Lesley Griffiths: Diolch i Mike Hedges am ei gwestiynau. O ran targedau canolraddol, na, rwyf wedi gosod y targedau hynny. Fodd bynnag, yr hyn y byddaf yn ei wneud—pan gyflwynais y datganiad ar ynni ym mis Rhagfyr diwethaf, ymrwymais i adrodd yn flynyddol. Felly, y mis Rhagfyr hwn, byddaf yn cyflwyno diweddariad ar y datganiad polisi o'r llynedd. Rwy'n credu, fel rhan o'r datganiad polisi hwnnw, y...
Lesley Griffiths: Wel, Neil Hamilton, rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno. Fe gefais i fet fach pan oeddwn i'n gwneud rhywfaint o baratoi ar gyfer y datganiad heddiw—wyddoch chi, pa mor hir fyddai'n ei gymryd i chi grybwyll y gair 'Tsieina'. Felly, rwy'n falch na wnaethoch fy siomi. Ond mae'r dystiolaeth wyddonol yn glir: mae newid hinsawdd yn digwydd, ac mae’n debygol mai allyriadau nwyon...
Lesley Griffiths: Diolch i Simon Thomas am restr hir iawn o gwestiynau. Byddaf yn ymdrechu i ymdrin â nhw. Unwaith eto, fe wnaethoch godi pwynt tebyg i David Melding am y targed o 100 y cant. Rwy'n edrych yn ofalus iawn ar dargedau ac, fel y dywedais, fe wnaethon ni gymryd cyngor arbenigol. Ond ni chredaf y byddai'r grid yn cefnogi targed o 100 y cant ar hyn o bryd. Ni chredaf y byddai mecanweithiau marchnad...
Lesley Griffiths: Diolch i David Melding am groesawu'r datganiad a hefyd am ei gwestiynau. Roeddwn yn glir iawn i swyddogion fy mod eisiau targedau uchelgeisiol, ond cyraeddadwy. Rwyf yn clywed yr hyn a ddywedwch am yr Alban, ac rwy'n amlwg yn sylweddoli bod ganddynt darged o 1 GW o gynhyrchu mewn perchenogaeth leol, er enghraifft, erbyn 2020, a'n targed ni yw 2030. Ond ni chredaf y gallwch chi ein cymharu ni,...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Fis Rhagfyr diwethaf, gosodais fy mhrif flaenoriaethau mewn cysylltiad ag ynni. Heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar gyflymu'r broses o drosglwyddo'r system ynni yng Nghymru, yn enwedig trwy ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy. Mae ein system ynni wedi mynd trwy newidiadau dramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae trawsnewidiad pellach i ddod. Mae cytundeb Paris yn ennill...
Lesley Griffiths: Ie, ac yn ein trafodaethau, yn sicr, rwyf wedi rhoi gwybod i chi fy mod yn fwy na pharod i edrych ar bolisi cynllunio er mwyn sicrhau, fel y dywedwch, eu bod yn cael eu rhedeg yn dda iawn, gan nad oes dim yn waeth na’r math o lygredd y cyfeiriwch ato.
Lesley Griffiths: Diolch, ac fel y nodwyd gennych, Joyce Watson, er i mi ddweud bod nifer o achosion sylweddol o lygredd amaethyddol wedi bod, gellir eu priodoli i ganran fach iawn o ddaliadau amaethyddol. Nid yw aildroseddu parhaus yn dderbyniol ac wrth gwrs, dylai dirwyon weithredu fel rhwystr yn hytrach na chael eu gweld fel costau rhedeg. A chredaf, mewn rhai achosion, nad yw dirwyon yn briodol, ac mae ei...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae’r cynlluniau rheoli basnau afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn cynnwys asesiadau manwl o holl grynofeydd dŵr Cymru a mesurau i wella ansawdd dŵr. Cafwyd nifer o achosion sylweddol o lygredd amaethyddol dros y flwyddyn ddiwethaf a achosodd gryn ddifrod, ac rwyf wedi dweud yn glir nad yw’r digwyddiadau hyn yn dderbyniol.
Lesley Griffiths: Wel, credaf fod yr Aelod wedi fy holi ynglŷn â hyn tuag at ddiwedd y llynedd, yn ôl pob tebyg, a chredaf fy mod wedi dweud wrthych bryd hynny yr hyn rwyf am ei ddweud wrthych yn awr: rydym yn dal i aros i gyngor Conwy gyflwyno cynnig sy’n nodi dull partneriaeth y maent yn dymuno’i weithredu mewn perthynas â Hen Golwyn, a Bae Colwyn yn wir. Gwn fod y cyngor yn cael cyfarfod, fis nesaf...
Lesley Griffiths: Credaf eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn. Nid yw’n fater y mynegwyd pryder wrthyf yn ei gylch, ond byddwn yn fwy na pharod i’w drafod yn fy nghyfarfod nesaf gyda chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos nesaf, rwy’n credu, neu’r wythnos ar ôl hynny.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda Chyngor Conwy ar ddiogelu’r arfordir. Rydym wedi cefnogi gwaith arfarnu sy’n cynnwys y glannau ym Mae Colwyn i gyd, a hyd yn hyn, rydym wedi ariannu gwerth £26 miliwn o welliannau yno. Rydym yn trafod gyda’r cyngor ynglŷn â’u cynlluniau ar gyfer gwaith pellach ym Mae Colwyn.
Lesley Griffiths: Nid wyf yn ymwybodol o’r cynllun peilot hwnnw, ond os oedd hynny dair blynedd yn ôl, nid yw hynny’n golygu ei fod wedi cael ei gyflwyno, os mynnwch. Ond yn sicr, rwy’n barod i edrych ar hynny ac i ysgrifennu at yr Aelod.
Lesley Griffiths: Credaf y byddai’n well pe bai’r Aelod yn ysgrifennu ataf, oherwydd, fel y dywedais, nid yw’r grant y gofynnoch i mi yn ei gylch yn eich cwestiwn gwreiddiol yn bodoli. Mae Cyswllt Ffermio yn tueddu i gyfeirio ffermwyr a choedwigwyr at wahanol gynlluniau a grantiau. Felly, mae’n aneglur iawn i mi pa grant y cyfeiriwch ato. Felly, ie, credaf y byddai’n ddefnyddiol iawn pe bai’r Aelod...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae fy mholisi adnoddau naturiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu’r cyfleoedd i reoli llifogydd drwy ddefnyddio technegau naturiol i reoli risg llifogydd ar ein hucheldir ac ar dir isel. Ar yr ucheldiroedd, golyga hyn gymryd camau i gynyddu faint o ddŵr a gaiff ei storio drwy leihau dŵr ffo a selio pridd, ac ar y tir isel, arafu llif drwy fwy o orlifdiroedd naturiol.
Lesley Griffiths: Wel, ni allaf roi diwedd ar adolygiad y parthau perygl nitradau am ei fod yn ofyniad statudol o dan y gyfarwyddeb nitradau, felly credaf fod angen ei ystyried yn y cyswllt hwnnw. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael ymgynghoriad ar barthau perygl nitradau. Daeth hwnnw i ben ddiwedd mis Rhagfyr. Cawsom nifer fawr o ymatebion—dros 250, rwy’n credu—llawer iawn mwy na’r tro cynt y...
Lesley Griffiths: Nid oes unrhyw grant cyngor busnes Cyswllt Ffermio penodol. Fodd bynnag, mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth gwerthfawr sy’n canolbwyntio ar ysgogi moderneiddio, cynyddu ffyniant a chydnerthedd. Wrth i ni agosáu at Brexit a’r heriau sylweddol i ffermio a choedwigaeth a fydd yn deillio o hynny, fe ddaw Cyswllt Ffermio yn adnodd mwyfwy pwysig gan...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy’n awyddus i weld sector amaethyddol mwy effeithlon, proffidiol a chynaliadwy yng Nghymru. Rwy’n cynorthwyo ein ffermwyr i gyflawni hyn drwy ddefnydd arloesol o’r cyllid sydd ar gael, gan gynnwys y grant cynhyrchu cynaliadwy, y grant busnes i ffermydd, y fenter strategol ar gyfer amaethyddiaeth, yn ogystal â thrwy Cyswllt Ffermio.
Lesley Griffiths: Ni fuaswn yn dweud nad yw ffermwyr yn pryderu ble mae’r pwerau. Yn sicr, credaf fod y ffermwyr y bûm i mewn cysylltiad â hwy ac undebau’r ffermwyr yn bendant yn cydnabod bod y pwerau amaethyddol yn perthyn i bobl Cymru ac nid ydynt am weld Llywodraeth y DU yn cipio unrhyw bwerau. Rydych yn llygad eich lle—. Credaf, yn ôl pob tebyg—wel, cyn yr etholiad a alwyd ym mis Mehefin eleni,...
Lesley Griffiths: Credaf mai ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol yw un o’r tanosodiadau mwyaf i mi eu clywed eleni. Ar hyn o bryd, mae yna dwll du ar ôl 2022. Ni wyddom pa arian y byddwn yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Nid ydynt wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny. Cawsom addewid ganddynt cyn refferendwm yr UE y byddem yn cael pob ceiniog a gawn ar hyn o bryd, felly byddwn yn eu dal at hynny. Fe fyddwch yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy’n hynod o bryderus fod Llywodraeth y DU yn dal heb ymrwymo cyllid ar gyfer cymorth amaethyddol y tu hwnt i 2022, rhywbeth a addawyd gan George Eustice cyn y refferendwm. Yn y cyfamser, rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i sicrhau y bydd paratoadau ar waith er mwyn bod yn barod o’r diwrnod cyntaf, gan ei gwneud hi’n bosibl i’r taliadau barhau i gael eu gwneud.