Canlyniadau 2981–3000 o 4000 ar gyfer speaker:David Rees

10. Dadl: Brexit (22 Hyd 2019)

David Rees: Yn amlwg, ni fyddwch chi na minnau'n cytuno ar y safbwynt hwnnw. Af yn ôl at y cynnig ei hun mewn munud, ond mae'r ddadl ar y Bil, yr ydych chi eisoes wedi cytuno, a chredaf fod pawb yn eu calonnau yn y Siambr hon yn cytuno, na allwch chi wneud y gwaith yr ydych chi i fod i'w wneud mewn tri diwrnod. Mae'n amhosib, yn enwedig ar fater cyfansoddiadol mor bwysig, sydd, fel y dywedodd Rhun, yn...

10. Dadl: Brexit (22 Hyd 2019)

David Rees: Byddaf yn ceisio cadw hyn yn gryno, ond rwyf newydd glywed y sylwadau gan yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn tynnu sylw at ffigurau ffug mewn gwirionedd—nid 53 y cant mohono ond 52 y cant, dim ond i'w gywiro. Rwy'n gwybod ei fod yn hoffi gorliwio, hyd yn oed o un. Mae'n bwysig ein bod yn deall democratiaeth, a'r hyn y mae democratiaeth yn ei olygu yw cymryd ein hamser i ymdrin â...

10. Dadl: Brexit (22 Hyd 2019)

David Rees: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

10. Dadl: Brexit (22 Hyd 2019)

David Rees: Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwyf newydd eich clywed ac, yn amlwg, rydych yn poeni cymaint â mi am y brys, yn enwedig o ran sicrhau amser i edrych ar y dogfennau hyn. Ond rydych chi newydd grybwyll fod pobl eisiau edrych ar y farchnad gyffredin, bod yr undeb tollau yn fater cynhenus i lawer o bobl. Roeddwn yn wynebu llawer o gwestiynau—nad oedden nhw eisiau'r UE ond, pan...

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025 (22 Hyd 2019)

David Rees: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a gwneud ambell sylw am ei ddatganiad? Rwy'n croesawu'r uchelgais sydd yn y datganiad hwnnw a'r awydd i ddewis strategaeth benodol nid yn unig i ddenu mwy o ymwelwyr ond i gynnig profiad gwahanol i ymwelwyr sy'n dod i Gymru, ac mae hynny'n hollbwysig. Fy mhryder i, wrth edrych drwy'r datganiad, yw ein bod yn sôn yn aml am rai digwyddiadau megis...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Aberafan (22 Hyd 2019)

David Rees: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Nawr, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd cwmni Hi-Lex Cable System ei fod yn mynd i gau ei ffatri, gan golli 125 o swyddi crefftus â chyflogau da o ganlyniad i ragolwg o golli gwerthiant yn sgil Brexit, gan fod gwaith Honda Swindon yn mynd i gau o ganlyniad. Nawr, yr hyn sydd gennym ni yn y fan yma yw unigolion hynod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Aberafan (22 Hyd 2019)

David Rees: 5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Aberafan am weddill y Cynulliad hwn? OAQ54612

4. Cwestiynau Amserol: Hi-Lex (16 Hyd 2019)

David Rees: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Roedd Hi-Lex Cable System Company Limited yn un o'r busnesau cyntaf i symud i Barc Ynni Baglan yn ôl yn y 1990au. Mae wedi bod yno ers dros 20 mlynedd, ac mae wedi bod yn gwneud elw. Rydych wedi tynnu sylw yn briodol at y ffaith mai un o'r problemau y mae'n eu hwynebu yn awr yw colli cwsmeriaid oherwydd yr ansicrwydd yn y sector modurol, yn...

4. Cwestiynau Amserol: Hi-Lex (16 Hyd 2019)

David Rees: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cau Hi-Lex a cholli 120 o swyddi ym Mharc Ynni Baglan? 355

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 Hyd 2019)

David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, y llynedd, lluniwyd adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn gan Lywodraeth Cymru i'r gwaith rhagorol a gynhyrchwyd ganddyn nhw, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau ar rai o'r argymhellion hynny. Er hynny, un o'r argymhellion pwysicaf ynddo oedd sefydlu uned mam a'i...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ailblannu Coed yng Nghwm Afan ( 9 Hyd 2019)

David Rees: Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall pa gynlluniau sydd gennym. Pe gallem gael amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw, byddai'n ddiddorol. Oherwydd ar ddechrau'r ddegawd, gwelsom ddatgoedwigo o ganlyniad i'r clefyd. Gwelsom y difrod a wnaed i goedwigaeth oherwydd bod ffermydd gwynt yn cael eu hadeiladu yng nghwm Afan. Canlyniadau'r rheini yw colli...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Polisi Ffracio ( 9 Hyd 2019)

David Rees: Weinidog, mae'n galonogol iawn clywed bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i gwrthwynebiad cadarn i ffracio, yn enwedig y goblygiadau y mae hynny'n eu creu i'n hamgylchedd yn gymaint ag unrhyw beth arall. Ond o ran ffracio, ceir profion ar dyllau turio dwfn hefyd, ac mae peth o'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal. Oherwydd hynny, a allwch gael trafodaethau...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ailblannu Coed yng Nghwm Afan ( 9 Hyd 2019)

David Rees: 10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ailblannu coed yng Nghwm Afan ar ôl cwympo coed yn yr ardal? OAQ54499

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Rhatach ( 8 Hyd 2019)

David Rees: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a byddaf yn gryno iawn oherwydd bod llawer ynghylch y mater hwn wedi'i ddweud eisoes, Dirprwy Lywydd. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am y newidiadau i'r oedran gwladol sef y caiff ei godi'n raddol, ond nid ydym yn cael unrhyw fath o gynllun ynglŷn â phryd y bydd hynny'n digwydd, dim ond y ffaith y bydd Ebrill 2022 yn fan cychwyn, ond nid oes...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Hyd 2019)

David Rees: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr amgylchedd, os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, roedd trigolion yn fy etholaeth i, yn enwedig yn ardaloedd Margam, Port Talbot a Taibach, wedi bod yn agored i lygredd sŵn mawr ynghyd â chymylau enfawr o lwch du amlwg yn dod o'r ffwrneisi chwyth gan fod angen offer gollwng i ryddhau'r pwysau. Nawr, pan wnaeth Tata ei gyhoeddiad am hyn,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe ( 8 Hyd 2019)

David Rees: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae'n ddefnyddiol iawn deall ein bod wedi gweld gostyngiad—ac rydym ni wedi gweld gostyngiad, yn enwedig o ran cyflyrau sy'n peryglu bywyd. Rwyf i'n cofio adeg pan oedd yr amser aros am lawdriniaeth ar y galon dros 12 mis, a chanser hefyd yn amser hir, ond maen nhw wedi dod i lawr yn sylweddol. Ond wrth i ni weld y gostyngiad mewn amseroedd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe ( 8 Hyd 2019)

David Rees: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OAQ54502

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol ( 2 Hyd 2019)

David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi yn gyntaf ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd, ac nid yr Aelodau hynny a gyfrannodd heddiw yn unig, ond hefyd y rhai sydd wedi cyfrannu mewn dadleuon eraill ar dreftadaeth ddiwydiannol? Oherwydd rydych chi i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o amlygu sut y mae treftadaeth ddiwydiannol yn bwysig i ni, a sut y gall helpu i adfywio cymunedau ledled...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol ( 2 Hyd 2019)

David Rees: A gaf fi ddiolch i'm cyd-Aelod, yr Aelod dros Ogwr, am dynnu sylw at y twneli amrywiol sy'n bodoli? Mae'r twnnel o Caerau i'r Cymer, yn amlwg, yn un o'r rhai y soniais amdanynt yn gynharach. Mae'n un o'r twneli yn y Cymoedd sydd wedi'u hystyried yn ofalus iawn. Fe dynnoch chi sylw at y pwynt, mewn gwirionedd, ei fod yn ymwneud â mwy na'r hyn y gallwn ei wneud pan fyddwn yn adnewyddu'r twneli...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.