Peredur Owen Griffiths: Diolch i Jayne am roi ychydig o amser imi yn y ddadl fer hon heno. Rwyf am adleisio'r pwyntiau a wnaeth mor huawdl heno, oherwydd credaf yn sylfaenol ei bod yn bryd cael sgwrs genedlaethol ar gamddefnyddio sylweddau. Fel y dywedais yn ystod fy nadl fer yn gynharach y tymor hwn, nid yw'r status quo yn gweithio. Mae'n gwneud cam â theuluoedd, mae'n gwneud cam â chymunedau ac mae'n achosi...
Peredur Owen Griffiths: Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a basiodd drwy'r Senedd hon wedi'i chanmol gan lawer fel deddfwriaeth arloesol. Diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am y cyfle i drafod a yw realiti'r ddeddfwriaeth hon yn cyfiawnhau ei henw da. Er ei bod yn deillio o arloesedd a didwylledd, wrth i'r Ddeddf ddatblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg nad...
Peredur Owen Griffiths: Ers cael fy ethol, rwyf i wedi cynnal llawer o gymorthfeydd stryd, a phatrwm y byddwch chi'n ei weld yn aml yn y cymorthfeydd hyn, pan fydd fy nhîm i allan ym Mlaenau Gwent, yw cludiant i ysbyty'r Faenor. Rwy'n gwybod y gall gymryd hyd at 45 munud i deithio o'r Faenor i Dredegar, er enghraifft, gan fy mod i wedi ei wneud fy hun, ond os ydych chi'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gall fod...
Peredur Owen Griffiths: Ddirprwy Lywydd, mae craffu ar y gyllideb yn ganolog i'n gwaith. Fel pwyllgor, rydym eisiau bod yn gadarn ac yn drylwyr a sicrhau bod cyllidebau blynyddol y cyrff cyhoeddus a ystyrir yn rhan o'n gwaith yn gymesur ac yn gyfiawn. Credwn fod cyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn bodloni'r meini prawf hyn. Fodd bynnag, byddwn yn cadw llygad barcud ar gynlluniau gwariant y...
Peredur Owen Griffiths: Gwnaethom naw o argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas â’i gynigion. Rwyf wedi cael ymateb y Comisiwn i'n hadroddiad, ac rwy'n falch o weld bod wyth o’r argymhellion wedi cael eu derbyn ac un wedi ei dderbyn mewn egwyddor. Mae cyllideb ddrafft y Comisiwn yn nodi’r hyn mae’n bwriadu ei wario ar gyfer 2022-23 ac mae'n cynnwys cynigion ar gyfer cyllideb o £62.9 miliwn, sef cynnydd...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gychwyn drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23? Hoffwn ddiolch hefyd i Ken Skates, Comisiynydd y Senedd dros y gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd am fynychu'r Pwyllgor Cyllid i drafod eu cynigion. Rydym yn gwerthfawrogi'r modd agored ac adeiladol yr ymatebodd y Comisiynydd a'i...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. Mae llawer o'r sgyrsiau ynglŷn â'r ardoll iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr wedi canolbwyntio ar oedolion hŷn. Mae NSPCC Cymru yn poeni y gallai plant gael eu hanghofio os nad ydym yn sicrhau bod eu hanghenion yn rhan o'r sgwrs yma yng Nghymru. Mae data wedi dangos, ar lefel y DU, fod nifer y plant sy'n derbyn gofal yn tyfu'n gyflymach na'r boblogaeth sy'n blant. Ar yr...
Peredur Owen Griffiths: 1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i gyflwyno ardoll iechyd a gofal cymdeithasol i Gymru o fis Ebrill 2023 ymlaen? OQ57187
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i yn COP26 yn ddiweddar a'r brif thema oedd ein bod ni angen camau radical i newid ein tynged ar y blaned hon. Mae hyn yn cynnwys y ffordd yr ydym ni'n trefnu trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen iddi fod yn fwy deniadol os yw pobl yn mynd i gefnu ar eu ceir. Yn anffodus, mae'r newid diwylliant hwn y mae wir ei angen wedi cael ei lesteirio gan olygfeydd gorlawn fel...
Peredur Owen Griffiths: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog twf yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ57211
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gennyf sefyll yma yn y Senedd heddiw i siarad am garreg filltir bwysig i Flaenau Gwent. Ym 1971, yng nghartref Joyce Morgan o Six Bells, sefydlwyd band tref Abertyleri. Nawr, 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r band yn dathlu eu hanner canmlwyddiant gyda chyngerdd arbennig ddydd Sadwrn yn y Met yng nghanol y dref yn Abertyleri, gyda'r artist gwadd Dan...
Peredur Owen Griffiths: Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn gyfle i lawer oedi ac ystyried y rhai y mae gwrthdaro arfog ledled y byd wedi effeithio arnyn nhw. Fel rhywun a oedd â thad-cu a wasanaethodd ac sy'n ei gofio yn sôn am ei brofiadau, rwy'n gyfarwydd â'r effaith y gall y lluoedd arfog ei chael ar eich bywyd, yn dda ac yn ddrwg. Rydym ni'n gwybod o ymchwil a gafodd ei gynnal gan dîm Plaid Cymru yn San Steffan...
Peredur Owen Griffiths: Trefnydd, hoffwn i godi helynt trigolion a busnesau yn ardal ehangach Brynmawr y mae'r gwaith parhaus ar ffordd Blaenau'r Cymoedd yn effeithio arnyn nhw. Mae hon wedi bod yn saga hirhoedlog i'r bobl leol oherwydd bod gwaith wedi llusgo ymlaen ac ymlaen. Mae'r hyn a gafodd ei addo, sef cau'r ffordd ymuno am dri mis, wedi troi yn 15 mis. Rwy'n falch bod y ffordd ymuno, o ddydd Llun ymlaen, wedi...
Peredur Owen Griffiths: Nid wyf am ragdybio beth fydd ymatebion y bobl ifanc yn yr arolwg newydd, cyffrous hwn mae Rhun yn ei gychwyn heno, ond byddwn yn annog pobl ifanc i gymryd rhan. Fodd bynnag, hoffwn wybod a fydd y Llywodraeth yn ystyried argymhelliad Cymdeithas y Plant fel un rhan o'r ffordd y gallwn helpu i wrando ar bobl ifanc a'u cefnogi.
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd dros dro. Diolch am gael siarad heno, a diolch iti, Rhun, am ddod â'r pwnc yma gerbron. Dwi wedi cael trafodaeth yn ddiweddar gyda Tom Davies o'r Children's Society, ac yn ystod y cyfarfod fe esboniodd o ychydig am y gwaith da maen nhw'n ei wneud a'r gwaith da sy'n cael ei wneud yn y maes yma, a'r gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Roedd hefyd yn...
Peredur Owen Griffiths: Un o'r rhain yw bod Cymdeithas y Plant yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys gwaith mewngymorth gan wasanaethau iechyd i ategu ei chynllun ar gyfer gwell cefnogaeth iechyd meddwl mewn ysgolion, gyda chynnig cryf a chyson yn y gymuned i bobl ifanc, hyd at 25 oed, y gallai fod yn well ganddynt gael cefnogaeth y tu allan i addysg. Gellir darparu cefnogaeth yn y gymuned drwy hybiau...
Peredur Owen Griffiths: Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, a chyfarfûm â hwy eto heddiw; maent yn y Senedd heddiw, ac mae ganddynt lawer o gwestiynau heb eu hateb. Nid oes ganddynt fawr o ffydd y bydd ymchwiliad ledled y DU yn rhoi'r holl atebion y maent yn ysu amdanynt er mwyn rhoi tawelwch meddwl iddynt ar ôl marwolaeth perthynas agos. Mae un o'r prif gwestiynau...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr am yr ateb.
Peredur Owen Griffiths: Ar fater COP26, nodais eich trydariad am Brif Weinidog y DU yn eistedd wrth ymyl Syr David Attenborough heb fasg wyneb ac yn ymddangos fel pe bai'n cysgu. Y geiriau a ddefnyddioch chi i ddisgrifio Johnson yn eich trydariad oedd, ac rwy'n dyfynnu, 'gwarth cenedlaethol'. Nid wyf yn dadlau ynglŷn â hynny, ond yr hyn y mae gennyf broblem ag ef yw ffydd eich Llywodraeth y bydd San Steffan yn...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Lywydd. Oni bai bod eich pen wedi'i gladdu yn y tywod, fe fyddwch yn ymwybodol fod COP26 ar y gweill yn Glasgow yr wythnos hon. Mae llygredd aer yn agwedd bwysig ar yr argyfwng hinsawdd yma yng Nghymru, oherwydd dyna sydd i'w gyfrif am 1,400 o farwolaethau ac mae'n costio £1 biliwn y flwyddyn i GIG Cymru. O fewn fy rhanbarth i, wrth inni siarad mae rhes o dai newydd gael ei dymchwel...