Siân Gwenllian: 8. Pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gydag awdurdodau cyhoeddus a'r sector gyfreithiol ynghylch cyfraniad y gyfraith at wireddu strategaeth 2050? OQ55556
Siân Gwenllian: A wnewch chi ymuno efo fi i fynegi pryder mawr am y syniad yma, sydd, mae'n debyg, yn dod gan un gŵr a heb gefnogaeth o unman yn Eryri? Mae'r amaethwyr yn poeni y byddai eryrod yn bwyta eu stoc, ac mae pryder am yr effaith ar fioamrywiaeth gan nad oes yna ddigon o gynhaliaeth yn yr ardal ar gyfer eryrod. Dywed y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar y byddai angen cefnogaeth eang cymunedau...
Siân Gwenllian: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i ailgyflwyno eryrod i Eryri? OQ55521
Siân Gwenllian: Diolch am y datganiad. Hoffwn innau hefyd ddiolch yn fawr iawn i bawb sy'n ceisio sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc ni yn gallu dychwelyd at eu haddysg mewn ffordd ddiogel, sydd yn her enfawr, wrth gwrs, yn enwedig wrth inni weld achosion positif o'r COVID ar gynnydd ymhlith ein plant a'n pobl ifanc ni, efo dwsinau o ysgolion wedi cael eu heffeithio yn barod gan yr argyfwng coronafeirws. ...
Siân Gwenllian: Er yn cydnabod bod cau ysgolion wedi bod yn rhan angenrheidiol o reoli'r pandemig, roedd consensws clir ymhlith y tystion i'r pwyllgor fod effaith peidio â bod yn yr ysgol ar lesiant lawer o blant yn un sylweddol. Mae Hefin David newydd ddisgrifio ei brofiad o a'i blant o yn glir iawn, a bydd eraill ar draws Cymru wedi wynebu bob math o heriau. Barn y tystion i'r pwyllgor oedd y dylid rhoi...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn fodlon derbyn gwelliant Plaid Cymru—dechrau da iawn i'r ddadl y prynhawn yma. Mae'n gwelliant ni yn ymwneud efo gorfodaeth ac yn galw ar y Llywodraeth i osod allan ei chynigion o ran gorfodaeth ac o ran adnoddau i'r asiantau gorfodaeth fel rhan o'r ymgynghoriad fydd yn digwydd. Mi ydym ni o blaid cyflwyno...
Siân Gwenllian: A gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn ag arian i'r celfyddydau? Mae pryderon mawr wedi codi am y £59 miliwn a gyhoeddwyd ac a adroddwyd yn eang wythnos diwethaf. Mae'n ymddangos bellach nad ydy'r swm yma ar gael, ac nad oes yna ddim byd yn agos at y swm yma ar gael i sector y celfyddydau yng Nghymru wedi'r cwbl. Mae angen eglurer. I ddechrau, faint o arian fydd ar gael i'r sector? Yn ail, sut...
Siân Gwenllian: Yn sicr, mae cyhoeddi'r Bil drafft yn garreg filltir bwysig ac, fel dywedodd y comisiynydd plant yr wythnos yma, mae'n rhaid inni edrych ar y cwricwlwm newydd fel addewid i bob plentyn yng Nghymru, ac, wrth greu'r addewid yma, mae yna ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Senedd yma i graffu ar y ddeddfwriaeth newydd yn ofalus iawn er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol ac er mwyn gwneud yn...
Siân Gwenllian: O'r diwedd, fe ddaeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog diwylliant yn Lloegr am arian i'r celfyddydau yng Nghymru. Mae'n rhwystredig gorfod disgwyl am gyhoeddiadau fel hyn cyn y caiff Llywodraeth Cymru weithredu. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny. A wnewch chi symud ymlaen yn ddioed i sefydlu tasglu, i gynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector, er mwyn sicrhau cynllun gweithredu i...
Siân Gwenllian: Diolch. Tri deg miliwn—dydy hynny ddim yn mynd i fynd yn bell iawn, er gwaethaf rhyw gyhoeddiadau mawr a oedd yn cael eu gwneud gan y Torïaid yn Lloegr yn ddiweddar. Y bwlch digidol: dyma fater arall sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y pandemig—yr anfantais ddigidol y mae rhai myfyrwyr, disgyblion yn dioddef o ran dyfeisiadau a chysylltedd. Mae un arolwg dwi wedi ei weld yn ddiweddar gan...
Siân Gwenllian: Mi fydd penaethiaid yn falch iawn o glywed bod yna wybodaeth yn dod, ond mae hi'n hwyr iawn yn y dydd; dim ond wythnos sydd gan yr ysgolion ar ôl i baratoi. Yn edrych ymlaen i fis Medi, beth fydd eich cynlluniau chi i wneud yn siŵr na fydd y bwlch cyrhaeddiad yn lledaenu yn sgîl yr argyfwng? Fydd yr arian sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei...
Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd, a diolch i'r Gweinidog Addysg am fod yn fodlon cyfarfod yn rhithiol bob wythnos yn ystod cyfnod yr argyfwng. Mae wedi bod yn fendithiol iawn, dwi'n credu, ein bod ni wedi gallu cynnal y cyfarfodydd yna a'r drafodaeth yna. Maddeuwch i fi, ond dwi yn mynd i fynd yn ôl at fater yr ysgolion a mis Medi, oherwydd mae hwn yn dal yn rhywbeth sy'n fyw iawn ym meddwl penaethiaid,...
Siân Gwenllian: Gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog plant a gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â chynlluniau chwarae plant oedran ysgol dros wyliau'r haf? Tra'n croesawu'r ffaith y bydd yna ddarpariaeth ar gyfer plant bregus, mae'n siomedig iawn na fydd yna lefydd ar gael i blant gweithwyr allweddol. Mae gwaith rhieni y plant yma yn parhau i fod yn gwbl greiddiol i'r...
Siân Gwenllian: Buaswn i'n licio diolch i'ch Llywodraeth chi am fod mor barod i roi help ac i gefnogi'r cynnig amgen gan y gweithlu ym Mhenygroes, ond yn anffodus, fel rydych chi'n dweud, mae'r cwmni wedi gwrthod y cynnig hwnnw am resymau masnachol ac maen nhw'n bwrw ymlaen i ddiswyddo'r 94 gweithiwr, sydd yn ergyd anferth. Ond mae'n rhaid i ni ddal ati i ganfod defnydd arall ar gyfer y safle, felly diolch...
Siân Gwenllian: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ein diweddaru am drafodaethau’r Llywodraeth ynglyn a’r 94 swydd sydd dan fygythiad yn ffactri Northwood Hygiene Products ym Mhenygroes yn etholaeth Arfon? OQ55424
Siân Gwenllian: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gefnogaeth fydd ar gael i'r celfyddydau yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi pecyn i gefnogi'r sector ymdopi ag effeithiau COVID-19? TQ466
Siân Gwenllian: Yn erbyn.
Siân Gwenllian: Yn erbyn.
Siân Gwenllian: Yn erbyn.
Siân Gwenllian: Yn erbyn.