Luke Fletcher: Prif amcan strategaeth 'Cymraeg 2050', wrth gwrs, yw sicrhau mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, a ffordd arwyddocaol o wneud hynny yw drwy addysg. Serch hynny, mae sawl teulu ym Mhencoed yn dal yn aros am apêl i glywed a fydd eu plant nhw yn cael mynd i Ysgol Bro Ogwr ym mis Medi. Os yw’r apêl yn methu, wedyn bydd angen i’r teuluoedd yma ddewis rhwng anfon eu plant ymhellach i ffwrdd i...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Weinidog, ac fel y gwyddoch mae'n siŵr, mae sawl math gwahanol o ddementia yn ogystal â chlefyd Alzheimer, sef y ffurf fwyaf cyffredin, sy'n effeithio ar tua 75 y cant o bobl yng Nghymru. Dementia cyrff Lewy yw'r ail fath mwyaf cyffredin o ddementia ymhlith pobl hŷn, math roedd fy mam-gu yn byw gydag ef, ond ni wyddys llawer amdano ac mae'r symptomau'n wahanol iawn i...
Luke Fletcher: Wrth gwrs, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd wedi rhybuddio y gallai cost ychwanegol i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd arwain at ddegau o filoedd o weithwyr yn wynebu cael eu diswyddo. Er mwyn sicrhau nad yw lleihau a dirwyn y cynllun ffyrlo i ben yn arwain yng Nghymru at y canlyniad posibl a amlinellwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw...
Luke Fletcher: Diolch, Weinidog, a byddwn yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd y sgyrsiau'n parhau gyda'r diwydiant nos fel y gallant gael eglurder wrth inni symud ymlaen. Os caf symud ymlaen at y cynllun cadw swyddi, bydd y Gweinidog unwaith eto'n ymwybodol wrth gwrs ein bod wedi cael sawl trafodaeth y tu allan i'r Siambr ar y pwnc hwn. Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau'r broses raddol o ddirwyn y cynllun cadw...
Luke Fletcher: Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod yn croesawu'r ffaith bod y cymorth cyfredol i fusnesau wedi'i ymestyn tan ddiwedd mis Awst, ac roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle, wrth gwrs, a ddarparwyd gan y Gweinidog i gael sesiwn friffio cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud. Ond wrth gwrs, rhai o'r sectorau sy'n cael eu taro galetaf yw'r rheini sy'n dibynnu ar aelodau'r cyhoedd yn cymysgu dan...
Luke Fletcher: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru? OQ56738
Luke Fletcher: Wrth gwrs, diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a'r copi o'i ddatganiad ymlaen llaw. Mae rhywfaint o newyddion da yn y diwydiant dur ar hyn o bryd. Rwy'n clywed bod y farchnad ar ei lefel uchaf ers 15 mlynedd, felly nawr yw'r amser perffaith i edrych ar ddatblygu'r sector ar gyfer y dyfodol, a dyna pam rwy'n credu bod y datganiad hwn i'w groesawu'n fawr. Ychydig o gwestiynau a phwyntiau. Yn...
Luke Fletcher: Diolch am yr ateb yna, Trefnydd. Mae nifer fawr o randdeiliaid wedi awgrymu y gallai datganoli'r broses o weinyddu lles gynnig cyfle i greu system fwy tosturiol. Dywedodd y comisiynydd pobl hŷn, er enghraifft, bod dull yr Alban wedi helpu i symud tybiaethau oddi wrth rhai o stigma a baich yn gysylltiedig â'r system. Gallai datganoli i Gymru ganiatáu i ni wneud yr un peth. Mae Canolfan...
Luke Fletcher: 7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd datganoli gweinyddu lles? OQ56748
Luke Fletcher: Mae canlyniad economaidd pandemig COVID-19 i'w deimlo ledled Cymru, a bydd i'w deimlo ar draws ein heconomi am flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, drwy fynd i'r afael â dirywiad bioamrywiaeth, gyda chyfres o dargedau clir ar gyfer cyflawni'r gwaith, gallwn greu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon ledled y wlad. Drwy fuddsoddi mewn natur, mewn adfer cynefinoedd a sgiliau gwyrdd, gallwn roi hwb i'r...
Luke Fletcher: Gan fod cau banciau yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru yn digwydd yn rhy gyffredin o lawer, mae'r weledigaeth a gyflwynwyd gan y tîm ym Manc Cambria yn un gyffrous. Er enghraifft, yn fy rhanbarth i, un banc yn unig sydd ar ôl yn etholaeth Ogwr, sy'n debyg i'r hyn a glywsom yn Ne Clwyd hefyd. Ac wrth gwrs, mewn rhai etholaethau maent mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl. Gallai fod...
Luke Fletcher: Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog fod Plaid Cymru yn gefnogol iawn i incwm sylfaenol cyffredinol, ac edrychwn ymlaen at weld y cynnig terfynol gan y Llywodraeth ar y cynllun peilot. Yn gyflym iawn, a yw'r Gweinidog wedi cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod trefniant ar waith fel na fydd unrhyw daliad incwm sylfaenol yn cyfrif yn erbyn unrhyw dderbynwyr a allai hefyd fod yn...
Luke Fletcher: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd datganoli gweinyddu lles?
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae llawer i'w groesawu yn y datganiad heddiw. Mae'n debyg iawn i gynnig Plaid Cymru yn ystod yr etholiad. Edrychwn ymlaen at weld y manylion, a byddwn yn cadw llygad ar ei weithrediad er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Mae'n gadarnhaol gwybod bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar enghreifftiau eraill, nid yn unig yn y DU, gobeithio, ond...
Luke Fletcher: Yn amlwg, hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod. Credaf fod gan Huw a minnau ddiddordeb cyffredin yn lleol gan fod y ddau ohonom yn hanu o etholaeth fendigedig Ogwr—fi ym Mhencoed a Huw, wrth gwrs, ym Maesteg. Ac wrth gwrs, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod gan y ddau ohonom aelodau o'r teulu sy'n aml yn dibynnu ar wasanaethau bysiau i gyrraedd y gwaith...
Luke Fletcher: Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol cyn etholiadau lleol 2022?
Luke Fletcher: Diolch yn fawr am yr ymateb, Brif Weinidog. Allaf i dynnu sylw'r Prif Weinidog at sir Pen-y-bont ar Ogwr am eiliad? Mae sawl teulu yn fy nhref enedigol, sef Pencoed, bellach, o bosib, yn wynebu sefyllfa lle na fyddant yn gallu anfon eu plant i'r ysgol gynradd Gymraeg agosaf ac, yn lle, bydd angen iddynt ddewis rhwng anfon eu plant hyd yn oed ymhellach i ffwrdd i dderbyn eu haddysg, neu ddewis...
Luke Fletcher: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau hawl pob plentyn i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru? OQ56659
Luke Fletcher: Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau hawl pob plentyn yng Nghymru i gael mynediad at addysg cyfrwng Gymraeg?
Luke Fletcher: —eu bod wedi'u defnyddio yn rhan o'r metrigau ar gyfer y gronfa hon, fel incwm aelwydydd. Incwm blynyddol cyfartalog aelwydydd yng Nghaerffili yw tua £15,000 y pen, sy'n sylweddol is na chyfartaledd y DU o £21,000, ac yn is na phob un rhanbarth yn Lloegr. Rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelod Delyth Jewell yn manylu mwy ar hyn yn nes ymlaen, ac fel y mae Hefin David newydd ei ddweud, bydd e'...