melding: Diolch yn fawr, Dai. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding: Eitem 6 yw'r ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21, a'r testun yw incwm sylfaenol cyffredinol. Galwaf ar Jack Sargeant i gyflwyno'r cynnig.
David Melding: Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
David Melding: Weinidog, rydych wedi cymryd 11 munud bellach. Nid ydym dan bwysau—[Torri ar draws.] Gan bwyll. Nid ydym dan bwysau o ran amser ac mae hon yn ddadl bwysig, felly os cymerwch funud neu ddwy i gloi, mae hynny'n iawn, ond mae'n rhaid inni roi rhywfaint o sylw i'r terfynau amser.
David Melding: Diolch yn fawr. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
David Melding: Un siaradwr arall yn unig sydd gennyf cyn i mi alw ar y Gweinidog, a Rhun ap Iorwerth yw'r siaradwr hwnnw.
David Melding: Trefn, trefn. Dyma ailddechrau trafodion y Senedd.
David Melding: Symudwn at eitem 5, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar effaith COVID-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a galwaf ar gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig. Dai Lloyd.
David Melding: Diolch yn fawr. Bydd egwyl am 10 munud yn awr i ganiatáu ar gyfer newid staff yn y Siambr.
David Melding: Diolch. Nawr, gyda phleser arbennig, galwaf ar Elin Jones, y Llywydd.
David Melding: Weinidog, mae'n amlwg fod y digwyddiad yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn un difrifol iawn. Mae'n fis Medi—pan wynebwn bwysau'r gaeaf ddiwedd mis Tachwedd, mis Rhagfyr a mis Ionawr, gallem fod dan bwysau mwy difrifol eto. Nawr, ledled Cymru, gwn mai rhan o'r broses o reoli risg COVID yw symud rhai llawdriniaethau i gyfleusterau eraill—llawdriniaethau canser, er enghraifft, i ysbyty Vale ac...
David Melding: Bydd egwyl am bum munud yn awr cyn y cyfnod pleidleisio. Mae'r adran TG wrth law i gefnogi unrhyw Aelod y mae angen cymorth arno yn ystod y cyfnod hwnnw.