Peter Fox: Rwy'n cydnabod bod nifer o bethau o ganlyniad i'r pandemig sy'n rhoi pwysau ar incwm pobl, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i bob Llywodraeth gydweithio arno i fynd i'r afael ag ef. Prif Weinidog, rwyf eisiau gofyn beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu pobl sydd mewn caledi ariannol. Mae Llywodraeth Cymru, er tegwch, yn darparu nifer o gynlluniau cymorth i ategu'r rhai a...
Peter Fox: Diolch ichi am ateb cwestiynau, Brif Weinidog. Fel y gwyddom, mae Llywodraeth y DU wedi darparu bron i £9 biliwn i fynd i'r afael â COVID-19 yng Nghymru hyd yma, a gwyddom fod £270 miliwn ychwanegol yn dod i Gymru i'w wario ar ymgyrch y pigiadau atgyfnerthu a'r cymorth ariannol i fusnesau. Sylwaf hefyd fod Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud bod gan y Llywodraeth tua £500 miliwn o...
Peter Fox: I gadarnhau, bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, a siaradaf yn y ddadl hon heddiw fel rhywun sy'n aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Yn hynny o beth, a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei ddatganiad agoriadol, ond hefyd am ei arweiniad i'r pwyllgor? Mae'n wych gweithio gyda chi, Huw. Yn aml, mae cysylltiadau rhynglywodraethol...
Peter Fox: Ar ran cymunedau Porthysgewin a Sudbrook yn ne sir Fynwy, hoffwn dalu teyrnged i was sifil rhagorol. Mae Anthony Griffiths wedi rhoi rhan enfawr o'i fywyd i'w gymunedau. Bu'n gynghorydd cymuned ers dros 51 mlynedd cyn ymddeol o waith cymunedol y mis diwethaf. Mae Tony wedi bod yn llawer mwy na chynghorydd cymuned yn unig—mae'n gyfaill, yn gefnogwr, yn eiriolwr, ac yn ddyn y gellir dibynnu...
Peter Fox: Diolch am hynny, unwaith eto, Weinidog. Credaf fod y gorwariant y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu gyda gofal plant ac oedolion oddeutu £50 miliwn ar hyn o bryd. Gan symud ymlaen at fy mhwynt olaf, Weinidog, bydd y cyfnod ansicr rydym yn ei wynebu unwaith eto yn gwaethygu'r problemau y mae teuluoedd ledled Cymru eisoes yn eu hwynebu. Nawr, gwn fod hwn yn fater sy'n ymwneud â phob rhan o'r...
Peter Fox: Diolch am eich ymatebion, ac mae'n swnio fel pe gallai fod rhywfaint o newyddion cadarnhaol. Rwy'n siŵr nad wyf am gael llawer o wybodaeth gennych am y gyllideb, ond rwyf am geisio. Felly, diolch am eich ymateb. Wrth gwrs, nid yr economi yn unig sy'n wynebu cyfnod ansicr, ond ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Mae llawer o bwysau eisoes, fel y gŵyr pob un ohonom. Nid oes ond...
Peter Fox: Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Weinidog, yn anffodus, mae ymddangosiad diweddar amrywiolyn omicron wedi creu mwy o ansicrwydd i bob un ohonom. Ac er fy mod yn mawr obeithio fel arall, mae ychydig fisoedd anodd o'n blaenau o bosibl. Yn ddealladwy, mae llywodraethau a gwyddonwyr yn ceisio deall goblygiadau'r amrywiolyn i iechyd y cyhoedd, ond mae sôn am gyfyngiadau ar y gorwel yn...
Peter Fox: Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i gefnogi awdurdodau lleol i gynyddu bioamrywiaeth wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd?
Peter Fox: Diolch i chi, Gweinidog. Mae hwnnw'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n diolch i chi am eich ymrwymiad i wneud hyn yn iawn. Nid mater gwleidyddol yw hwn; mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn dymuno ymdrin ag ef a'i wneud yn well i'r trigolion sydd wedi bod yn dioddef cymaint. Rwy'n cydnabod y gwaith da y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud i ymdrin â hyn. Fel y...
Peter Fox: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog. Diolch am y datganiad a diolch i'ch swyddogion am eu briff technegol ddoe yn ein cyd-bwyllgor. Roedd yn ddefnyddiol iawn ac yn ddiddorol iawn. Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â chi; mae prosesau cyllidebol a threthiant yn bethau cymhleth iawn, ac nid yw'r cymhlethdod hwn ond wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'n iawn, felly, i...
Peter Fox: Diolch, Prif Weinidog. Anfonodd aelodau'r Senedd neges glir iawn fis diwethaf yn ystod fy nadl, pryd y gwnaethon nhw bleidleisio â mwyafrif llethol i ddod â'r broses addasu annheg bresennol i ben lle mae dioddefwyr MND yn gaeth mewn cartrefi na ellir dianc ohonyn nhw am nad ydyn nhw'n gallu cael y cymorth angenrheidiol mewn pryd. Mae dioddefwyr MND yn glir bod angen disodli'r system...
Peter Fox: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor? OQ57374
Peter Fox: Diolch i Blaid Cymru a Luke Fletcher am gyflwyno'r ddadl heddiw. Os caf, hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad i ehangu cwmpas y cynnig gwreiddiol i ffwrdd o effaith costau byw ar dlodi bwyd yn unig. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried yr ystod eang o ffactorau economaidd-gymdeithasol a all ddylanwadu ar allu person i gael gafael ar fwyd a pha fwyd y gallant ei gael, a'r pwynt olaf un a wneuthum yw'r...
Peter Fox: Diolch am eich ymateb. Weinidog, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, rwy’n angerddol iawn am yr angen i gryfhau’r system fwyd yng Nghymru ac i ddatgloi'r buddion economaidd-gymdeithasol y gall mynediad at ddeiet da eu cynnig. Rhan bwysig o'r ymgyrch hon yw sicrhau bod gan bobl y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i leihau'r ddibyniaeth ar bethau fel bwyd brys ac i helpu pobl i...
Peter Fox: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r cwricwlwm newydd yng Nghymru? OQ57316
Peter Fox: Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn ar fai yn y sesiwn ddiwethaf am beidio â datgan buddiant a minnau'n gynghorydd sir i Gyngor Sir Fynwy, felly hoffwn wneud hynny nawr. Diolch.
Peter Fox: —mewn ffordd ystyriol. Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd. Felly, Gweinidog, edrychaf ymlaen at y datganiad ym mis Chwefror, ac edrychaf ymlaen at ddeall sut y byddwch yn gweithio'n well gyda chynghorau i newid y system dreth gyngor honno. Diolch.
Peter Fox: Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Rwy'n credu, fel yr ydym ni i gyd wedi clywed heddiw, fod pawb wedi croesawu'r cyfle i ailedrych ar y dreth gyngor. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gytûn nad yw'n dreth arbennig o dda, ac rydym wedi gweld hynny o'r nifer enfawr o ôl-ddyledion a welsom dros y blynyddoedd, sydd wedi cynyddu 42 y cant i werth dros £156 miliwn o ôl-ddyledion. Felly, rwy'n credu...
Peter Fox: Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb yna. Yn ddiweddar, cefais y pleser o drafod fy Mil bwyd arfaethedig gydag aelodau Câr-y-Môr, cymdeithas budd cymunedol, y bydd fy nghyd-Aelodau yn y gorllewin yn gwbl ymwybodol ohoni. Y mae'n eiddo i dros 100 o aelodau lleol, ond yn canolbwyntio ar wasanaethu buddiannau ehangach eu cymuned leol. Roedd yn wych clywed am eu cynlluniau a sut y mae eu gwaith...
Peter Fox: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad cymdeithasau budd cymunedol? OQ57315