Heledd Fychan: Wrth gwrs y gwnaf.
Heledd Fychan: Yn sicr. Credaf y dylai unrhyw Lywodraeth allu bod yn atebol, ac mae wedi bod yn Llywodraeth y DU. Ond ar hyn o bryd, eich Llywodraeth Geidwadol chi sydd yno, ac mae ganddynt gyfle i unioni hyn.
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Ar thema debyg, cyfeiriodd Samuel Kurtz at ei etholwr yn gynharach, gan ddisgrifio ADY fel 'loteri cod post', ac fel y gwyddoch yn iawn, un o nodau craidd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw system ddwyieithog. Codwyd pryderon yn ystod taith y Ddeddf drwy'r Senedd, yn bennaf ynghylch argaeledd gwasanaethau ADY drwy gyfrwng y Gymraeg a...
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Weinidog, mae adroddiad blynyddol diweddaraf 'Cymraeg 2050', a gyhoeddwyd mis diwethaf, yn nodi bod yna bellach 19 o ganolfannau trochi a thair canolfan uwchradd ar draws 10 sir yng Nghymru, gyda siroedd yn darparu cymorth trochi hwyr i ddysgwyr o ystod o oedrannau. Hefyd, mis diwethaf, cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig o ran addysg drochi Cymraeg, ac mae hwn yn rhestri'r...
Heledd Fychan: Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol addysg uwch?
Heledd Fychan: Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Mae'n ymwneud â gwasanaethau post sy'n cael eu darparu gan y Post Brenhinol a sut y gall Llywodraeth Cymru bwyso arno i wella gwasanaethau. Mae'n fater yr wyf i wedi gohebu'n flaenorol â'r Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol ynghylch, gan fy mod i'n gwybod ei bod hi'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Post Brenhinol, ac mae...
Heledd Fychan: Mawr obeithiaf, felly, fy mod wedi argyhoeddi'r Dirprwy Weinidog heddiw o werth edrych yn bellach i mewn i'r mater hwn a'r manteision a fyddai'n dod i'n cymunedau ni yn sgil sefydlu fforwm llifogydd i Gymru.
Heledd Fychan: Mae Fforwm Llifogydd yr Alban yn elusen a sefydlwyd yn 2009, ac fe'i hariennir yn bennaf gan Lywodraeth yr Alban, gan dderbyn £200,000 y flwyddyn, gyda rhoddion ychwanegol a grantiau bach eraill. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth yr Alban cyn mynd ymlaen i fod yn elusen—model y gallem ei efelychu yng Nghymru. Mae'n gweithio ochr yn ochr â chymunedau sy'n wynebu perygl llifogydd i...
Heledd Fychan: Pam mae angen fforwm o'r fath? Yn Lloegr a'r Alban mae fforymau llifogydd sefydledig sy'n cefnogi ac yn cynnig cymorth ymarferol i'r rhai sydd ei angen. Tra bod peth cefnogaeth ar gael yng Nghymru—peth drwy rai cynghorau sir neu drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, neu drwy'r National Flood Forum os yw'n cael ei ariannu i weithio mewn ardal—teg dweud mai eithaf ad hoc ac anghyson yw hyn ar y...
Heledd Fychan: Rwyf wedi casglu tystiolaethau dirifedi gan y rhai y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, a chan fod gennym amser heddiw, hoffwn ddarllen tri dyfyniad yn llawn, gan gynnwys y cyntaf, sy'n dod gan un o drigolion Rhondda Cynon Taf chwe mis ar ôl llifogydd 2020, sy'n dangos yr effaith emosiynol a seicolegol: 'Rwy'n teimlo'n onest fod y profiad hwn wedi fy ngwthio at yr erchwyn. Mae wedi bod yn...
Heledd Fychan: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Edrychaf ymlaen heddiw, gobeithio, at argyhoeddi'r Senedd o fanteision sefydlu fforwm llifogydd i Gymru. Mae John Griffiths, Delyth Jewell a Llyr Gruffydd wedi gofyn am funud o amser yr un fel rhan o'r ddadl, a byddaf yn sicrhau bod amser iddynt gyfrannu ar ddiwedd fy araith heddiw. Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi dioddef llifogydd neu sydd wedi ymweld ag unrhyw eiddo...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Os byddwch chi'n dilyn rhesymeg y Ceidwadwyr, yna nid oes angen unrhyw gyfreithiau arnom o gwbl. Rwy'n anghytuno â hynny, ac rwy'n credu os oes gennym ni ddeddfau i amddiffyn oedolion, yna dylem ni gael deddfau i amddiffyn plant, ac rwy'n falch o allu nodi bod cosbi plant yn gorfforol bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru ar ôl i'r gyfraith newydd ddod i rym ddoe. Ac...
Heledd Fychan: Mi wnaethoch chi sôn, Weinidog,
Heledd Fychan: mae ein dysgwyr ni'n haeddu'r gorau, ac yn haeddu gallu cael gafael ar y gorau a'i ddefnyddio hefyd.
Heledd Fychan: Rwy'n cytuno'n llwyr efo hynny, ac, wrth gwrs, yn croesawu unrhyw fuddsoddiad sydd yn mynd tuag at hynny. Ond, fel roeddwn i'n ei ddweud, mae'n rhaid i bob disgybl fedru manteisio ar hynny, a rhaid hefyd eu bod nhw'n gallu manteisio ar hyn yn y ddwy iaith. Ar y funud, dydy hynny ddim yn wir. Rydyn ni'n gwybod o wrando ar ein plant a'n pobl ifanc ni eu bod nhw ddim yn gallu cael mynediad i...
Heledd Fychan: Yn gyntaf oll, gan gydnabod yr angen i godi safonau addysg, mae hi'n amlwg hefyd fod angen adfer addysg ar ôl COVID, fel soniodd ein cyd-Aelod Laura Jones. Collwyd oriau lawer iawn o addysg eisoes, felly mae angen rhywfaint o adferiad cyn gwella safonau mewn gwirionedd. Fe wn i fod rhywfaint o fuddsoddiad wedi cael ei wneud, ond mae athrawon a rhieni wedi dweud wrthyf bod ysgolion wedi ei...
Heledd Fychan: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog am eich datganiad heddiw. Yn debyg iawn i Laura Jones, dwi'n meddwl bod rhaid i ni gydnabod y trawma parhaus i'n plant a'n pobl ifanc ni. Dydy'r pandemig ddim drosodd. Rydyn ni'n gweld niferoedd uchel o athrawon a phlant a phobl ifanc ddim yn yr ysgolion ar y funud, bod y sefyllfa yn parhau felly, a'n bod ni ddim eto yn y cyfnod lle rydyn ni'n...
Heledd Fychan: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Pam ein bod ni yma fel Aelodau'r Senedd os nad ydym yn gwneud hyn yn iawn? Wedi'r cyfan, mae gwleidyddion wedi bod yma o'r blaen. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom yn cofio'r targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020—rhywbeth a oedd wrth wraidd ymgyrch etholiadol 1997 i'r Llywodraeth Lafur, ac a gadarnhawyd bryd hynny gan Tony Blair yn 2002 a'i fabwysiadu gan...
Heledd Fychan: Hoffwn gysylltu fy hun efo'r sylwadau gafodd eu gwneud gan Alun Davies a'r Gweinidog. Yn sicr, mae hyn yn ddewis gwleidyddol, a fedrwn ni ddim osgoi'r ffaith, ac mae'n rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb os ydych chi'n gwneud penderfyniadau gwleidyddol sydd yn amharu ar yr argyfwng costau byw. Fis diwethaf, trefnais uwchgynhadledd costau byw ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru yn Nhrefforest, gan...
Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu yn fawr gyhoeddiad heddiw, sy’n deillio o’r cytundeb rhwng ein pleidiau. Tan i chi weld effaith llifogydd ar gartrefi a chymunedau, dwi'n meddwl ei bod yn amhosibl dirnad yr effaith nid yn unig yn syth wedi llifogydd, ond hefyd o ran y rhai sydd wedi eu heffeithio am flynyddoedd a degawdau wedi hynny. Mae'r trawma yn un parhaus, ac mae pobl yn dal i...