Joel James: A gaf i alw am ddadl yn y Siambr hon ar fater yr hyn y mae modd ei wneud i ddarparu teithio mwy diogel ar gyfer marchogion ceffylau yng Nghymru? Mae perchnogaeth ceffylau yng Nghymru werth dros £0.5 biliwn i economi Cymru, ac mae'n rhan hanfodol o iechyd a lles llawer o bobl. I berchnogion ceffylau, mae marchogaeth ac ymarfer eu ceffylau yn rhan annatod o'u bywydau, ac yn rhywbeth y mae...
Joel James: Wel, nid wyf o reidrwydd yn poeni am y gorffennol—rwy'n poeni mwy am y presennol a'r dyfodol. Mae mesur cynhyrchiant yn fater cymhleth iawn ac nid oes cydberthynas linellol rhwng gweithio llai, cael eich talu yr un fath a chynnydd mewn cynhyrchiant. Os yw cynhyrchiant yn cynyddu, mae'n golygu bod rhaid i'r cyflogai wneud pum diwrnod o waith mewn pedwar diwrnod. Byddai'r cynigion hyn, yn fy...
Joel James: Gwnaf.
Joel James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rhaid imi gyfaddef, mae gennyf gryn gydymdeimlad â'r Dirprwy Weinidog; nid yn unig eich bod yn trafod materion sydd o fewn eich cylch gwaith, ond mae'n ymddangos yn awr fod yn rhaid ichi wastraffu amser gwerthfawr yn trafod materion nad oes gennych unrhyw ddylanwad drostynt o gwbl. Yn wir, credaf fod y Gweinidog wedi dweud yn gyhoeddus o'r blaen nad yw mater yr...
Joel James: Diolch—Janet, mae'n debyg. Os bydd unrhyw Lywodraeth am orfodi polisi o ddatgarboneiddio adeiladau, credaf y dylent arwain drwy esiampl, ac fel y sonioch chi am y map ffordd, dylent hefyd fod yn arloeswyr gyda'r defnydd o dechnoleg arloesol fel y gallant arddangos y dechnoleg i sefydliadau eraill. Amlygwyd y pwynt hwn yn ddiweddar gan y ffaith bod yr Adran Drafnidiaeth wedi cael ei...
Joel James: Mae'r strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer penodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn amlinellu y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau ar gyfer cynnal gwrandawiadau cyn penodi. Y rhesymeg, yn gwbl briodol yn fy marn i, yw sicrhau bod y broses recriwtio mor dryloyw a chadarn â phosibl. Rhwng 2018 a heddiw, cafwyd 296 o benodiadau cyhoeddus yng Nghymru, gyda 30 ohonynt yn...
Joel James: Rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod rhaglen Cymru ac Affrica yn rhaglen bwysig iawn. Yn anffodus, mae trefedigaethedd carbon ar gynnydd yn Affrica, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod gan Uganda broblem fawr gyda ffermwyr ymgynhaliol yn cael eu gorfodi oddi ar eu tir i wneud lle ar gyfer plannu coed y gellir eu defnyddio yn eu tro i werthu credydau carbon a gwrthbwyso allyriadau carbon gwledydd y...
Joel James: Diolch, Weinidog, am gadarnhau nad oes gennych unrhyw gytundebau gydag awdurdodau Uganda. Mae sawl prosiect plannu coed mawr yn Uganda wedi mynd ati gyda'r nod o blannu coedwigoedd a gwerthu'r credydau carbon. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod un credyd gwrthbwyso carbon yn cael ei gynhyrchu am bob tunnell o garbon a gedwir yn y coed yn hytrach na'i rhyddhau i'r atmosffer. Mae arolwg...
Joel James: Diolch, Lywydd. Cafwyd adroddiadau bod oddeutu 63 y cant o goedwig Uganda wedi'i thorri rhwng 1990 a 2015. Dywedodd Esther Mbayo, Gweinidog yn yr Arlywyddiaeth, yn 2016 fod llawer o bobl wedi bod yn ymwneud â thorri coed yn anghyfreithlon, gan gynnwys, a dyfynnaf, 'personél diogelwch, rhai gwleidyddion, swyddogion [coedwigoedd], masnachwyr coed, gwerthwyr siarcol a phobl leol.' Ychydig cyn...
Joel James: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wrandawiadau cyn penodi ar gyfer penodiadau cyhoeddus? OQ56845
Joel James: 3. Pa gynigion sydd gan Gomisiwn y Senedd i wneud ystâd y Senedd yn garbon niwtral? OQ56847
Joel James: Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio fy sylwadau cyn y toriad ynghylch rhaglen Haf o Hwyl, pan holais a oedd y cyllid ar gyfer y rhaglen hon yn ddigonol ai peidio o ystyried cyfraddau uchel gordewdra plant yng Nghymru. Yn ystod toriad yr haf, ymwelais â sefydliad a oedd yn darparu gweithgareddau ar gyfer yr Haf o Hwyl yng Nghanol De Cymru, ac roedd yn wych iawn gweld yr ystod o weithgareddau...
Joel James: —yn gallu eu creu i gwmnïau adeiladu yng Nghymru. Does bosib Dirprwy Weinidog, o gofio'r hyn sydd wedi ei ddweud, nad ydych chi'n cydnabod bod blaenoriaethau uwch ar gyfer bobl Cymru y mae angen rhoi llawer mwy o sylw brys iddyn nhw na'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael hwn. Diolch.
Joel James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid yw'r Bil cyntaf y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ei gyflwyno i'r chweched Senedd yn un sy'n ymdrin â'r argyfwng ymateb ambiwlansys nac â'r miloedd o bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am lawdriniaeth, ac nid yw'n ymdrin â'r pandemig COVID presennol hyd yn oed. [Torri ar draws.] Yn hytrach, mae'r Llywodraeth hon yn poeni'n bennaf am ofalu am eu cyflogwyr undebau...
Joel James: Eleni, dathlodd eglwys Sant Edward Gyffeswr yn y Rhath ganmlwyddiant ei hadeiladu yn 1921. Adeiladwyd yr eglwys yn wreiddiol yn 1915, ond fe'i dinistriwyd gan dân yn 1919, ac roedd ei hailadeiladu yn 1921 yn ffynhonnell o obaith i'r gymuned yn dilyn erchyllterau'r rhyfel byd cyntaf a'r dinistr a achoswyd gan bandemig ffliw Sbaen. Gan mlynedd yn ddiweddarach, fel yn 1921, mae'r byd ynghanol...
Joel James: Yn y cynllun adnewyddu a diwygio, dyrannwyd £5 miliwn i gefnogi gweithgareddau'r Haf o Hwyl, wedi'i anelu at iechyd a llesiant plant a phobl ifanc, i'w cymell i wneud gweithgarwch corfforol a chymdeithasu. Mae hon yn agwedd arbennig o bwysig ar y cynllun adnewyddu a diwygio gan ei fod yn mynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â gordewdra a sut y mae'n cyfrannu at ddiffyg hunanhyder...
Joel James: Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Bws Caerdydd a Stagecoach eu bod yn ôl-osod 49 o’u bysiau sy'n creu fwyaf o lygredd gyda thechnoleg glanhau egsôst er mwyn lleihau eu hallyriadau nitrogen ocsid 97 y cant, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn Lloegr, maent bellach gam ar y blaen ac wedi dechrau cyflwyno dyfeisiau hidlo aer a all dynnu cymaint â 65g o...
Joel James: 2. Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio technoleg arloesol i wella ansawdd aer yng Nghymru? OQ56760
Joel James: Gallaf, gallaf eich clywed chi nawr—perffaith. Iawn, diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am roi cyfle i ni roi sylw i'r gwelliannau i'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r tribiwnlys addysg, deddfwriaeth sy'n addo cael effaith sylweddol ar addysg yng Nghymru. Er bod trafodaethau cychwynnol ar y Ddeddf hon yn rhagflaenu fy etholiad, rwyf i ar ddeall, yn dilyn ymgynghoriad cynnar...
Joel James: Diolch, Gweinidog, am roi'r cyfle i ni ymdrin â'r gwelliannau i'r Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol a'r tribiwnlys addysg, deddfwriaeth sy'n addo cael effaith sylweddol ar addysg yng Nghymru. Er bod y trafodaethau cychwynnol ar y Ddeddf hon yn rhagflaenu fy etholiad i, rwyf i ar ddeall, yn dilyn—[Anghlywadwy.]