Janet Finch-Saunders: Iawn. Diolch, Lywydd. A thaliadau ychwanegol i'r rhai mwyaf agored i niwed. Yn y gyllideb fach, cyhoeddwyd y byddai 1.2 miliwn o bobl yn elwa o'r toriad i gyfradd sylfaenol y dreth incwm a bydd 2 filiwn yn cael toriad yswiriant cenedlaethol o £235—[Torri ar draws.]
Janet Finch-Saunders: Mae'r mesurau hyn yn dangos mai Llywodraeth Geidwadol y DU sy'n ceisio lleddfu'r baich ar ein haelwydydd ni yma yng Nghymru. Oherwydd y toriad i'r dreth stamp yn Lloegr, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn £70 miliwn yn ychwanegol yn awr. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf sut yn union y bwriadwch wario'r arian hwnnw?
Janet Finch-Saunders: Wel, ar nodyn mwy cadarnhaol na fy nghyd-Aelod, rwy'n eithaf bodlon mewn gwirionedd gyda'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd. Popeth a wnawn yn awr, mae'n gyllideb fach ar gyfer twf, mae'n gyllideb fach i gael pobl yn ôl mewn gwaith. Ac mae'n rhaid i mi ofyn, yn dilyn pandemig COVID a'r ffaith bod gennym ryfel dychrynllyd yn Wcráin, sut yn union y byddech chi'n ei wneud a sut y...
Janet Finch-Saunders: 3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a gyflwynwyd yn ddiweddar? OQ58486
Janet Finch-Saunders: Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran dod o hyd i lety addas ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yn Aberconwy?
Janet Finch-Saunders: Iawn. A fyddwch chi'n ymrwymo i gefnogi strategaeth 'Tyfu Gyda'n Gilydd' NFU Cymru, ac a fyddwch chi'n creu dyletswydd gyfreithiol i ffurfio cynllun datblygu morol cenedlaethol a'i adolygu'n gyson? Diolch. Diolch, Llywydd.
Janet Finch-Saunders: Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, y rhan olaf, pan ddywedoch chi, 'Mae angen dull tîm Cymru arnon ni'—wyddoch chi, allaf i ddim anghytuno â hynny. Nawr, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ddatblygu ac addasu fframweithiau monitro a thystiolaeth i fesur y cynnydd tuag at y targed 30x30 ac arwain blaenoriaethu camau gweithredu. Ond mae yna ddiffyg, ac nid yw'r...
Janet Finch-Saunders: Diolch, Llywydd. Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno eich datganiad. Mae'n ddiddorol iawn, ond o ystyried bod yr hen fater yna o ardoll dwristiaeth wedi codi—neu dreth dwristiaeth yw e mewn gwirionedd—oni fyddech chi'n cytuno â mi—? Fe sonioch chi eich bod yn mynd i Seland Newydd ac rydych chi wedi bod i'r Eidal ac ni wnaeth y ffaith eich bod chi'n talu ardoll dwristiaeth eich...
Janet Finch-Saunders: Ie. Rydych yn gwneud pwynt dilys iawn. Pan fyddwn yn gwneud ymchwiliadau i ordewdra ymhlith plant, gwn fod gennym rai o'r ystadegau mwyaf gofidus. Felly, rydych chi'n gwneud pwynt dilys. Tynnodd Russ George sylw at bryderon ein bod ni fel grŵp wedi bod â'r pryderon hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf a’r angen sydd wedi codi, a’i bod yn amlwg fod mwy o brofion yn rhan o’r ateb. Yn ôl...
Janet Finch-Saunders: Gwnaf.
Janet Finch-Saunders: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’m cyd-Aelod, Russ George AS, am gyflwyno’r ddadl bwysig hon, a’r rheini ar draws y Siambr am eu cyfraniadau gwirioneddol bwysig i fater hynod bwysig i fenywod. Mae canser o unrhyw fath yn gystudd ofnadwy sydd eisoes yn cymryd gormod lawer o fywydau, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod canser wedi dod yn brif achos marwolaethau ers 2016, hyd...
Janet Finch-Saunders: Mae pandemig COVID-19, rhyfel Wcráin, ac wrth gwrs, ein hargyfwng hinsawdd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir fod rhaid i ni leihau ein dibyniaeth ar fwyd wedi'i fewnforio. Wrth gwrs, gall y sector bwyd a ffermio Cymreig gwerth £8.5 biliwn ein helpu i wneud hynny, ac mae angen inni ddiolch i'n ffermwyr yng Nghymru, sy'n chwarae rhan enfawr yn y gwaith o gynhyrchu cynnyrch lleol sy'n...
Janet Finch-Saunders: Rwy'n credu bod Bryn Bach Coal Limited wedi gwneud cais i Gyngor Sir Gaerfyrddin am ganiatâd i gloddio trwy weithrediadau cloddio arwyneb 110,000 tunnell o lo carreg o'r ansawdd gorau o estyniad arfaethedig Glan Lash. Ar ôl edrych ar eu gwefan, gwefan y cyngor sir, rwy'n sylwi y derbyniwyd y cais ar 29 Tachwedd 2019. Felly, roedd yn gwestiwn synhwyrol i'w ofyn am yr hyn sy'n digwydd yma,...
Janet Finch-Saunders: Gwnaf wrth gwrs. Os gwnawn ni i gyd gydweithio ar hyn, yna gallem fod â Bil i ymfalchïo ynddo yma yng Nghymru. Diolch.
Janet Finch-Saunders: Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, nad yw'r Gweinidog yma i gyflwyno hyn heddiw, ond mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi tynnu sylw yn fedrus iawn at y problemau sydd gennym gyda chymaint o blastig. Erbyn i mi roi fy nghyfraniad i, bydd tua 5 miliwn o boteli plastig wedi'u prynu mewn gwirionedd, oherwydd bod 1 miliwn yn cael eu prynu bob munud ar ein planed. Mae'r pla plastig, wrth gwrs, yma yng...
Janet Finch-Saunders: Ar ran pobl Aberconwy ac, yn wir, fy nheulu fy hun, rydym ni'n cyfleu ein cydymdeimlad dwysaf ag Ei Fawrhydi y Brenin a holl aelodau'r teulu brenhinol ar eu colled drist a sydyn. Trwy gydol fy mywyd i a bywydau llawer o fy etholwyr, dim ond un frenhines yr ydym ni wedi ei hadnabod. Mae hi wedi bod yn gyson anhygoel; yr angor i roi sefydlogrwydd i bobl ledled y byd. Fel y dywedodd Ei Mawrhydi...
Janet Finch-Saunders: Na, nid rhannu'n llythrennol. [Chwerthin.] Ond mae'n rhaid inni hefyd—. Ac rydym wedi siarad am yr Eisteddfod. Ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn gyfarwydd â'r holl eisteddfodau eraill ledled Cymru. Dylem fod yn annog cyfryngau lleol, ac yn enwedig S4C, i fod yn bresennol mewn eisteddfodau sirol a chymunedol fel y gall pobl ledled Cymru a thu hwnt wylio talent o Gymru o gysur eu soffa eu...
Janet Finch-Saunders: Fe'ch gwelwn yno. [Chwerthin.] Nawr, fel i ddigwyddiadau mawr fel y Sioe Frenhinol, mae opsiynau ariannu yr un mor bwysig i ddigwyddiadau gwledig llai o faint. Nawr, dyna pam y gelwais, ym mis Mawrth y llynedd, oherwydd y pandemig ac oherwydd y problemau yr oedd sioeau llai yn eu hwynebu, gorfod stopio a dechrau eto ar ôl y pandemig, am sefydlu cronfa datblygu sioeau gwledig, a fyddai'n...
Janet Finch-Saunders: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Ddirprwy Weinidog, am eich ymateb. Byddaf yn dod at yr hyn rwyf am ei ddweud mewn munud, ond credaf fod eich geiriau'n briodol iawn pan ddywedoch chi fod hon yn ddadl wych a chalonogol i'w chael ychydig cyn i bawb ohonom adael am doriad yr haf. Felly, ydi, mae'r haf yma, ac felly hefyd rai o'r digwyddiadau awyr agored gorau a mwyaf yng Nghymru. O'r Sioe...
Janet Finch-Saunders: Diolch. Mae Cymru wedi dangos ei bod yn arwain y byd ar lawer yn y gorffennol. Yr hyn sydd ei angen yn awr yw i'r Llywodraeth hon yng Nghymru ystyried rhinweddau ei phobl ei hun a pha mor bell y maent wedi cario Cymru, ond hefyd faint ymhellach y gallwn fynd. Dylai gwleidyddiaeth heddiw ymwneud â sicrhau swyddi i'ch plant a'ch wyrion. Mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â'r...