Carolyn Thomas: Yn y Llywodraeth ddiwethaf, cyflwynais ddeiseb i'r Pwyllgor Deisebau yn cynnwys oddeutu 3,700 o lofnodion, gyda nodyn eglurhaol yn esbonio ei fod yn fater gofal iechyd cymdeithasol yn ogystal â mater trafnidiaeth a'r economi. Fel cyn aelod cabinet awdurdod lleol dros drafnidiaeth, anerchais gyfarfodydd llawn o drigolion gofidus yn pryderu ynglŷn â cholli gwasanaeth, gyda rhai ohonynt yn eu...
Carolyn Thomas: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae cytuno 'o ran egwyddor' ar y cytundeb masnach rydd newydd gydag Awstralia, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, yn gwneud cam â ffermwyr Prydain yn yr un modd ag y mae wedi gwneud cam â diwydiant pysgota Prydain. Byddai'n caniatáu i Awstralia gynyddu ei lefelau allforio cig eidion i'r DU fwy na 60 gwaith y lefelau yn 2020 yn y flwyddyn gyntaf, cyn y...
Carolyn Thomas: 2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cytundeb masnach amlinellol diweddar rhwng Llywodraeth y DU ac Awstralia ar ffermwyr cig eidion a chig oen yng Ngogledd Cymru? OQ56634
Carolyn Thomas: Gweinidog, rwyf mor falch ag unrhyw un arall bod Llywodraeth Cymru yn rhoi newid yn yr hinsawdd wrth wraidd ei rhaglen lywodraethu. Rhaid i benderfyniadau a wneir heddiw ystyried yr effaith y byddant yn ei chael ar genedlaethau yfory. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod pob agwedd a goblygiadau'n cael eu hystyried wrth benderfynu a fydd prosiectau adeiladu ffyrdd yn mynd...
Carolyn Thomas: Hoffwn longyfarch y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog. Mae gennych bortffolio enfawr, ac un diddorol iawn hefyd. A gaf fi ddechrau drwy ganmol Llywodraeth Cymru a'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod newid hinsawdd yn ganolog ar ei hagenda ar gyfer tymor y Senedd hon? Fel y nododd y WWF, a Delyth yn gynharach, un o effeithiau dinistriol newid hinsawdd yw colli bioamrywiaeth, gyda channoedd...
Carolyn Thomas: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ddod â dadl mor bwysig i'r Senedd? Mae dau fater allweddol yr hoffwn i eu trafod. Yn gyntaf, mae'r pwysau y mae'r gronfa codi'r gwastad yn ei roi ar awdurdodau lleol yn peri pryder gwirioneddol, wrth i awdurdodau lleol gael cyfnodau byr o amser i gyflwyno prosiectau i'w hystyried ar gyfer gyllid. Mae natur gystadleuol y broses gynnig, ochr yn ochr â...
Carolyn Thomas: Gwn fod y sefyllfa dai yn anodd i drigolion Ynys Môn. Mae wedi bod yn amlwg i mi drwy negeseuon e-bost fod angen mwy o dai fforddiadwy ar breswylwyr—felly, yn yr un modd. Prif Weinidog, rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy—dim ond y tymor diwethaf oedd hynny—ac am ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel eraill y...