Canlyniadau 281–300 o 500 ar gyfer speaker:Mabon ap Gwynfor

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Tai Cymdeithasol ( 3 Mai 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Mae gan y Llywodraeth darged, wrth gwrs, o adeiladu tai cymdeithasol, ac mae eu mawr angen nhw er mwyn mynd i'r afael â'r rhestrau aros ar gyfer tai. Mae yna ddatblygiadau tai yn yr arfaeth ar hyn o bryd, ond mae contractwyr yn ei chael hi'n anodd i ddelifro rhai cytundebau oherwydd y cynnydd aruthrol mewn pris deunyddiau a llafur. Mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Tai Cymdeithasol ( 3 Mai 2022)

Mabon ap Gwynfor: 8. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gynorthwyo'r sector tai cymdeithasol yn wyneb y cynnydd mewn costau adeiladu? OQ57948

8. Dadl Fer: Does unman yn debyg i gartref: Tai amlfeddiannaeth ac ymrymuso cymunedol (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i Peredur am ddod â'r ddadl yma ger ein bron, achos mae e'n un hynod o bwysig, yn enwedig o ystyried yn nifer o'r HMOs sydd gennym ni, os ydych chi'n meddwl am lefydd fath â Bangor, Aberystwyth, Abertawe, Wrecsam, Caerdydd—yr ardaloedd yna lle mae yna brifysgolion—myfyrwyr ydy nifer o'r bobl yma sydd yn byw mewn rhai o'r HMOs yma yn enwedig. Dwi eisiau eich cyfeirio...

6. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob un ohonoch am y cyfraniadau ystyriol ac adeiladol iawn i'r ddadl hon heddiw. Rwy'n cytuno â’r Dirprwy Weinidog pan gyfeiriodd at gyfraniad Janet Finch-Saunders a’i phryder ynghylch nifer y bobl nad ydynt yn cael digon o arian i dalu eu rhent, ac rwy’n falch iawn ei bod bellach wedi sylweddoli bod yna argyfwng, ac y bydd yn cysylltu...

6. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Erbyn hydref y llynedd ac ar draws y 10 awdurdod lleol yr edrychwyd arnynt, dengys ymchwil gan Sefydliad Bevan mai dim ond 3.8 y cant o’r holl eiddo ar y farchnad a hysbysebwyd ar gyfraddau a oedd ar lefel y lwfans tai lleol neu’n is. Roedd y sefyllfa'n fwy difrifol i'r rhai mewn llety a rennir, gydag effeithiau gwaeth i bobl sengl o dan 35 oed heb ddibynyddion. At hynny, canfuwyd nad...

6. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Gadewch inni ddechrau gyda ffaith, rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei wybod. Rydym yng nghanol argyfwng tai ac un o'r argyfyngau costau byw gwaethaf y gallwn ei gofio. Mae’r argyfyngau hyn sy’n ein hwynebu yn rhyng-gysylltiedig. Mae’r argyfwng tai—neu’n hytrach, llawer o’r problemau mwyaf hollbresennol sy’n gysylltiedig â thai—yn gyrru’r argyfwng costau byw, ac yn ei dro,...

6. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw a thai (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau nodi ar y cychwyn fan hyn—neu roi datganiad o ddiddordeb sydd ar y record gyhoeddus. A gaf i hefyd ddweud fy mod i'n nodi mai'r Dirprwy Weinidog sy'n ymateb heddiw, ac ein bod ni oll ar yr ochr yma yn estyn ein meddyliau a'n cydymdeimladau i'r Gweinidog ar adeg anodd iddi hi a'i theulu? Dwi am gynnig y cynnig yn ffurfiol.

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Na wnaf, mae'n ddrwg gennyf. Mae'r busnesau hyn yn galw am help yn awr—[Torri ar draws.]—ac mae'r Torïaid yn troi eu cefnau.

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi ysgrifennu at Rishi Sunak ac wedi gofyn iddo wrthdroi'r toriadau niweidiol. Tybed a wnewch chi ymuno â mi ac ysgrifennu at Rishi Sunak hefyd i'w annog i wrthdroi'r toriadau hyn.  Mae'r Torïaid yn gywir i ddweud bod twristiaeth yn sector pwysig, a'i fod angen ein cefnogaeth. Mae arnom angen sector cynaliadwy, un sydd o fudd i bob cymuned ac sy'n sicrhau...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Na, wnaf i ddim cymryd un y tro yma, mae'n flin gennyf fi, â phob parch. 

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Nid wyf am dderbyn ymyriad yn y cyfraniad hwn, mae'n ddrwg gennyf, Andrew. Rwyf weithiau'n anobeithio ynghylch tactegau'r Blaid Geidwadol. Mae'r cynnig hwn yn cyfeirio at y posibilrwydd o ardoll dwristiaeth, a'r cyfan y mae'n ei wneud yw tynnu sylw oddi ar fethiannau eich plaid eich hun i lawr y lôn, yr M4, yn Llundain bell. Nid yw'r dagrau crocodeil a welwn gan y Ceidwadwyr yn twyllo neb....

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Dwi'n gwaredu, mae'n rhaid dweud, weithiau, pan dwi'n gweld cynigion y Ceidwadwyr sy'n dod ger ein bron. Mae'r cynnig yma'n dangos nad oes gan y grŵp yna unrhyw ddiddordeb mewn cyfrannu'n adeiladol, ond yn hytrach yn trafod potensial hwyrach fod yna dreth yn mynd i fod rhywbryd yn y dyfodol. Mae yna ymgynghoriad yn mynd i fod, does yna ddim sicrwydd am y peth, ond dyna ni, rydyn ni'n...

3. Cwestiynau Amserol: Taliadau Bonws ar gyfer Gweithwyr Gofal (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ddod yma a rhoi'r ateb. Ond y gwir ydy bod yna sawl person wedi cysylltu efo fi ac eraill yma dros yr wythnosau diwethaf yn cwyno ac yn pryderu'n arw eu bod nhw wedi cael eu heithrio o'r bonws yma. Yn wir, maen nhw'n dweud bellach bod yna ddwy haen yn y gweithlu yn y cartrefi gofal a'u bod nhw, fel gweithwyr atodol, yn teimlo'n eilradd. Y gwir ydy bod yna—. Ar...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Fel y gwyddom, mae'r sector yn hanfodol ar gyfer ein diogeledd bwyd. Fel y nodwyd gennym, mae ganddo botensial aruthrol. Fodd bynnag, fel sectorau eraill, mae'r sector hwn hefyd yn dioddef canlyniadau'r amryfal argyfyngau sy'n wynebu cymdeithas heddiw. Mae'r fflyd bysgota yn gorfod gwneud llai o deithiau yr wythnos, neu'n gorfod canolbwyntio ar yr ardal yn agos at y lan gan fod yn rhaid...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Dwi'n siŵr y bydd yr ateb yna yn rhoi gobaith o leiaf i rai yn y sector.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am barhau â chwestiwn cyntaf Sam Kurtz, os caf i.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (27 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Mae ffigurau swyddogol ar laniadau fflyd Cymru yn awgrymu bod fflyd bysgota Cymru bellach ar drai peryglus o isel, ac os bydd y trywydd presennol yn parhau, mae mewn perygl o ddiflannu’n fuan. Yn gyffredinol, mae glaniadau cychod o Gymru wedi gostwng o uchafbwynt o 11,300 yn 2017 i bron i chwarter hynny, ychydig dros 3,000 y llynedd. Mae hwnnw'n ostyngiad enfawr o bron i 75 y cant yn nifer...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (26 Ebr 2022)

Mabon ap Gwynfor: Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf: gaf i ofyn am ddatganiad ar unrhyw gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella atebolrwydd democrataidd yn ein byrddau iechyd? Byddwch chi'n gwybod bod yna newidiadau sylweddol wedi bod yn y byrddau iechyd tua 10 mlynedd yn ôl. Fe ddaru ni weld, er enghraifft, cartref gofal Dryll y Car yn Llanaber yn cau, yn colli wyth o welyau ar...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr (30 Maw 2022)

Mabon ap Gwynfor: Dwi am ganolbwyntio ar un elfen o'r cynnig, sef e-bresgreibio. Mae dadlau am systemau technoleg gwybodaeth o fewn iechyd yn un o'r pethau anacronistaidd yma, onid ydy? Mae'r sector iechyd yn torri tir newydd yn ddyddiol bron efo technoleg, ond eto mae systemau IT yn dal i fodoli yn chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Mae rhai meddygfeydd yn parhau i fod yn ddibynnol ar beiriannau ffacs. Rŵan,...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Diwallu'r Angen am Dai (30 Maw 2022)

Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hwnna. Dwi'n croesawu'r cynnydd sydd wedi cael ei weld yn y gyllideb tuag at dai cymdeithasol. Os ydyn ni i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, yna mae'n rhaid, wrth gwrs, wrth rhagor o dai cymdeithasol, ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn addas i bwrpas. Dwi wedi mynd i weld nifer fawr o etholwyr yn ddiweddar sydd yn gorfod byw mewn tai...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.