Rhys ab Owen: Pan fydd pobl ag anableddau'n cael eu difreinio, pan fydd pleidleiswyr o leiafrifoedd ethnig yn cael eu difreinio, pan fydd pleidleiswyr dosbarth gweithiol yn cael eu difreinio, mae angen inni boeni. Dyna pam y dylai'r Senedd hon a phob Aelod wrthwynebu'r Bil hwn a gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddifreinio ein dinasyddion. Ni ddylai'r Senedd hon fod yn bartner iau yn y broses o ddileu hawliau...
Rhys ab Owen: Mae Heledd, Peredur a Sioned wedi gosod yn glir ffeithiau—ffeithiau swyddogol, ffeithiau y Llywodraeth yn San Steffan, yr ystadegau clir sy'n dangos y bydd pobl yn colli eu hawl i bleidleisio. Dwi'n eilio'r hyn a ddywedodd Jane Dodds yn canmol gwaith Maddy a'r criw ifanc sy'n brwydro yn erbyn y Bil yma, yn brwydro dros eu hawliau i bledleisio.
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Lywydd. Credaf i Darren Millar ddweud bedair gwaith ei fod yn siomedig ynghylch fy nghyfraniad. Cefais fy atgoffa am fod yn blentyn pedair oed eto, yn ôl yn swyddfa'r brifathrawes. Ar faterion cyfansoddiadol, os wyf yn siomi Darren Millar, rwy'n credu fy mod yn gwneud rhywbeth yn iawn yn ôl pob tebyg. Yn sicr, ni chefais fy siomi gan eich cyfraniad chi, Darren Millar; nid...
Rhys ab Owen: Ar adeg pan fo'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau yn isel, gydag etholiadau cyffredinol oddeutu 60 y cant, a chyda'r Senedd yn ei chael hi'n anodd cyrraedd 50 y cant, pam y byddem am gyfyngu ar nifer y bobl a'u hatal rhag rhannu eu lleisiau a'u barn gyda ni? Ni ddylai unrhyw un sy'n cefnogi'r Bil hwn—ac rwy'n edrych ar fy ffrindiau sy'n eistedd gyferbyn â mi yn y Siambr fel...
Rhys ab Owen: Mae arbrofion gydag ID pleidleisio wedi dangos bod e'n arwain at lai o bobl yn pleidleisio. Ym mheilot San Steffan yn 2019, o'r 1,000 gafodd eu gwrthod oherwydd diffyg ID, ni ddychwelodd 338—un traean heb ddychwelyd. Mewn peilot arall, ble roedd modd dangos ID ffotograffig neu ddau ddarn o ID penodol heb lun, cafodd 2,000 eu gwrthod. Y tro yma, ni ddychwelodd 750. Nid fy ffigurau i, nid...
Rhys ab Owen: Ar ben hyn, mae'n erydu annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol. Mae cymal 12 yn nodi bod angen i'r comisiwn ddilyn strategaeth a datganiad polisi Llywodraeth San Steffan. Mae hwn yn nodi blaenoriaethau ar faterion etholiadol ac egwyddorion y disgwylir i'r comisiwn eu gweithredu a chael mesur eu perfformiad wedyn yn erbyn y datganiad a grëwyd gan Lywodraeth San Steffan. Yn wir, caiff y Comisiwn...
Rhys ab Owen: Bydd fy nghyfeillion Heledd Fychan, Peredur Owen Griffiths a Sioned Williams yn trafod impact y Bil yma ar ddinasyddion ein gwlad. Hoffwn i ganolbwyntio ar yr effaith ar ein Senedd ni. Er nad yw'r Bil yn effeithio'n uniongyrchol ar etholiadau datganoledig, mae'r impact anuniongyrchol yn hollol blaen i bawb. Yn gyntaf, bydd y Bil yn golygu bod angen ID ar gyfer etholiadau comisiynwyr heddlu....
Rhys ab Owen: Neu, i aralleirio Gerallt Lloyd Owen, 'gwymon o ddyn heb ddal tro'r trai.'
Rhys ab Owen: O leiaf mae Ceidwadwyr yr Alban wedi cwestiynu eu harweinwyr yn San Steffan, ond nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud dim. Maent yn eistedd ar eu dwylo, heb gŵyn na gwrthwynebiad, ac yn parhau'n gwbl ddienw ac yn gwbl amherthnasol yng ngolwg eu meistri yn San Steffan.
Rhys ab Owen: Dyma eich cyfle chi, gyfeillion, i ddweud, 'Digon yw digon.'
Rhys ab Owen: Neu ai dim ond pan ddywed Boris, 'Cyfarthwch' y gwnewch chi gyfarth? Anghofiwch Dilyn, ci Rhif 10 Stryd Downing, am eiliad; eu harweinydd yn y Senedd yw pwdl Johnson, er nad ydynt yn gwybod ei enw. Ond o leiaf cafodd wobr ddoe am fod yn fachgen da.
Rhys ab Owen: Un euogfarn am ddynwared pleidleisiwr yn 2017; dim un yn 2018; dim un yn 2019. Maent yn barod i ddifreinio miliynau o'n dinasyddion ein hunain, eu pleidleiswyr eu hunain, i atal un achos o dwyll pleidleisio. Os oes unrhyw wirionedd yn y dywediad treuliedig ynglŷn â defnyddio gordd i dorri cneuen, mae'n wir yn yr achos hwn. Nid oes cyfiawnhad o gwbl dros yr ymateb llawdrwm hwn. Bydd y...
Rhys ab Owen: Gall yr Aelodau Torïaidd yma siglo eu pennau gymaint ag y maen nhw eisiau. Gallwch ddadlau mai amddiffyn pobl a democratiaeth yw nod Boris Johnson a'i griw, ond mawr obeithiaf fod digon o synnwyr a digon o integriti gyda chi i sylweddoli pa mor ddianghenraid yw cyflwyno ID i bleidleisio. Mae'r achosion o dwyll pleidleisio mor fach.
Rhys ab Owen: Edrychwch ar y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd, ar gamau gweithredu'r Llywodraeth Dorïaidd yn eu cyfanrwydd. Maent am gyfyngu ar brotest, maent am gael gwared ar ddinasyddiaeth pobl heb roi unrhyw gyfiawnhad. Maent am atal ein llysoedd rhag diddymu is-ddeddfwriaeth sy'n anghydnaws â hawliau dynol. Maent am fynd i'r afael â 'chwyddiant hawliau' fel y'i gelwir—sef gormod o hawliau dynol, i...
Rhys ab Owen: Pleidleisio yw sylfaen ein democratiaeth, Ddirprwy Lywydd. Dyna lle mae posibiliadau eithriadol yn dod yn realiti drwy osod croes mewn bocs. Mae wedi arwain at sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol, at greu'r wladwriaeth les a sefydlu ein Senedd genedlaethol. Y blwch pleidleisio yw lle y daw breuddwydion a dyheadau'n wir. Dyna lle y gwneir penderfyniadau am ddyfodol ein gwledydd gan eu...
Rhys ab Owen: Mae angen craffu manwl iawn i ddigwydd cyn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl i bleidleisio, fel cyflwyno ID. Mae eisiau tystiolaeth gadarn sydd wedi ei dadansoddi yn ofalus. Yn sicr, does dim lle i ideoleg ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau. Bydd y Torïaid yn ceisio portreadu hyn fel penderfyniad rhesymol, ond, wrth annerch rheithgor mewn llys barn, byddwn i wastad yn dweud wrthynt i...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. O'r Siartwyr i'r Syffragetiaid, mae pobl yn llythrennol wedi rhoi eu bywydau i sicrhau bod hawl gennym ninnau i bleidleisio ar yr ynysoedd hyn, ac ar hyd y canrifoedd y frwydr fawr oedd i ennill mwy o hawliau, a digwyddodd hynny eto yn ddiweddar yng Nghymru wrth ehangu'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed. Mae unrhyw ymgais i gyfyngu ar yr hawl i...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Fel un o blant y brifddinas, mae wedi bod yn wych gweld y twf yn y defnydd a chlywed y Gymraeg o'n hamgylch ni wrth gerdded strydoedd y ddinas. Fel dywedoch chi, un o uchafbwyntiau'r calendr cymdeithasol yng Nghaerdydd yw gŵyl Tafwyl, ac roedd e'n golled mawr i beidio â'i gweld hi yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig, ond roedd hi'n grêt i'w chael hi y llynedd ac...
Rhys ab Owen: Weinidog, yr wythnos ddiwethaf, trefnodd fy nhîm i gyfarfod diddorol iawn rhwng trigolion Gwaelod-y-garth yng ngogledd-orllewin Caerdydd â Rod King—rŷch chi'n siŵr yn gyfarwydd â'r arbenigwr diogelwch ar y ffyrdd a sylfaenydd y mudiad llwyddiannus iawn 20's Plenty for Us. Er tegwch, roedd Mr King yn llawn canmoliaeth i bolisïau diogelwch ffyrdd Llywodraeth Cymru, ond un pwynt roedd...
Rhys ab Owen: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud y Gymraeg mor hygyrch â phosibl yng Nghaerdydd? OQ57508