Natasha Asghar: Prif Weinidog—. Rwy'n ymddiheuro. Mae trigolion Cas-gwent yn parhau i bryderu am lefelau annerbyniol o dagfeydd traffig a llygredd. Mae'r broblem hon wedi'i gwaethygu gan bobl yn preswylio yng Nghoedwig Deon gyfagos, sydd wedi gwaethygu traffig oriau brig. Mae adroddiad peirianyddol cychwynnol ar adeiladu ffordd osgoi wedi'i gynnal, ac er mwyn i hyn fynd rhagddo mae angen ail adroddiad, gan...
Natasha Asghar: Prif Weinidog, fel yr ydych chi newydd sôn yn fyr, mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn drosedd ac mae'n sicr yn gam-drin. Gall yr arfer hwn achosi dioddefaint corfforol a seicolegol eithafol a chydol oes i fenywod a merched, ac yn syml, ni ellir ei oddef. Mae astudiaethau wedi dangos dau o'r rhwystrau i adrodd am achosion newydd o anffurfio organau cenhedlu benywod. Yn gyntaf, mae...
Natasha Asghar: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella seilwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru?
Natasha Asghar: Gweinidog, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y penderfyniad i ganiatáu i feddygon ragnodi pils dros y ffôn neu drwy fideo i alluogi merched a menywod i erthylu gartref? Rwy'n siŵr bod llawer o'r Aelodau wedi clywed gan bobl sy'n pryderu bod dileu unrhyw oruchwyliaeth feddygol uniongyrchol sy'n goruchwylio'r defnydd o'r pils erthylu hyn gartref yn codi nifer o faterion...
Natasha Asghar: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy eich llongyfarch chi a'n Prif Weinidog ar ddychwelyd ac ailddechrau yn eich swyddi yn y sesiwn newydd yma yn 2021. Nawr, fel rwy'n siŵr y gallwch i gyd ei werthfawrogi, rydym i gyd yn ymwybodol o'r ddyled fawr sydd arnom i weithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, sydd wedi gorfod ymdopi â'r pwysau aruthrol y maent wedi'i...