Andrew RT Davies: Prif Weinidog, gofid y datganiad hwnnw yw eich bod wedi nodi bod ffermwyr yn rhan o'r broblem. Rydych chi'n gwybod ac rwyf innau'n gwybod bod y rheoliadau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru yn mynnu bod yn rhaid i'r holl wartheg, cyn eu symud, gael prawf TB, a bod y prawf hwnnw yn ddilys am 60 diwrnod. Felly, mae'r ffermwyr eu hunain yn gwneud popeth o fewn eu gallu, ynghyd â Llywodraeth...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl mewn ymateb i'm cyd-Aelod Janet Finch-Saunders, fe wnaethoch chi ddweud: 'y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd mewnforio TB gan ffermwyr sy'n prynu gwartheg wedi'u heintio a dod â nhw mewn i'r ardal.' Achosodd hynny lawer iawn o ofid a loes yn y diwydiant amaethyddol. A ydych chi'n derbyn bod hwnnw'n ddatganiad...
Andrew RT Davies: Weinidog, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r holl Aelodau a llawer o bobl mewn cymdeithas. Mae da byw sy'n crwydro'n broblem, yn ogystal â phobl sy'n crwydro cefn gwlad a'r peryglon y mae hynny'n eu hachosi i dda byw, a pheryglon y mae da byw yn eu hachosi i bobl, ac rydym wedi gweld damweiniau trasig yn y blynyddoedd diwethaf. A ydych yn ymwybodol o gynlluniau a gyflwynwyd yn...
Andrew RT Davies: Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Fe hoffwn i godi pwynt gyda chi ynglŷn â llif yr wybodaeth a'r ffordd yr ydych chi'n cyflwyno'r wybodaeth honno i'r Senedd. Heddiw, fe gafodd y datganiad hwn ei ychwanegu i'r agenda ar y funud olaf. Ni chlywais i unrhyw beth gwahanol yn y datganiad hwn i'r hyn a glywais i yn eich sesiwn friffio chi i'r wasg ddoe ac, yn wir, yn sesiwn...
Andrew RT Davies: Yn anffodus, ni chlywais ymrwymiad i gael adolygiad o'r fformiwla cyllid honno, er fy mod i'n derbyn ei fod yn faes cymhleth ac rwyf i yn derbyn y pwynt yr ydych chi'n ei wneud, Prif Weinidog, am ffyrnigrwydd y sector wrth ddiogelu ei statws elusennol, a hynny'n gwbl briodol oherwydd yr arian y mae'n ei godi. Ond a gaf i godi mater ar wahân gyda chi a hynny ynghylch y bêl-droed sydd i fod i...
Andrew RT Davies: A ydych chi'n cydnabod, Prif Weinidog, mai dim ond 5 y cant o gyllid y mae'r fformiwla honno yn ei ddarparu i hosbisau plant yng Nghymru yn anffodus, ond yn Lloegr mae'n 21 y cant o gyllid ac yn yr Alban mae'n 50 y cant o gyllid? Nawr, nid wyf i am eiliad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gamu i mewn a neidio'n syth i 50 y cant, ond a ydych chi'n credu bod angen taith i gynyddu'r ffrwd...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ymwelais i â Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg ddoe—cyfleuster gwych sy'n darparu cymaint o ofal a thynerwch i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd hefyd. Mae Tŷ Gobaith, yn amlwg, yn gwneud yr un peth yn y gogledd. A ydych chi'n cydnabod, gan ei bod yn Wythnos Hosbis y Plant, y gwahaniaeth rhwng hosbis i blant a hosbis i oedolion, a lefel y...
Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma a'r ddogfen a ryddhawyd y bore yma yr ydym ni wedi cael cyfle nawr i'w darllen—bob un o'r 17 tudalen o'r rhaglen lywodraethu sydd ar gael i'r Aelodau ac i'r cyhoedd. Yn amlwg, fe wnaeth y cyhoedd bleidleisio ar 6 Mai dros Lywodraeth gan y Blaid Lafur yma, rwy'n derbyn hynny, a'r cwestiynau—[Torri ar draws.] Rwy'n cydnabod...
Andrew RT Davies: Wel, Prif Weinidog, nid ydych chi'n fodlon nodi eich defnydd o bwerau treth incwm. Rydych chi wedi nodi yn fwy eglur yn eich ail ateb y defnydd o ardoll gofal cymdeithasol, gordal—galwch ef yr hyn a fynnwch—a diystyru gordal ardoll addysg, ac rwy'n ddiolchgar i chi am wneud hynny. Ond un peth y mae eich rhaglen lywodraethu yn sôn amdano yw treth dwristiaeth ac ymgynghori mewn gwirionedd...
Andrew RT Davies: Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn hollol resymol, gan fod eich rhaglen lywodraethu yn sôn am gyfraddau treth incwm a pha un a fydd y Llywodraeth yn eu defnyddio ai peidio. Hefyd, yr hyn sy'n cael ei drafod yw ardollau neu ordaliadau penodol ar gyfer gofal cymdeithasol neu, yn wir, addysg, a amlygwyd dros y penwythnos gan academydd yma yng Nghaerdydd. Mae'n rhaid i chi dalu am wasanaethau...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydych chi wedi dweud yn y gorffennol na fydd eich Llywodraeth chi yn codi cyfraddau treth incwm Cymru o leiaf tan fod effaith economaidd coronafeirws wedi mynd heibio, ond rydych chi hefyd wedi dweud na wnewch chi ddiystyru cynnydd i drethi cyn diwedd tymor y Senedd. A fyddwch chi'n codi treth incwm rywbryd yn ystod tymor y Senedd hon?
Andrew RT Davies: Fel y dywedais i yn fy ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, mae'n peri gofid i mi na fydd—yn eich barn chi, beth bynnag—ymchwiliad cyhoeddus annibynnol penodol yma yng Nghymru, wedi ei gomisiynu gennych chi fel Prif Weinidog. Efallai byddai rhai pobl yn dweud mai rhedeg i ffwrdd oddi wrth graffu ac atebolrwydd yw hynny am y penderfyniadau yr oeddech chi'n eu gwneud fel Llywodraeth, gan mai dyna...
Andrew RT Davies: Rwy'n credu bod hynny yn anffodus, Prif Weinidog, oherwydd, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn aml iawn—ac wedi dweud yn gywir—mae'r penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn effeithio ar bobl yng Nghymru ac rydych chi wedi galw am fwy o bwerau mewn gwahanol feysydd, yn amlwg i gryfhau gallu'r Llywodraeth yma yng Nghymru o ran llawer o faterion. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod 7,860 o bobl...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r 14, 15 mis diwethaf wedi bod yn drawmatig i lawer o bobl ym mhob rhan o Gymru. Un o'r pethau y mae Llywodraethau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ei wneud ar hyn o bryd yw comisiynu ymchwiliadau cyhoeddus, er mwyn i ni allu deall pa benderfyniadau a gafodd eu gwneud, a pha benderfyniadau oedd yn dda a pha benderfyniadau oedd yn wael, a sut y mae...
Andrew RT Davies: Rwy'n sylweddoli bod y Prif Weinidog yn dymuno defnyddio tactegau dargyfeiriol dro ar ôl tro, ond mae'n ffaith bod y sylwadau a gyflwynais i chi yn sylwadau gan berchnogion busnes eu hunain sy'n teimlo eu bod wedi cael eu dyrnu yn eu boliau neu gael cyllell yn eu cefnau gan y Llywodraeth bresennol, sef eich Llywodraeth chi, Prif Weinidog. Mae'n ffaith bod yr arian hwnnw gennych chi heb ei...
Andrew RT Davies: —ond rydym ni wedi rhoi sylwadau ynghylch y diffyg cymorth yr ydych chi wedi ei roi ar y bwrdd i fusnesau ar hyd a lled Cymru. Pam nad ydych chi wedi rhoi cymorth ar gyfer grantiau cychwyn busnes i sicrhau y gall busnesau ail-gyfalafu eu hunain? Rydym ni'n gwybod bod gennych chi £140 miliwn heb ei ddyrannu o hyd o'r £200 miliwn a nodwyd gennych yn ystod ymgyrch yr etholiad. Onid yw'n...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwyf wedi arfer â chael fy nghyfran deg o benawdau negyddol yn y Western Mail, ond yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Western Mail bennawd a oedd yn dweud bod busnesau wedi cael cyllell yn eu cefnau gan Drakeford. Aeth ymlaen ar y tu mewn i ddweud eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu dyrnu yn eu boliau gan Lywodraeth bresennol Cymru. Ydych chi'n credu bod...
Andrew RT Davies: Mae'n sylw teg iawn oherwydd, mewn gwirionedd, daeth y sylw hwnnw gan berchennog busnes yn y gogledd, Prif Weinidog; nid oedd yn sylw o ddatganiad i'r wasg gan y Ceidwadwyr—
Andrew RT Davies: Diolch am y diweddariad, Brif Weinidog ac rwy'n cytuno â'r teimladau yn eich datganiad. Er ein bod yn agosáu at gyfnodau brafiach, mae'n werth cofio bod llawer o deuluoedd ledled Cymru, yn anffodus, wedi colli anwyliaid ac mae llawer o bobl yn hiraethu am yr anwyliaid hynny a theimlir eu colled bob dydd o'r wythnos a phob mis sy'n mynd heibio, yn ogystal â dewrder a chryfder pawb sydd wedi...
Andrew RT Davies: Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Brif Weinidog. Ac rwy'n ymuno â chi i longyfarch yr Aelodau sy'n dychwelyd a’r Aelodau newydd, am y fraint o gael eistedd yn y Siambr hon i ddadlau, i drafod, a gobeithio, i lywio penderfyniadau polisi sy'n cael effaith ddramatig ar fywydau pobl er lles pawb yng Nghymru. Mae'n gyfnod cyffrous i fod yng Nghymru, a'r hyn sy’n bosibl inni ei wneud...