Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Weinidog, os caf ddychwelyd at y materion Brexit y buoch yn sôn amdanynt ychydig funudau yn ôl, ym mis Medi eleni, fe ddywedoch chi, wrth siarad am hawliau gweithwyr, ac rwy'n dyfynnu: Yng Nghymru, rydym wedi dweud bob amser, ers y refferendwm, fod yn rhaid gwarchod yr holl hawliau rydym wedi eu hennill drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Os na all y Torïaid sicrhau...
Gareth Bennett: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Dim ond ychydig o bwyntiau i'w codi. Mae brechu wedi ei nodi unwaith neu ddwywaith. Rydych chi'n disgrifio yn eich datganiad eich bod bellach yn annog staff gofal cymdeithasol i gael eu brechu, sy'n ddatblygiad da. Roedd yna broblem ychydig o flynyddoedd yn ôl fod llai na 50 y cant, mewn gwirionedd, yn dewis cael y brechiad rhag y ffliw, o blith...
Gareth Bennett: Ie, rydych chi'n dweud ei fod yn eu paratoi'n well, ond mae hefyd yn eu rhwystro rhag cael eu derbyn ar y cyrsiau gorau. Nawr, roeddech chi eisiau—[Torri ar draws.] Roeddech chi eisiau tystiolaeth, felly gwrandewch ar rywfaint o dystiolaeth. Rydym ni'n gwybod o geisiadau rhyddid gwybodaeth bod prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt wedi gwneud 153 o gynigion amodol i fyfyrwyr o Gymru yn 2017,...
Gareth Bennett: Ie, roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n debygol y byddech chi'n ei gymeradwyo, felly diolch am yr ateb. Mae'n rhaid i mi ddweud na wnaethoch chi ddweud wrthym ni pam yr ydych chi'n credu hynny, ond efallai y daw—[Torri ar draws.] Wnes i ddim gofyn. Efallai y daw hynny'n fwy eglur wrth i ni symud ymlaen. Mae'n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n debyg na fydd...
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, un o'r polisïau cynnar a ddeddfwyd gan Lywodraeth Cymru oedd cyflwyno cymhwyster addysgol newydd, bagloriaeth Cymru, neu 'bac Cymru', fel y'i gelwir. Mae bagloriaeth Cymru wedi cael ei feirniadu, felly a ydych chi'n dal i gredu ei fod wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr at y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru?
Gareth Bennett: Unwaith eto, fe sonioch yn eich datganiad rai wythnosau'n ôl eich bod yn gweld rôl fawr i fusnesau bach a chanolig yn y gwaith o ddarparu tai. Wrth gwrs, nid ydynt wedi chwarae rhan fawr yn y sector tai yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, felly rwy'n falch eich bod wedi sôn am hynny eto heddiw. Ac unwaith eto roedd yr hyn a ddywedoch chi yn eich ateb yn galonogol. A ydych yn darparu...
Gareth Bennett: Diolch am yr ateb, ac mae'n galonogol eich bod yn gwneud hyn fel prosiect parhaus, a hefyd yn cynnwys rhannau eraill o'r sector cyhoeddus. Mae yna gynllun gan Lywodraeth y DU hefyd, lle maent yn cael cynghorau lleol yn Lloegr i lunio cofrestr o'r holl safleoedd tir llwyd sydd ar gael ganddynt—y syniad yw y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ddatblygwyr wybod pa dir sydd ar gael. Gall y syniad...
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, unwaith eto, Weinidog, ac ymddiheuriadau os yw fy nghwestiwn cyntaf yn swnio'n gyfarwydd braidd, ond ni chafodd ei glywed ar gyfer y cofnod felly rwyf am ei ailadrodd eto. Rydym wedi cael digwyddiadau heddiw i goffáu Carl Sargeant, a wnaeth lawer o waith da fel y Gweinidog tai a chymunedau a'ch rhagflaenodd. Rwyf newydd fod yn edrych drwy'r ffeil o gwestiynau...
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal i goffáu Carl Sargeant, eich rhagflaenydd Llywodraeth Cymru fel y Gweinidog tai. Wrth gwrs, fe wnaeth lawer o bethau da yn y maes hwnnw. Rwyf wedi mynd trwy ffeil o gwestiynau a ofynnais ychydig—[Anghlywadwy.]—a gwelaf fod—[Anghlywadwy.]. Roeddwn yn gofyn yn benodol ar y dyddiad hwnnw ynghylch y defnydd o dir sy'n...
Gareth Bennett: Na, dim diolch.
Gareth Bennett: Yr hyn sydd yn ddiddorol imi yw'r mater o ryddid barn. Ymddengys fod gennym ni bellach— [torri ar draws.] Diolch, Alun. Ymddengys fod gennym ni bellach sefyllfa lle mae'n ymddangos bod y cysyniad o ryddid barn yn gwrthdaro â hawliau lleiafrifoedd. Felly, mae'r chwith gwleidyddol, yn hytrach na hybu rhyddid pobl i fynegi a thraethu eu barn, maen nhw bellach yn ceisio mygu hynny ac erlyn...
Gareth Bennett: Na wnaf, nid heddiw, diolch, Neil. Byddai rhai sylwebyddion yn honni bod yr Arlywydd Trump yn wir yn ceisio cael gwared ar amddiffyniadau hawliau dynol yn yr Unol Daleithiau. Ond i mi nid yw'n ceisio gwneud dim amgenach nag amddiffyn ffin ddeheuol yr Unol Daleithiau rhag mewnfudo anghyfreithlon. Nid wyf yn siŵr y byddwn i'n cytuno bod ceisio gweithredu polisi mewnfudo y cytunwyd arno yn...
Gareth Bennett: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am gyflwyno dadl heddiw ac i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ei adolygiad blynyddol. Rydym ni yn UKIP yn cydnabod ymdrechion i ddod â mwy o bobl anabl i'r gweithle a gwneud mwy o brentisiaethau ar gael i fenywod a lleiafrifoedd ethnig, ymhlith amcanion canmoladwy eraill a amlinellir yn yr adroddiad. Mae gennym ni nifer o welliannau heddiw—un gan y...
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am ddod â'i Bil i'r cyfnod hwn heddiw. Mae UKIP yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym wedi siarad yn y gorffennol am ein dymuniad i wahardd ffioedd asiantaethau gosod diangen ac mae'r Bil hwn yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw yn rhan o'r byrdwn cyffredinol o'i gwneud yn haws i denantiaid yn y sector rhentu preifat. Oes, mae llawer o ffioedd diangen ar hyn o...
Gareth Bennett: Ie, Prif Weinidog, roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n gwneud eich peth arferol ac yn clodfori'r holl wladolion tramor sy'n gweithio yn y GIG. Ac, wrth gwrs, rydych chi fel rheol yn ychwanegu sut y bydd Brexit yn bygwth y gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, datgelodd gwaith ymchwil y BBC mai dim ond 2.5 y cant, ym mis Medi 2016, o holl staff y GIG yng Nghymru sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. A...
Gareth Bennett: Yn amlwg, nid yw eich asesiad o berfformiad eich Llywodraeth yn cael ei rannu gan bobl Cymru mewn gwirionedd, ond un mater allweddol sy'n amlwg yn cael effaith andwyol ar y GIG yw twristiaeth iechyd a mewnfudo. [Torri ar draws.] Ydy. Mae Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif bod trin twristiaid iechyd yn costio hyd at £300 miliwn y flwyddyn. Ceir y pwysau hefyd a achosir gan fewnfudo ar raddfa...
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, rhagwelwyd y bydd ychydig dros hanner holl gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gwario ar iechyd. Fodd bynnag, pan edrychwn ni ar bolau piniwn, mae'n amlwg nad yw pobl Cymru yn credu bod y GIG yn gweithio yng Nghymru. Ym mis Mai 2014, ar ôl 15 mlynedd o'r Cynulliad Cenedlaethol, gofynnodd y BBC ac ICM Research i bobl pa...
Gareth Bennett: Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw. Cododd Mike Hedges y mater ynglŷn â faint o reoleiddio sydd ei angen arnom yn y rhan hon o'r farchnad dai, ac wrth gwrs rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gor-reoleiddio, ond credaf iddo wneud achos da fod angen lefel benodol o reoleiddio er mwyn ymdrin â phroblem hen dai a'u diffyg effeithlonrwydd ynni. Felly, mae tai carbon isel...
Gareth Bennett: Gwnaf, wrth gwrs.
Gareth Bennett: Mae hynny'n galonogol iawn, a diolch am ein goleuo. Rwy'n gobeithio y gellir cyflwyno'r system honno ymhellach ar draws y system carchardai yng Nghymru. Yn UKIP, rydym ni'n cefnogi rhai pethau y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud, er enghraifft, nid yw preifateiddio'r gwasanaeth prawf mewn gwirionedd yn egwyddor yr ydym ni o reidrwydd yn cytuno â hi, ac nid ydym ni'n credu, o edrych ar hynny,...