Canlyniadau 3001–3020 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Inswleiddio Diffygiol ar Waliau Ceudod
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod, ac fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cyntaf i Dawn Bowden fod fy swyddogion i fod i gyfarfod eto gyda’r Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Mae’r cyfarfodydd hynny’n parhau. Yn amlwg, maent wedi cyfarfod â hwy eisoes, a chredaf fod yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl yn amlwg yn cydnabod y problemau sy’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Inswleiddio Diffygiol ar Waliau Ceudod
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Yn sicr, mae’r broblem yn cael fy sylw parhaus. Credaf fy mod yn cael o leiaf un eitem o ohebiaeth yr wythnos ar y mater hwn. Fe fydd yr Aelod yn gwybod bod bron yr holl waith gosod waliau ceudod yn cael ei wneud gan osodwyr o dan gynlluniau hunanardystio personau cymwys y rheoliadau adeiladu. Fel y dywedais, byddaf mewn sefyllfa, gobeithio, i wneud y cyhoeddiad hwnnw ar ôl 1 Hydref. Gwn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Inswleiddio Diffygiol ar Waliau Ceudod
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Yn ychwanegol at fy natganiad ysgrifenedig ar 13 Mehefin, rwy’n disgwyl gwneud newidiadau i ofynion y cynllun personau cymwys er mwyn helpu i sicrhau nad yw deunydd inswleiddio yn cael ei osod mewn eiddo anaddas o 1 Hydref 2017. Ar gyfer deunydd inswleiddio sydd eisoes wedi’i osod, bydd swyddogion yn cyfarfod â’r prif ddarparwr gwarantau, yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Asesiadau o Effaith Amgylcheddol
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Mae’n hollbwysig fod unrhyw rai sy’n gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag unrhyw sefydliad yn hollol ymwybodol o’r effeithiau amgylcheddol wrth wneud penderfyniadau, ond rwy’n fwy na pharod i edrych ar hyn ac i ysgrifennu at yr Aelod.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Asesiadau o Effaith Amgylcheddol
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Ni allaf roi ateb penodol i chi o ran y ffigur, ond gwyddom y gall plant ysgol Cymru fod yn agored i lefelau uchel o lygredd pan fyddant yn teithio i ac o ysgolion, lawn cymaint â phan fyddant ar dir yr ysgol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi dechrau ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i helpu i lunio’r gwaith ar fframwaith parthau aer glân i Gymru, ac mae hynny’n cael ei...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Asesiadau o Effaith Amgylcheddol
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Ni allaf wneud sylwadau ar broses penderfyniad penodol a wnaed flynyddoedd yn ôl, ond gallaf roi sicrwydd i chi fod pob cais am drwydded forol yn cael ei ystyried yn unol â’r gofynion cyfreithiol a nodir yn Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a’r Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007. Mae’r rheoliadau’n darparu gweithdrefnau i bennu’r angen...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Nid wyf yn credu ei fod yn fater o betruso; credaf ei fod yn fater o gael pethau’n iawn. Mae’n rhaid i chi gydnabod cost y pethau hyn hefyd. Efallai, pe baem wedi cael ychydig mwy o arian gan eich Llywodraeth Dorïaidd yn y DU, efallai y byddai modd inni wneud popeth. Ond nid yw’r gyllideb yn—[Torri ar draws.] Fe fyddwch yn deall y pethau hyn. Felly, er enghraifft, mae’r gost o osod...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Asesiadau o Effaith Amgylcheddol
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Cyfeiria ‘asesiad o effaith amgylcheddol’ at broses ffurfiol a nodir yn y rheoliadau ar gyfer asesu, ymgynghori a dod i benderfyniad ar brosiectau penodol sy’n ofynnol o dan y gyfarwyddeb asesu effeithiau Amgylcheddol. Lle nad oes angen asesiad o effaith amgylcheddol, ystyrir effeithiau amgylcheddol cynigion gan wahanol gyfundrefnau caniatâd cyn i’r datblygiad ddechrau.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Mewn perthynas â’ch cwestiwn cyntaf, nid mater o ‘aros i weld ynglŷn â Llywodraeth y DU’ yw hyn. Fe fyddwch yn deall bod y rhaglen ddeddfwriaethol—[Torri ar draws.] Fe fyddwch yn deall bod y rhaglen ddeddfwriaethol yma yn brysur iawn, yn niffyg gair gwell. Rwy’n gorfod sicrhau bod gennyf ddeddfwriaeth yn cael ei hystyried yn barod ar gyfer y cyfnod ôl-Brexit. Roeddwn o’r farn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Ni allaf gofio a gefais y cyfarfod â Chymdeithas Ynni Dŵr Prydain cyn neu ar ôl i mi fod gerbron y pwyllgor, ond roedd yn sicr o gwmpas yr amser hwnnw. Unwaith eto, rwyf wedi rhannu gohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fel y mae’r gymdeithas ei hun wedi’i wneud. Felly, os caf, fe ysgrifennaf at yr Aelod gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Nid oes gennym syrcasau wedi’u trwyddedu yng Nghymru. Rwyf wedi cael o leiaf ddau gyfarfod gyda’r Arglwydd Gardiner, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros hyn yn Llywodraeth y DU. Penderfynasom y byddem yn gweithio’n agos iawn gyda hwy ar y posibilrwydd o gael gwaharddiad ar y cyd. Cyfarfûm â’r Arglwydd Gardiner ddiwethaf allan ym Mrwsel mewn cyngor amaeth, a chredaf fy mod i gael y...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: ‘Ydy’ yw’r ateb cryno. Credaf fy mod yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yr wythnos nesaf, ond nid wyf yn siŵr a yw hynny ar yr agenda. Ond yn sicr, mae’n rhywbeth rydym wedi dechrau ei drafod. Rwy’n ymrwymedig iawn i leihau sbwriel morol, ac efallai eich bod yn ymwybodol fod rhanddeiliaid wedi ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen ar sbwriel morol i...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Yn anffodus, ni chefais gyfle i gyfarfod â’r criw. Nid wyf yn cofio beth ddigwyddodd—credaf fy mod mewn rhan arall o Gymru ar y pryd, felly ni chefais gyfle i gyfarfod â hwy, ond roeddwn yn ymwybodol fod Simon wedi cyfarfod â hwy. Rwy’n siŵr fod Simon Thomas hefyd yn ymwybodol fy mod wedi treulio diwrnod gyda Roseanna Cunningham, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Credaf mai’r gair perthnasol yn hynny o beth yw ‘cydbwyso’. Rydych yn llygad eich lle. Fe sonioch chi am ganŵ-wyr a physgotwyr, ac fe sonioch chi am ganiatáu beicio ar lwybrau ceffylau. Mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn awyddus, yn rhai o’r trafodaethau a gefais dros yr haf, i weld aml-ddefnydd ar y llwybrau hyn: maent yn awyddus i weld llwybrau troed, beicwyr a marchogaeth ar yr...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Yn hollol, ac mae hynny’n rhywbeth y credaf inni gynnal gweithdai yn ei gylch dros yr haf, ac mae’n sicr yn rhywbeth a fynegwyd wrthyf. Mae angen inni weithio gyda’n gilydd i nodi’r dull gorau o weithredu yn y dyfodol. Felly, gallwn ystyried hynny, yn sicr, pan fydd ymatebion yr ymgynghoriad wedi dod i law ac yn cael eu hasesu.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fe’i hymestynnais, fel y dywedwch, hyd at 30 Medi, yn dilyn sylwadau gan yr undebau amaeth a sefydliadau amgylcheddol eraill. Ac yn sicr, yn ystod toriad yr haf, pan fûm yn mynychu’r sioeau amaethyddol, ac wrth ymweld â lleoliadau amaethyddol ac amgylcheddol, roedd yn glir iawn, yn enwedig dros yr haf hefyd, fod y ddogfen yn un fawr, a’u bod yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Dulliau Rheoli Newydd ar gyfer Pysgota Eogiaid a Sewin
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Rydych yn llygad eich lle. Yn fy marn i, mae angen i unrhyw ymgynghoriad fod yn ystyrlon, felly mae’n bwysig iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrando ar bob safbwynt. A gwn eu bod yn derbyn bod hwn yn fater difrifol iawn ac y bydd angen iddynt wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n galed iawn er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl wrth symud ymlaen.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Dulliau Rheoli Newydd ar gyfer Pysgota Eogiaid a Sewin
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Ie, mae’n hollbwysig eu bod yn gwneud hynny. Fel y dywedais, nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth, ond rwy’n sicr wedi cael trafodaethau ynglŷn â hyn yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod eogiaid a sewin yn rhywogaethau eiconig a phwysig iawn yn afonydd Cymru, ac wrth gwrs, maent o fudd i economi...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Sefydlu Cofrestr Cam-drin Anifeiliaid yng Nghymru
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Yn hollol. Nid ydym wedi manylu ar hynny yn ein trafodaethau eto. Ond fel y dywedais, dros y misoedd nesaf, rwy’n siŵr y bydd y trafodaethau hynny gyda Carl Sargeant a minnau yn cynyddu.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Dulliau Rheoli Newydd ar gyfer Pysgota Eogiaid a Sewin
(20 Med 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Byddai’n anaddas imi wneud sylwadau ar y mater hwn tra bo Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno mesurau rheoli newydd ar gyfer pysgota eogiaid a sewin. Daw eu hymgynghoriad i ben ar 14 Tachwedd, a byddaf yn ystyried eu hargymhellion wedi hynny.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.