Canlyniadau 281–300 o 600 ar gyfer speaker:Jack Sargeant

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth Iechyd Meddwl ( 5 Hyd 2021)

Jack Sargeant: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56952

3. Cwestiynau Amserol: Diogelwch Menywod (29 Med 2021)

Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn am gael fy ngalw, ac rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, am godi'r mater hwn. Ond mae'n peri tristwch fod yn rhaid inni siarad am y materion hyn, er yn iawn ein bod yn gwneud hynny, o ystyried y digwyddiadau diweddar. Nid wyf am ailadrodd yr hyn y mae cyd-Aelodau wedi'i ddweud heddiw, ond Weinidog, rwyf am fod yn gwbl onest ac yn gwbl glir yma: lle dynion yw...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cefnogi Staff y GIG (29 Med 2021)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Weinidog, ac rydych yn llygad eich lle, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr a thu hwnt yn cytuno bod yr aberth a wnaed gan staff rheng flaen gwych y GIG dros y 18 mis diwethaf yn haeddu cael ei gydnabod. Ac nid yn unig am mai dyna yw'r peth iawn i'w wneud, ond hefyd am fod arnom angen iddynt barhau i weithio oherwydd, yn gyntaf, nid yw COVID wedi diflannu, ac yn ail, mae...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (29 Med 2021)

Jack Sargeant: Hoffwn gofnodi, Lywydd, fy mod wedi bod yn aelod o'r tîm prosiect pumed genhedlaeth ym Mhrifysgol Bangor mewn swydd ddi-dâl. Weinidog, mae'r ganolfan prosesu signalau digidol ym Mangor ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd i godi statws Cymru mewn marchnad fyd-eang. Mae Peter Fox yn iawn, rydym yn arwain y ffordd, ond gallem gryfhau ein statws yn y farchnad...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cefnogi Staff y GIG (29 Med 2021)

Jack Sargeant: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff GIG Cymru? OQ56915

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Jack Sargeant: A wnaiff yr Aelod ildio?

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Jack Sargeant: Rwy'n gwerthfawrogi hynny, Gareth. Pan ddarllenoch chi friff Cyngres yr Undebau Llafur, hoffwn wybod a oeddech chi'n ystyried ymuno ag undeb mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]—gan fod yr undebau'n achubiaeth i gymaint o weithwyr a phobl dosbarth gweithiol yng Nghymru.

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Jack Sargeant: Wel, rwy'n falch iawn fod fy ngwaith ar degwch wedi bod o ddiddordeb brwd i'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed. Y broblem sydd gennych ar y meinciau draw yno, fel y dywedais o'r blaen—. Mae eich cyd-Aelod wedi'i roi yn syml yn ei gyfraniad nad yw'n poeni am y gorffennol, dim ond am y dyfodol. Y broblem sydd gennych—[Torri ar draws.] Y broblem sydd gennych gyda hynny yw bod y dadleuon...

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Jack Sargeant: Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. A dywedir yn aml fod i syniadau eu moment—moment mewn amser pan fydd yn gwneud synnwyr inni fynd ar eu trywydd. Nawr, fel rhywun a oedd yn arbenigo mewn rheoli newid yn fy rôl flaenorol fel peiriannydd, fy ngwaith i oedd deall pryd oedd y foment honno a sut i baratoi pobl ar gyfer newid. Dyna fy safbwynt ar y syniad o wythnos waith...

7. Dadl Plaid Cymru: Wythnos waith pedwar diwrnod (22 Med 2021)

Jack Sargeant: Lywydd, rwy'n hapus i gefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru, os teimlant fod angen amser arnynt i gasglu tystiolaeth ac edrych ar dreialon cyn gweithredu, oherwydd rhaid inni wneud hyn yn iawn. Ond dywedaf wrth y Llywodraeth: wrth gefnogi eich llwybr chi mewn perthynas â hyn yn hytrach na mynd yn syth at dreial, byddwn yn disgwyl ymrwymiad gwirioneddol i fwrw ymlaen â hyn, ac i'r gwasanaeth...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Hawliau Gweithwyr (22 Med 2021)

Jack Sargeant: Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac fel yntau, rwy'n aelod balch o undeb llafur. Credaf y dylem i gyd fod, ac rwyf am nodi hynny wrth fy nghyd-Aelodau ar y meinciau cornel. [Chwerthin.] Ond bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod fy mod wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am bwysigrwydd defnyddio'r Bil partneriaeth gymdeithasol i rymuso gweithwyr a chynrychiolwyr...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Hawliau Gweithwyr (22 Med 2021)

Jack Sargeant: 5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sut mae'r setliad datganoli presennol yn galluogi Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau gweithwyr? OQ56861

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Med 2021)

Jack Sargeant: Trefnydd, ddydd Gwener, byddaf i'n bresennol yn nathliad pen-blwydd Tata Steel yn 125 oed yn fy etholaeth i. Mae fy nghymuned wedi'i hadeiladu ar ddur, fel y gwyddoch chi'n iawn, ac rwy'n hynod falch o hynny. Nawr, mae dyfodol cynhyrchu dur yn garbon isel, dur wedi'i gynhyrchu'n lleol, a dylai Shotton Steel fod ar flaen y gad yn y broses honno. A gawn ni ddatganiad, gan Lywodraeth Cymru,...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad at ddiffibrilwyr (15 Med 2021)

Jack Sargeant: Siaradodd arweinydd yr wrthblaid am gonsensws ar ddechrau'r ddadl hon ac rwy'n cytuno: mae angen inni ddod o hyd i gonsensws. Ni fyddwch yn fy nghlywed yn dweud hyn yn aml, ond rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw—[Chwerthin.] Ond Ddirprwy Lywydd, cyfarfûm yn ddiweddar â Mark King o Sefydliad Oliver King, sy'n ymgyrchu dros ddarparu diffibriliwr achub...

4. Datganiadau 90 Eiliad (15 Med 2021)

Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd. Dydd Gwener diwethaf oedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. I lawer ohonom, mae'r diwrnod hwn yn un heriol ond mae'n un sy'n llawn o benderfyniad a gobaith hefyd—gobaith y gallwn, gyda'n gilydd, godi ymwybyddiaeth ynglŷn â sut y gallwn greu byd lle mae llai o bobl yn marw drwy hunanladdiad. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, yn 2018 yn y DU a Gweriniaeth...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (14 Med 2021)

Jack Sargeant: Rwy'n credu, i'w roi ar gofnod, y byddaf i'n datgan fy mod i'n aelod balch o undeb llafur, a byddwn i'n annog pobl yn y Siambr hon, Aelodau yn y Siambr hon, i fyfyrio ar rai o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud yn ystod y cyfraniadau heddiw, oherwydd yn wir, undebau llafur fel Unite Wales yn fy etholaeth i a gefnogodd Airbus ac a achubodd gannoedd o swyddi yn Airbus drwy gydol y pandemig, pan...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (13 Gor 2021)

Jack Sargeant: Sut y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer banc cymunedol yn creu buddsoddiad yng nghymunedau Cymru?

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Meddygon Teulu ( 7 Gor 2021)

Jack Sargeant: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn broblem gynyddol yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac amlygwyd hyn yn yr wythnosau diwethaf—ddwywaith, mewn gwirionedd—ym meddygfa St Mark yng Nghei Connah, lle mae'n amlwg fod yna brinder meddygon, ac yn Queensferry, lle mae practis yn cael ei symud, neu o bosibl yn cael ei symud, i Gei Connah, oherwydd nad...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cefnogaeth i Fusnesau ( 7 Gor 2021)

Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch am y cymorth hyd yma. Weinidog, mae Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru wedi rhoi ffocws cryf ar brentisiaethau, ffaith y dylwn fod yn fwy ymwybodol ohoni na'r rhan fwyaf o bobl oherwydd fy nghyfnod yn gweithio fel peiriannydd. Mae'n rhaid inni hyfforddi'r genhedlaeth nesaf er mwyn sicrhau adferiad gwyrdd ac er mwyn datblygu cynhyrchion gwyrdd y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cefnogaeth i Fusnesau ( 7 Gor 2021)

Jack Sargeant: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56721


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.