I want to write to Samuel Kurtz
Samuel Kurtz: Weinidog, mae'r cwricwlwm newydd yn gosod disgwyliad ar athrawon i allu addysgu rhywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg. Er budd y disgybl, mae angen athrawon o safon uchel yma yng Nghymru gydag ystod eang o brofiadau a chefndiroedd yn addysgu yn ein hysgolion. Mewn ardaloedd megis de-ddwyrain Cymru, lle mae staff yn aml yn cael eu recriwtio neu hyd yn oed yn cymudo o dros y ffin yn Lloegr, gallai'r...
Samuel Kurtz: A wnaiff yr Aelod ildio?
Samuel Kurtz: Nodaf eich bod chi'n sôn am gefnogaeth i gyn-filwyr. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Barry John MBE o Oriel VC yn fy etholaeth i? Mae'n arwain tîm o wirfoddolwyr sy'n helpu cyn-filwyr a'r gymuned ehangach sy'n ymdrin â materion iechyd meddwl drwy gelf a chrefft, sy'n gymorth gwych yn fy nghymuned wledig.
Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ond rwy'n teimlo braidd yn rhwystredig, fel y mae'r Aelod dros Fynwy, o gofio'r angen am gydweithrediad, partneriaeth a gwaith tîm i fynd i'r afael â newid a sicrhau economi werdd, fod y cynnig a gyflwynwn, sy'n ceisio gwneud yr holl bethau hynny gyda Llywodraeth Cymru er lles ein gwlad, yn...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG wedi bod yn broblem barhaus, ac mae'r 18 mis diwethaf wedi gwaethygu'r broblem oherwydd COVID. Fel llawer o gyd-Aelodau, mae'n fater y caf lawer o waith achos rheolaidd yn ei gylch, ac mae'n fater sy'n achosi llawer iawn o rwystredigaeth a phryder i lawer o fy etholwyr. Fel gyda phopeth, er mwyn deall yn well sut i fynd i'r afael â...
Samuel Kurtz: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddion y GIG yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ57114
Samuel Kurtz: Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad gennych chi eich hun, os gwelwch yn dda, fel y Gweinidog materion gwledig? Yn gyntaf, mae'r wythnos hon yn nodi dechrau COP26, ac rwy'n nodi absenoldeb datganiad gennych chi'ch hun ynghylch y rhan gadarnhaol y gall amaethyddiaeth ei chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi mai ein cymunedau amaethyddol yw...
Samuel Kurtz: Prif Weinidog, rwy'n croesawu'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac yn edrych ymlaen at gynyddu mynediad at natur a'n hardaloedd gwledig a mwynhad ohonyn nhw i gynulleidfa ehangach yng Nghymru. Rwy'n cofio fel plentyn y cod cefn gwlad yn cael ei addysgu i mi yn yr ysgol, fel yr wyf i'n siŵr y cawsoch chi, a llawer o bobl eraill yn y Siambr hon. Rhoddodd gyngor ar sut i wneud yn siŵr...
Samuel Kurtz: Mae'r mudiad yma yng Nghymru yn ddwyieithog, gyda nifer o gystadlaethau yn y Gymraeg, gydag Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn cael ei dangos ar S4C yn aml. Mae'r iaith a diwylliant Cymraeg yn cydblethu gyda mudiad y ffermwyr ifanc.
Samuel Kurtz: Er bod CFfI Cymru yn elusen ei hun, nid yw eu haelodau'n colli cyfle i godi arian mawr ei angen ar gyfer elusennau eraill, yn lleol ac yn genedlaethol. Fy hoff atgof CFfI oedd pan oeddwn yn un o 27 o aelodau a chefnogwyr CFfI sir Benfro a feiciodd y 250 milltir o faes sioe Hwlffordd i'n cyfarfod cyffredinol blynyddol cenedlaethol yn Blackpool, dros bedwar diwrnod. Cawsom lety gan CFfI arall...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud yr un o fy amser i James Evans, Rhun ap Iorwerth, Peter Fox, Cefin Campbell ac Alun Davies. Hoffwn ddatgan buddiant cyn i mi ddechrau. Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, a adwaenir yn fwy cyffredin fel CFfI Cymru, yn fudiad ieuenctid gwirfoddol ac yn elusen gofrestredig sy'n gweithredu'n ddwyieithog ledled y Gymru wledig. Dechreuodd...
Samuel Kurtz: O, do fe wnaeth. [Chwerthin.] Nawr, ychydig yn hŷn, gyda llai o smotiau ond yn dal i wisgo bresys, fy mraint enfawr yw bod yn gadeirydd CFfI sir Benfro, ac rwy'n falch o wisgo fy nhei CFfI sir Benfro heddiw. Pam, felly, y teimlais yr angen yn fy nadl fer gyntaf yn y Siambr hon i drafod CFfI Cymru? Ai oherwydd y ffrindiau di-rif a wneuthum ac rwy'n parhau i'w gwneud drwy fy ymwneud â'r...
Samuel Kurtz: O gofio pwysigrwydd y ddadl hon y prynhawn yma, byddai'n esgeulus imi beidio â sôn am gyfraniadau pwysig ein hathrawon Cymraeg, yn enwedig yr athrawon mewn addysg gynradd ac addysg uwchradd sy'n gweithio’n ddi-baid i ddarparu addysg Gymraeg o'r radd flaenaf i bobl ifanc ledled Cymru—offeryn allweddol yn y gist offer os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni 'Cymraeg 2050', ei strategaeth...
Samuel Kurtz: Diolch ichi, Ddirprwy Weinidog. Mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed ar ôl penwythnos pryderus yng ngorllewin Cymru, fel y byddwch yn deall, yn sgil datganiad i'r wasg a ddywedodd i'r gwrthwyneb. Dywedodd eich swyddfa, 'Rydym yn deall y diddordeb yn y prosiect hwn. Mae'n iawn fod cwmpas yr adolygiad mor eang â phosibl. Y tu hwnt i hynny, ni allwn bennu ymlaen llaw beth fydd barn y panel',...
Samuel Kurtz: 1. Pa effaith y bydd adolygiad o ffyrdd Llywodraeth Cymru yn ei chael ar welliannau sydd eisoes ar y gweill ar yr A40: ffordd osgoi Llanddewi Felffre i Redstone Cross? TQ572
Samuel Kurtz: Trefnydd, a gaf i alw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud datganiad ynghylch polisi llifogydd Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda? Yn ystod gaeaf 2020-21, dioddefodd glannau'r cei yng Nghaerfyrddin lifogydd dair gwaith mewn llai na naw wythnos. Ar ôl i mi gwrdd â'r busnesau a pherchnogion eiddo ar y cei, mae'n glir eu bod yn parhau i boeni am lifogydd yn afon Tywi a glannau'r cei yn y...
Samuel Kurtz: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llifogydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Samuel Kurtz: Diolch i'r Aelod o Ynys Môn am ddod â'r ddadl yma i'r Siambr.
Samuel Kurtz: Mae gan Gymru gyfoeth o botensial ynni adnewyddadwy a gwyrdd, a byddwn ar fai yn peidio â dechrau, o gofio mai Rhun ap Iorwerth a sicrhaodd y ddadl hon, drwy sôn am y cyfleoedd ar Ynys Môn. Fe soniodd am solar, ond mae safle ynni niwclear Wylfa Newydd yn ymgyrch rwy'n gwybod bod ei gyd-Aelod etholaethol, yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi'i hyrwyddo'n rymus. Ond...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn falch iawn o glywed, rwy'n siŵr, fy mod wedi cael fy mhenodi yn hyrwyddwr y morlo llwyd yn ddiweddar, a'r wythnos diwethaf, tra'n cymryd rhan mewn gweithgaredd glanhau traeth ar draeth y gogledd, Dinbych-y-pysgod, mwynheais gyfarfod â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol i drafod rhai o'r heriau y mae'r creaduriaid hyn yn eu hwynebu yn sgil gweithredoedd pobl. Ar yr...