Canlyniadau 281–300 o 400 ar gyfer speaker:Sioned Williams

8. Dadl: Cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant ( 7 Rha 2021)

Sioned Williams: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon, a bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig, oherwydd mae'n hanfodol ein bod ni'n diogelu ac yn hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru, ac ni allwn ni gyfyngu ar wariant wrth wneud hynny. Gwyddom ni fod plant yng Nghymru o dan anfantais economaidd-gymdeithasol gan fod gennym ni'r gyfradd tlodi plant uchaf o unrhyw wlad yn y DU. Yn ôl y...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Sioned Williams: 'Doeddwn i ddim yn gallu ffonio gwasanaethau, ffrindiau na theuluoedd ac yn sicr ni allwn fentro cael unrhyw gymorth oherwydd bod popeth yn cael ei fonitro. Roedd bod yn fyddar yn â'i broblemau ei hun ond rwy'n ymwybodol na fyddai cael gafael ar wasanaethau wedi gallu diwallu fy anghenion pe byddwn i wedi llwyddo i wneud galwad, ni fyddwn wedi gallu clywed yr ymateb.'

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Sioned Williams: Mae profiadau fel hyn yn symptom, dwi'n credu, o'r diffygion presennol yn y strategaeth a'r modd y mae gwasanaethau yn cael eu hariannu. 

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Sioned Williams: Dim ond y bore yma ar Radio Cymru clywais Rhian Bowen-Davies, a benodwyd yn gynghorydd cenedlaethol cyntaf ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ôl ym mis Medi 2015, yn cadarnhau nad oes digon o wrando ar leisiau goroeswyr, yn enwedig y rhai o grwpiau ymylol a difreintiedig. Felly, mae'n fy nghalonogi i weld ymrwymiad y Llywodraeth i ddull mwy cyfannol o...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog heddiw a'r camau sydd wedi eu hamlinellu i fynd i'r afael â'r lefel annerbyniol bresennol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sydd yn creithio ein cymdeithas yma yng Nghymru. Mae'r ystadegau diweddaraf, fel mae'r Gweinidog wedi sôn, yn dangos yn glir fod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu — Diweddariad ( 7 Rha 2021)

Sioned Williams: Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad at rai o'r prif newidiadau sydd wedi eu gwneud i'r rhaglen lywodraethu yn sgil y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Heb os, mae'r ymrwymiad i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, ac i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed, yn ddau gam ymarferol sydd yn mynd i elwa miloedd o deuluoedd yn...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 7 Rha 2021)

Sioned Williams: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gallu ceisio noddfa a chymorth yng Nghymru?

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Sioned Williams: Er bod y mesurau cyfyngedig a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i liniaru'r lefel erchyll ac annerbyniol hon o ddyled aelwydydd i'w croesawu, wrth gwrs, teimlwn y gellid gwneud mwy i gefnogi teuluoedd nid yn unig dros y misoedd nesaf ond hefyd yn fwy hirdymor. Mae'r cyhoeddiad diweddar ar y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn golygu y bydd aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau lles oedran...

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Sioned Williams: Canfu adroddiad diweddar Sefydliad Bevan ar ddyledion aelwydydd yng Nghymru fod degau o filoedd o bobl ledled y wlad yn byw mewn dyled broblemus ymhell cyn i'r pandemig daro, ond bod effaith economaidd COVID-19 wedi dyfnhau'r argyfwng hwn. Ledled Cymru, roedd 130,000 o aelwydydd—mae hynny yn un ym mhob 10 o holl aelwydydd Cymru—mewn dyled ar ryw fil rhwng Ionawr a Mai 2021. Dros yr un...

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl bwysig hon a chyflwyno'r cynnig sydd ger eich bron. Roedd yr ymchwiliad cyntaf i mi gael y fraint o fod yn rhan ohono fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddyled a'r pandemig. Fel pwyllgor, penderfynasom fod angen ymchwilio i'r darlun o galedi economaidd a oedd yn amlwg wedi dechrau ffurfio flwyddyn a...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ( 1 Rha 2021)

Sioned Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar lefelau brechu yng Ngorllewin De Cymru?

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl (30 Tach 2021)

Sioned Williams: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rydym yn falch o'r penderfyniad a nodwyd i fynd i'r afael â'r annhegwch a wynebir gan bobl anabl yng Nghymru sydd wedi'i gynnwys yn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Mae un o fy nheulu agos i yn anabl, felly rwy'n gwybod yn uniongyrchol am yr heriau a'r rhwystrau sydd, yn anffodus, yn rhan o'i fywyd bob dydd ac, wrth gwrs, bywydau miloedd o bobl...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am COVID-19 (30 Tach 2021)

Sioned Williams: Weinidog, mae'n hanfodol nawr bod y trafferthion rŷn ni i gyd, dwi'n siŵr, fel Aelodau wedi clywed amdanynt o ran derbyn y brechiad atgyfnerthu, y pryderon yma rydyn ni wedi eu trafod y prynhawn yma, yn cael eu datrys. Mae un o fy etholwyr i, sydd yn ei saithdegau hwyr, yn dioddef o alergedd difrifol, a hyn yn glir ar ei chofnod meddygol, a gwnaeth e gael ei gymryd i ystyriaeth pan gafodd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Plant (30 Tach 2021)

Sioned Williams: Diolch, Brif Weinidog. Hoffwn longyfarch Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru am lunio cytundeb cydweithredu blaengar a chynhwysfawr a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Cymru, ac o ran taclo tlodi plant yn benodol. Rwyf fi, ers cael fy ethol, ac eraill ym Mhlaid Cymru, wedi holi'r Prif Weinidog am ehangu prydau bwyd am ddim lawer gwaith yn y lle hwn, ac mae grwpiau gwrthdlodi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Plant (30 Tach 2021)

Sioned Williams: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar strategaeth y Llywodraeth i ddileu tlodi plant? OQ57286

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (24 Tach 2021)

Sioned Williams: Diolch. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn cofio'r dystiolaeth bwerus a gawsom, a'r pwyntiau pwysig a wnaed yma yn y Siambr yn ddiweddar, yn y ddadl a gynhaliwyd ar atal sbeicio. Yn dilyn y bleidlais gadarnhaol o blaid y cynnig, yn benodol mewn perthynas â chefnogi mentrau sy'n mynd ati'n weithredol i herio agweddau diwylliannol sy'n caniatáu i aflonyddu ac ymosod rhywiol ddigwydd, pa gynnydd a...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (24 Tach 2021)

Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Dylai'r ddyletswydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd ddarparu addysg o ansawdd uchel yn unol â dull addysg gyfan o ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Felly, all y Gweinidog amlinellu sut y bydd y cwricwlwm newydd yn cynorthwyo gyda'r nod o ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben? Diolch.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (24 Tach 2021)

Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Fel y clywsom, yfory fydd Diwrnod Rhuban Gwyn eleni, y Diwrnod Rhyngwladol ar Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod a dyddiad lansio 16 diwrnod o weithredu gyda'r bwriad o atal a diddymu trais yn erbyn menywod a merched ledled y byd, drwy alw am weithredu byd-eang i gynyddu ymwybyddiaeth, hyrwyddo eiriolaeth a chreu cyfleoedd i drafod heriau ac atebion. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg (23 Tach 2021)

Sioned Williams: Pwynt o eglurder sydd gen i a dweud y gwir, Gweinidog. Fe wnaethoch chi sôn yn y datganiad—un o'r mesurau gwnaethoch chi eu rhestru oedd ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o enwau lleoedd Cymraeg a'u hyrwyddo. Codi ymwybyddiaeth, nid diogelu. Ond, dwi'n nodi yn y cyfieithiad Saesneg rydyn ni wedi'i dderbyn ar e-bost—yn amlwg, doeddwn i ddim yn gwrando ar y cyfieithiad Saesneg drwy'r...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Creulondeb at Anifeiliaid (17 Tach 2021)

Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Rhwng mis Awst a mis Hydref 2021, ymatebodd yr RSPCA i 5,263 o achosion ledled Cymru, sy’n gynnydd o 10.2 y cant ar yr un cyfnod y llynedd. O’r achosion hyn, roedd 463 ohonyn nhw yn sir Abertawe, yn fy rhanbarth i—yr ail uchaf o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Ac yng Nghastell-nedd Port Talbot, hefyd yn fy rhanbarth, ble gwelwyd y bumed lefel uchaf yng Nghymru, roedd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.