Hefin David: Mynegwyd pryderon i mi, mewn e-byst a llythyrau, gan etholwyr sy'n poeni am barcio ar balmentydd. Mae llawer o ddatblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu gyda cherbytffyrdd cul iawn a heb ddigon o le i geir. Mae hynny'n wir mewn perthynas ag un o ddatblygiadau Redrow yn fy etholaeth, Cwm Calon, sy'n ddatblygiad cymharol newydd, ac nid oes gan bobl unrhyw ddewis ond parcio ar y palmentydd...
Hefin David: 2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wahardd parcio ar balmentydd yng Nghymru? OAQ54962
Hefin David: Yn y dystiolaeth a roddodd y Gweinidog i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, gwnaeth ymrwymiad cyllidebol clir i sicrhau £15 miliwn o wariant ar gyfer gweithredu, yn benodol, argymhelliad 2 yn adolygiad Reid. Ond roedd argymhelliad 2 yn adolygiad Reid yn argymell £30 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i gymell ymchwilwyr i sicrhau mwy o gyllid gan fusnesau ac o'r tu...
Hefin David: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Adolygiad Reid? OAQ54918
Hefin David: Ond yr hyn a wnaethoch oedd y peth iawn i'w wneud—roeddech yn Aelod Cynulliad newydd ac roeddech yn cyflwyno'ch hun i bobl yn Nelson. Ond mae'r bobl yn Nelson wedi drysu—roeddent yn credu bod yna Aelod Cynulliad newydd a fy mod i, rywsut, wedi rhoi'r gorau iddi. Nid oedd pobl yn deall bod ganddynt fwy nag un Aelod Cynulliad yn eu cynrychioli gyda'r system ddeuol hon. Nid yw'r system...
Hefin David: Fe ymunaf ag Aelodau eraill yn y Siambr i ddweud pobl mor hyfryd yw'r Ceidwadwyr a pha mor wych fyddai eu gweld yn ymwneud â hyn. Llyr, peidiwch â dweud, 'Peidiwch â mynd mor bell â hynny'—rwy'n credu y byddai'n beth da iawn pe baent yn cymryd rhan. [Chwerthin.] Lywydd, fe ddefnyddiaf eich geiriau chi i'r pwyllgor, ac mae'r Cadeirydd eisoes wedi sôn am hyn. Fe ddywedoch chi am ASau San...
Hefin David: Nid wyf am gymryd rhan yn y ddadl fetaffisegol bron a gafwyd am natur foesegol y Bil, ond byddaf yn cefnogi'r hyn sydd wedi cael ei ddweud gan Llyr Gruffydd a David Rowlands am y ffaith bod angen y lefel honno o reoleiddio ar anifeiliaid sy'n teithio gyda'r syrcasau. Rwy'n cytuno â hynny ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen ei gryfhau yn y Bil. Achubodd Llyr y blaen arnaf. Roeddwn...
Hefin David: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Hefin David: A gaf fi ddweud fy mod i wedi mynegi'r pryder hwnnw gydag argymhelliad 6 yn fy araith? Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi tawelu fy meddwl, felly diolch. Ac mae'n braf—. Rwy'n credu bod hynny'n werth ei gofnodi.
Hefin David: Roeddwn i'n mynd i ddweud yn gyflym: nid wyf yn cofio Banc Cambria yn awgrymu eu bod angen rhagor gan Lywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn rwy'n ei gofio.
Hefin David: —fod hwn yn un o'r adroddiadau mwyaf pleserus rwyf wedi ymwneud ag ef ac mae'n amserol ei fod yn cael ei gyflwyno ar yr adeg hon o'r tymor i orffen y tymor hwn mewn modd adeiladol. Nadolig llawen, Ddirprwy Lywydd, i chi ac i bawb arall yn y Siambr hon.
Hefin David: Ie. Mae angen imi gymryd ychydig o gamau yn ôl yn yr hyn roeddwn yn ei ddweud, i fynd yn ôl at y pwynt hwnnw. Yn rhyfedd ddigon, yn yr adroddiad lle roedd Llywodraeth Cymru'n gwerthuso'r fframwaith hwnnw, gwnaethant yr union bwynt hwnnw—eu bod yn aros i weld sut y byddai hynny'n datblygu cyn gwneud argymhellion pellach am y gronfa. Felly, ydw, rwy'n credu ei bod yn bryd inni edrych ar sut...
Hefin David: Un o'r cymhellion i ni gynnwys ein hunain yn yr ymchwiliad hwn yw ein bod ni i gyd wedi gweld canghennau o fanciau'n cau. Rwyf eisiau sefyll dros gymunedau fel Nelson, a welodd fanc Barclays yn cau; Ystrad Mynach, a welodd fanc Nat West yn cau; a Bargoed, y gymuned fwyaf gogleddol yn fy etholaeth, yr un sydd â'r angen mwyaf am dwf yng nghanol y dref, a welodd fanc HSBC yn cau, ac yn...
Hefin David: A wnewch chi dderbyn ymyriad byr?
Hefin David: O'r dystiolaeth a gawsom, a fyddai hefyd yn cofio, pan oeddem yn sôn am ganghennau swyddfa'r post, mai un o'r darnau o dystiolaeth a gawsom oedd bod canghennau swyddfa'r post yn arbennig o anaddas ar gyfer gweithgarwch busnesau bach a microfusnesau yn enwedig? Roedd yn un o'r pethau a ddywedwyd wrthym.
Hefin David: Cawsom y newyddion yr haf yma gan Stagecoach eu bod nhw'n bwriadu terfynu'r gwasanaeth rhif 25, sy'n rhedeg o Gaerffili i ysbyty'r Mynydd Bychan, heibio i amlosgfa Thornhill. Ar ôl gweithio gyda mwy na 300 o drigolion, a Wayne David, llwyddasom i berswadio Stagecoach i ailgyflwyno'r gwasanaeth bob awr, o fis Ionawr, fel treial am chwe mis. Roedd hyn o ganlyniad i bwysau gan drigolion a chan...
Hefin David: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru? OAQ54848
Hefin David: Yn dilyn trafodaethau gydag etholwyr ynghylch y defnydd o'r rheilffordd ac yn dilyn y ddadl a gawsom bythefnos yn ôl, cyfarfûm â swyddogion Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i drafod rhai o'r problemau gorlenwi a rhai o'r problemau gyda gwasanaethau. A buom hefyd yn siarad am randdirymu Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, ac o ganlyniad i hynny, gan nad yw'r Senedd yn eistedd ar...
Hefin David: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth cerbydau ar y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd? OAQ54785
Hefin David: Bydd y Gweinidog yn ymwybodol imi gyfarfod â phractis Gelligaer i drafod cau meddygfa'r Gilfach, ac un o'r materion a godwyd ganddynt oedd nad prinder meddygon teulu yn yr ardal yn unig oedd yn peri iddynt frwydro yn erbyn dull y Llywodraeth o ran y model gofal sylfaenol, ond hefyd prinder gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd meddwl, parafeddygon, a'r gweddill. Felly, mae'r ymgyrch...